A female reporter operates a television camera

Ymchwiliad: Ydy’r BBC yn talu menywod a dynion yn gyfartal am waith cyfwerth?

Ein camau

Ymchwiliom i wahaniaethu ar sail cyflog a ddrwgdybir a ddigwyddodd yn y gorffennol yn erbyn menywod yn y BBC.

 

Beth sydd yn cael ei gynnwys

Edrychom ar sampl o gwynion cyflog ffurfiol ac anffurfiol a godwyd gyda’r BBC gan staff o 1 Ionawr 2016. Edrychom hefyd ar y systemau a’r prosesau a ddefnyddiodd y BBC ar gyfer gosod cyflog ac asesu cwynion.

Roeddem am ganfod p’un ai a oedd gwahaniaethu cyflog anghyfreithlon wedi digwydd neu beidio yn erbyn menywod ac a oedd y cwynion wedi’u datrys yn ddigonol.

Canfod rhagor o wybodaeth am yr hyn yr oedd yr ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn y cylch gorchwyl:

Gwnaethom ddiwygio’r cylch gorchwyl ar 20 Chwefror 2020 i gynnwys paragraff ychwanegol, 5A:

Pam yr oeddem yn ymwneud â hyn

Yn dilyn cwynion nad oedd cyflogeion a oedd yn fenywod yn cael yr un tâl â dynion am wneud gwaith cyfwerth, roedd y BBC yn wirfoddol wedi darparu swm sylweddol o wybodaeth i ni ynglŷn â’i bolisïau ac arferion talu.

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth, roeddem yn drwgdybio nad yw rhai menywod yn y sefydliad wedi cael cyflog cyfartal am waith cyfwerth.

Defnyddiom ein pwerau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb  i agor ymchwiliad

Y canlyniad

Ni chanfyddom unrhyw wahaniaethu cyflog anghyfreithlon yn yr achosion a ddadansoddom yn ystod ein hymchwiliad. Ond nodom rai meysydd lle gall y BBC wneud gwelliannau i ailadeiladu ymddiriedaeth gyda menywod yn y sefydliad a chynyddu tryloywder ynghylch gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.

Cyhoeddom adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Jan 2021