Ymchwiliad i’r Blaid Lafur

Ein camau

Ymchwiliom i honiadau gwrthsemitiaeth yn y Blaid Lafur.

Cynnwys yr ymchwiliad

Edrychom ar:

  • p’un ai a gafodd gweithredoedd anghyfreithlon eu cyflawni gan y Blaid neu’i chyflogeion neu’i hasiantau
  • p’un ai a wnaeth y Blaid drin cwynion gwrthsemitiaeth mewn ffordd gyfreithlon, effeithlon ac effeithiol
  • p’un ai a yw’r Llyfr Rheolau a phrosesau trin cwynion y Blaid wedi’i halluogi neu allai’i halluogi i ddelio’n effeithlon ac yn effeithiol gyda chwynion gwrthsemitiaeth, gan gynnwys a yw  sancsiynau priodol wedi neu gallai fod wedi’u cymhwyso
  • y camau a gymerodd y Blaid i weithredu’r argymhellion a wnaed yn adroddiadau Chakrabarti, Royall, a’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref.

Lawr lwytho’r cylch gorchwyl llawn (yn Saesneg)

Pam yr ydym ni’n ymwneud â hyn

Cysylltom â’r Blaid Lafur ar ôl cael nifer o gwynion am honiadau o wrth-semitiaeth yn y Blaid.

Ystyriom ymateb y Blaid Lafur yn ofalus ac agor ymchwiliad ffurfiol gan ddefnyddio’n pwerau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Y canlyniad

Canfu’n hymchwiliad fod y Blaid Lafur wedi cyflawni gweithrediadau anghyfreithlon.

Cyhoeddom adroddiad am ein canfyddiadau, gan gynnwys ein hargymhellion ar gyfer newid.

Bellach mae’r Blaid Lafur wedi’i gorfodi’n ôl y gyfraith i lunio cynllun gweithredu i daclo’r canfyddiadau cam anghyfreithlon  a ganfuom. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ein hargymhellion.

Unwaith caiff y cynllun gweithredu ei gytuno arno, gwnawn barhau i’w fonitro. Os bydd y Blaid Lafur yn methu cyflawni’i hymrwymiadau yn y cynllun gweithredu sydd yn rhwym yn gyfreithiol, gallem gymryd camau gorfodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Jan 2021