Astudiaeth achos byr ar gyfer Tîm Cysylltu a Dargyfeirio Dorset, lle mae’r heddlu a’r GIG yn cydweithio gydag arbenigwyr iechyd meddwl.
Mae Cynllun Cysylltu a Dargyfeirio Dorset wedi parhau i esblygu ochr yn ochr â brysbennu stryd dros y 12 mis diwethaf. Menter barhaus yw’r prosiect brysbennu stryd y mae’r heddlu a’r gwasanaethau iechyd meddwl yn cydweithio ynddo i sicrhau bod pobl yn cael gofal priodol pan gaiff yr heddlu eu galw at berson mewn trybini.
Maen nhw wedi elwa ar ddealltwriaeth well o nodweddion y rheini y maen nhw wedi eu cadw’n gaeth o dan adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn dilyn gwaith ymchwil gan Brifysgol Bournemouth.
Nodwyd y ffactorau a ganlyn:
- Meddyliau am ladd eu hunain 79%
- Materion iechyd meddwl 79%
- Materion alcohol a chyffuriau 56%
- Materion perthynas rhyngbersonol 45%
- Materion llety 16%
- Profedigaeth 8%
- Materion swyddi 7%
- Salwch corfforol 3%
Mae’r astudiaeth wedi rhoi goleuni pellach ar anghenion cymhleth. O ystyried amrywiaeth y ffactorau dan sylw, nododd yr adroddiad fod angen ymagwedd holistig i ddarpariaeth gwasanaethau. Cafodd grŵp comisiynu aml-asiantaeth ei sefydlu’n ddiweddar yn Dorset sy’n cynnwys ystod o wasanaethau iechyd a gofal. Un o’r heriau allweddol y maen nhw’n ei wynebu yw bod y trothwyau dros ddargyfeirio yn uchel. Cynllunio a chomisiynu gwasanaethau mwy treiddgar oedd eu hymateb, yn aml drwy gydweithio’n glos â’r trydydd sector, megis darparu gweithiwr cymorth i’r rheini sy’n cael eu cadw’n gaeth yn rheolaidd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 05 May 2016