Menter arloesol y sector gwirfoddol yw Dial House a gafodd ei sefydlu ym 1999. Mae’n darparu cymorth i’r rheini sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. Mae’n darparu amgylchedd cartrefol lle all bobl gael cymorth un wrth un gan y tîm o Weithwyr Cymorth mewn Argyfwng. Caiff ei redeg gan y rheini sydd wedi profi argyfwng eu hunain a’i nod yw gwella’r gofal y maen nhw o’r farn, y gellid ac y dylid fod wedi ei ddarparu iddyn nhw.
Gallan nhw ymdopi ag i fyny at 8 o bobl o 6pm - 2am, ddydd Gwener i ddydd Llun. Dyma’r cyfnod nad yw’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau prif ffrwd ar gael. At hynny, maen nhw’n rhedeg llinell gymorth sydd ar agor o 6pm-2am a grwpiau cymorth. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau BME ac LGBT penodol ac maen nhw yn y broses o ehangu eu hymrwymiad â’r gymuned Fyddar.
Mae i fyny at 68% o’u hymwelwyr yn teimlo fel lladd eu hunain, gydag oddeutu 50% yn hunan niweidio. Mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â goresgynwyr trawma ac yn fwyaf cyffredin, camdriniaeth rywiol. Maen nhw’n arbennig o lwyddiannus gyda’r rheini sydd wedi eu heithrio rhag gwasanaethau neu sydd yn ei chael yn anodd ymgysylltu. Gall hyn gynnwys y rheini â hanes treisgar neu’r rheini a gafodd diagnosis o anhwylder personoliaeth. Mae hefyd oddeutu 5-6 o bobl draws sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd. Mae hyn yn bwysig gan y nodir hwy yn enwedig o fregus, gyda gwaith ymchwil gan yr elusen iechyd meddwl, Pace, yn canfod bod 48% o bobl draws dan 26 oed wedi ceisio lladd eu hunain. Er nad oes perthynas weithio ffurfiol ganddyn nhw â’r heddlu, mae nifer o swyddogion yn cyfeirio pobl atyn nhw’n rheolaidd. Menywod yw’r rhain yn gyffredinol sydd wedi cael eu treisio’n rhywiol neu eu cam-drin yn rhywiol.
Canolbwyntio ar yr unigolyn ei hunan yw eu hymagwedd cyffredinol. Eu nod cyffredinol yw darparu gwasanaeth parchus, empathig, holistig, sy ddim yn cyfarwyddo na barnu. Yn sylfaenol i hyn yw’r gred y bod pobl yn gwneud eu gorau glas yn yr amgylchiadau y maen nhw yddyn nhw. Caiff y gwaith ei arwain gan y cleient yn y gred mai ganddyn nhw y mae’r adnoddau yn eu hunain i ganfod eu hatebion eu hunain. Mewn gwirionedd mae hyn yn golygu cefnogi unigolion i gydnabod a datblygu eu strategaethau eu hunain dros atal a rheoli argyfwng ac i fynd i’r afael ag unigedd a’i broblemau cysylltiol.
Mae ganddyn nhw ymagwedd neilltuol i reoli risg. Yn gryno, ymddiried mewn pobl ydyw a rhoi’r rheolaeth yn eu dwylo nhw gymaint â phosibl. Mae gorbwysleisio ‘avoiding the bad’, yn eu barn nhw wedi helpu creu diwylliant o feio yn y gwasanaethau prif ffrwd, gan rwystro i bethau rhag cael eu newid a lleihau grym defnyddwyr gwasanaeth.
Er eu bod yn cynnal eu cyfrinachedd a’u safle fel gwasanaeth amgen a gwahanol, maen nhw’n cydweithio’n effeithiol â darparwyr eraill. Caiff Dial House ei ariannu’n bennaf gan y GIG ac awdurdod lleol.
Oherwydd eu llwyddiannau, mae gwasanaethau tebyg eraill wedi eu sefydlu ledled y wlad, naill ai wedi ei sefydlu ar y model hwn neu ei ddylanwadu ganddo. Maen nhw wedi ennill nifer o wobrwyon.
Meddai defnyddiwr o’u gwasanaethau:
'Des i gyntaf i Dial House tua 2 ½ blynedd yn ôl. Ar y pryd, roeddwn yn dioddef iselder ysbryd difrifol ac yn gaeth i gyffuriau. Roedd pethau wedi mynd yn hynod flêr arnaf ond bu’r staff yma yn gefn i mi, heb fy marnu ond yn hytrach rhoi’r modd i fi gredu yn fy hunan a roddodd obaith i mi a’m helpu ar y ffordd i wella. Rwy’n o dda bellach ac mae Dial House yn dal yn gefn i mi. Rwy mor ddiolchgar i Dial House. Diolch yn fawr.'
Diweddarwyd ddiwethaf: 03 Nov 2016