Lansiodd heddlu Dyfed Powys wasanaeth brysbennu stryd yn 2015 ar gyfer ymateb i alwadau lle nodwyd problemau iechyd meddwl posibl. Menter barhaus yw’r prosiect brysbennu stryd sy’n gweld yr heddlu a gwasanaethau iechyd meddwl yn cydweithio i sicrhau bod pobl yn cael gofal priodol pan gaiff yr heddlu eu galw at unigolyn mewn gofid.
Y nod oedd sicrhau bod yr opsiynau lleiaf ymwthiol yn cael eu defnyddio pryd bynnag yr oedd yn bosibl. Mae carchariadau adran 136 yn nodweddiadol yn cymryd cryn dipyn o amser yr heddlu. Mae defnyddio celloedd yr heddlu i gadw pobl yn gaeth wedi gostwng o bron 50 y cant yn y 12 mis cyntaf, sy’n gyfystyr â chryn dipyn o arbed effeithlonrwydd. Ar y cychwyn, roedd angen ymdrech a pherswâd sylweddol i roi partneriaethau effeithiol ar waith ar draws yr heddlu a’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Mae maint a natur wledig y rhanbarth wedi dylanwadu ar y math o wasanaeth brysbennu a ddatblygwyd. Cafodd model hybrid ei fabwysiadu a oedd yn cyfuno cerbyd plaen yr heddlu â chymorth ffonio a swyddogion y llinell flaen. Mae nyrsys iechyd meddwl bellach wedi eu lleoli yn y pencadlys ac yn helpu i asesu gwybodaeth wrth iddo gyrraedd.
Mae rhaglen hyfforddi, a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2015, yn anelu at gyflenwi hyfforddiant ar godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i bob swyddog yn yr heddlu, hyd at lefel y prif gwnstabl. Yn bwysig, cafodd ymarferwyr Iechyd Meddwl eu cynnwys wrth ei gynllunio a’i gyflenwi, gan gynnwys hyfforddiant manylach i’r rheini yn y tîm brysbennu. Mae’r heddlu, bellach, drwyddo draw yn deall yn llawer gwell bod mathau gwahanol o unedau iechyd meddwl, ac y dylai pobl gael eu trin yn hytrach na’u carcharu. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Iau tan ddydd Sul o 4pm tan hanner nos. Mae, fodd bynnag, gryn dipyn o alw ar ôl canol nos ac maen nhw’n ystyried ei ymestyn tan 4am. Er ei fod yn heriol, maen nhw o’r farn bod digon o frwdfrydedd o fewn y tîm i’w galluogi i gael y staff i’w gyflenwi.
Rhoddwyd rhyddid i’r rheini sy’n cyflawni’r gwasanaeth i’w ailffurfio a’i ddatblygu’n barhaol, wrth i’w dealltwriaeth a’u dadansoddi datblygu. Mae adolygiadau ac ad-werthusiadau cyson, gyda chymorth Prifysgol De Cymru, wedi helpu i lywio eu meddwl. Yn y dyfodol bydd hyn yn cynnwys 8-12 wythnos o waith dilynol gyda’r rhai a gedwir yn gaeth i nodi arfer orau.
Roedd canfod bod y grŵp cleientiaid yn llawer hŷn nag a ddisgwylid yn ganfyddiad annisgwyl, gyda dynion sengl 65 oed a hŷn yn gofyn am gryn dipyn o sylw. Maes arall o alw mawr oedd Prifysgol Aberystwyth ac roedd y galw ar ei anterth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae safle daearyddol anghysbell y brifysgol yn her i’r tîm, yn enwedig oherwydd diffyg unrhyw ganolfan gofal brys lleol. Mae ymgysylltu rhagweithiol â swyddogion lles myfyrwyr wedi eu helpu i reoli hyn.
Mae ymrwymiad a chefnogaeth gref ar lefel uwch wedi helpu’r tîm i roi safbwynt soffistigedig o iechyd meddwl ar waith ar draws yr heddlu ac yn ei sgil daeth hyder i ddelio â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd iechyd meddwl.
Mae delio â’r rheini sy dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn dal yn her. Dylai’r Concordat Argyfwng Iechyd Meddwl Cymreig a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2015, arwain at ddatblygu dealltwriaeth a rennir a meithrin arfer orau i daclo hyn a materion eraill.
Diweddarwyd ddiwethaf: 09 Jan 2018