Gwybodaeth gefndirol a dolenni at waith cysylltiedig
Edrychodd yr ymchwiliad yn gyntaf ar dystiolaeth a oedd yn bodoli eisoes ar draws y tri sector o 2010 i 2013, i archwilio sut oedd sefydliadau’n cydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan Erthygl 2 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (yr Hawl i Fyw). Cafodd y dystiolaeth ei chasglu mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymgynghori â rheolyddion, arolygiaethau a grwpiau eiriolaeth, yn ogystal ag aelodau teuleuol dan brofedigaeth.
Cafodd fframwaith dwy dudalen yn seiliedig ar gyfraith achos hawliau dynol ei lunio i gynorthwyo sefydliadau wrth gyflwyno eu rhwymedigaethau o dan y gyfraith. Mae’n nodi beth sydd angen iddynt ei wneud i atal marwolaeth a sut i ymgymryd ag ymchwiliadau ac ymwreiddio’r gwersi a ddysgwyd.
Canfu’r Ymchwiliad fod amryfuseddau sylfaenol sy’n cael eu hailadrodd, methiant i ddysgu gwersi a diffyg systemau a gweithdrefnau cadarn wedi cyfrannu at farwolaethau annaturiol cannoedd o bobl â chyflyrau iechyd meddwl sy’n cael eu cadw mewn ysbytai seiciatrig, carchardai a chelloedd yr heddlu yn Lloegr a Chymru.
O ganlyniad, mae’r Comisiwn, am y tro cyntaf, wedi llunio Fframwaith Hawliau Dynol, sy’n hawdd ei ddilyn ac sydd wedi’i anelu at lunwyr polisi a staff y llinell flaen ar draws y tair sefyllfa, sy’n cynnwys 12 o gamau ymarferol i helpu diogelu bywydau.
Rydym yn mynd i roi sylw pellach ar ein hargymhellion gyda’r sefydliadau perthnasol. Dylai rhai o’r newidiadau yr hoffem eu gweld gael eu rhoi ar waith cyn hir ond rydym yn cydnabod y bydd eraill yn cymryd cryn dipyn o amser i newid.
Rydym wedi cyhoeddi 3 adroddiad. Gellir eu lawr lwytho mewn fersiynau PDF a Word
Beth yw’r broblem?
Mae iechyd y meddwl yn effeithio arnom i gyd a phobl â chyflyrau iechyd meddwl yw'r bobl sy'n fwyaf tebygol o gael eu cadw (fel carcharorion, yn nalfa'r heddlu neu'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl). Yn anffodus, mae nifer o bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn marw wrth gael eu cadw. Mae ffigyrau o Gymru a Lloegr yn dangos:
- Yn ôl yr IPCC, bu farw pymtheg o bobl yn ystod neu ar ôl bod yn nalfa'r heddlu yn 2012/13. Adnabyddwyd bron i hanner (saith unigolyn) fel rhai oedd â phryderon iechyd meddwl [1].
- Yn 2013, cododd marwolaethau yn y carchar i 215; y mwyaf mewn unrhyw flwyddyn galendr ers i gofnodion ddechrau, roedd 74 yn hunanachosedig.
- Yn 2012, roedd 98 o farwolaethau o achosion annaturiol o bobl a gadwyd mewn ysbytai dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.[2]
Er gwaethaf ymdrechion gan unigolion a sefydliadau i atal y marwolaethau hyn, ymddengys na ddysgwyd yr holl wersi, a phob blwyddyn mae marwolaethau'n digwydd yr ystyrir wedyn y gellid fod wedi'u hatal.
Bydd y Comisiwn yn dadansoddi'r dystiolaeth er mwyn sefydlu i ba raddau mae cydymffurfiad wedi bod ag Erthygl 2, ac Erthygl 2 ar y cyd ag Erthygl 14, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Byddwn yn datblygu dealltwriaeth ynghylch sut mae sefydliadau wedi gweithredu argymhellion oddi wrth ymchwiliadau ac adroddiadau blaenorol ar farwolaethau annaturiol pobl wedi'u cadw.
Byddwn yn gwneud hyn trwy archwilio'r dystiolaeth ynghylch marwolaethau annaturiol oedolion â chyflyrau iechyd meddwl wedi'u cadw [3] mewn carchardai, dalfa'r heddlu ac ysbytai rhwng 2010 a 2013 a thrwy ymgysylltu ag unigolion gyda sefydliadau allweddol yn y tair sefyllfa er mwyn penderfynu eu persbectifau ynghylch diogelu oedolion a gedwir â chyflyrau iechyd meddwl. Gellir gweld manylion llawn ynghylch cwmpas yr ymchwiliad yn y Cylch Gorchwyl.
[1] https://www.ipcc.gov.uk/sites/default/files/Documents/research_stats/Deaths_Report2012-13.pdf
[3] Ar gyfer dibenion yr ymchwiliad hwn bydd y Comisiwn yn diffinio cyflwr iechyd meddwl fel unrhyw anhwylder neu anabledd y meddwl. Mae'r diffiniad hwn unfath â'r diffiniad o "anhwylder meddyliol" yn adran 1 Deddf Iechyd Meddwl 2007.
Mae'r sefyllfaoedd ar gyfer yr ymchwiliad wedi'u datganoli yn yr Alban a mae ganddynt eu fframweithiau deddfwriaethol penodol eu hunain. Serch hynny, byddwn yn ymgymryd ag ymarfer gasglu tystiolaeth yn yr Alban, a alinir i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol yr Alban dros Hawliau Dynol a fydd yn caniatáu inni gasglu data cymaradwy ledled Prydian Fawr.
Mae gan y Comisiwn bŵer cyfreithiol, dan adran 16 Deddf Cydraddoldeb 2006 (EA2006), i gynnal ymchwiliad i unrhyw beth sy'n perthyn i'w ddyletswyddau cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn adrannau 8 a 9 y Ddeddf.
Mae ymchwiliad yn fodd i gasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ennill darlun clir o gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain Fawr, a gallwn gynnal ymchwiliad i unrhyw faes lle rydym yn teimlo y bydd budd i gymdeithas ehangach. Nid oes angen i'r Comisiwn gael tystiolaeth o broblem cyn penderfynu cynnal ymchwiliad. Ar gyfer yr ymchwiliad hwn, bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar dystiolaeth bresennol a hefyd gall gysylltu â sefydliadau er mwyn cynyddu ei ddealltwriaeth.
Ar gyfer yr ymchwiliad hwn rydym yn canolbwyntio ar y rhai hynny sy'n 18 oed neu'n hŷn. Bydd hyn yn cynnwys rhai oedolion mewn sefydliadau ar gyfer Troseddwyr Ifanc. Rydym yn cydnabod bod problemau penodol ynghylch plant a phobl ifanc a gedwir ac rydym yn cynllunio darn o waith ar wahân yn Lloegr ar y pwnc hwn.
Cauir niwed difrifol allan o gwmpas yr ymchwiliad, ond byddwn yn archwilio i ba raddau y cedwir cofnodion ynghylch digwyddiadau o niwed difrifol yn y tair sefyllfa a sut y defnyddir yr wybodaeth hon i ddysgu gwersi ac i leihau'r risg o farwolaethau yn y dyfodol. Mae'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar farwolaethau annaturiol sy'n syrthio i un o'r categorïau dilynol: hunanachosedig/hunanladdiad, marwolaethau a achosir gan unigolyn arall gan gynnwys dynladdiad, marwolaethau nad yw eu hachos yn hysbys a marwolaethau damweiniol.
Pam ydych yn edrych ar dystiolaeth bresennol yn unig?
Rydym yn edrych ar dystiolaeth bresennol er mwyn caniatáu inni adnabod tueddiadau arbennig a phroblemau systematig ar draws y tair sector. Byddwn yn dadansoddi'r dystiolaeth er mwyn sefydlu i ba raddau mae cydymffurfiad wedi bod ag Erthygl 2 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) ac Erthygl 2 ar y cyd ag Erthygl 14. Hefyd byddwn yn ystyried data ar nodweddion gwarchodedig er mwyn adnabod unrhyw ganlyniadau gwahaniaethol rhwng grwpiau ar draws yr holl dair sefyllfa, er mwyn ffurfio barn ar lefelau o gydymffurfiad ag Erthygl 2 ar y cyd ag Erthygl 14 yr ECHR.
A fyddwch yn cynnwys barnau teuluoedd yn yr adroddiad? Sut fyddant yn gallu mewnbynnu i'r ymchwiliad?
Byddwn yn ystyried barnau teuluoedd unigolion â chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi marw tra'n cael eu cadw yn y tair sefyllfa. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried yr ymagwedd orau tuag at ennill eu mewnbwn.
Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Dec 2017