Rydym wedi lansio ymchwiliad i’r graddau y mae hawliau dynol pobl hŷn sydd angen neu’n cael gofal a chymorth yn cael eu diogelu a’u hybu. Darllenwch ymlaen am atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r ymchwiliad.
Ateb:
Mae gan bob awdurdod cyhoeddus ddyletswyddau i hybu hawliau dynol. Yn y bôn, mae gofal a chymorth yn cynnig diogelwch i hawl pobl i fywyd o dan Erthygl 2 y Confensiwn Ewropeaidd drwy sicrhau bod eu hanghenion mwyaf seicolegol a sylfaenol yn cael eu diwallu, megis bwyta, cymryd meddyginiaeth, codi yn y bore a mynd i’r gwely yn y nos. Ond i’r sawl sydd ei angen, a’r sawl sy’n rhannu eu bywydau, mae trefnu am ofal a chymorth a chael mynediad atynt yn pennu hefyd a fyddant yn mwynhau nifer o hawliau dynol pwysig eraill gan gynnwys rhyddid rhag triniaeth annynol a ddiraddiol (o dan Erthygl 3 y Confensiwn) a’r hawl i barch at fywyd preifat a theuluol (o dan Erthygl 8). Caiff yr hawliau hyn eu tanategu gan rai egwyddorion hawliau dynol pwysig: urddas, annibyniaeth a pharch.
Mae’r hawliau hyn - a’r egwyddorion y tu ôl iddynt - yn ganolog i ofal a chymorth da o ddydd i ddydd. Tra maent yn ymddangos weithiau yn haniaethol, maent yn wirioneddol yn ymwneud â phethau mor gyffredin â bwyta pryd o fwyd pan mae eisiau bwyd arnoch yn hytrach na phan mae gwasanaeth am ei roi ichi; ymolchi’n gyfforddus ac yn breifat mewn bath a chadw mewn cysylltiad â’ch plant neu’ch gwyron.
Ateb:
Mae gwahanol fathau o risgiau posibl i hawliau dynol:
1) Risgiau o dorcyfraith hawliau dynol drwy drefn pethau neu heb eu gwneud
Mae llawer o’r risgiau i hawliau dynol yr ydym yn rhagdybio y byddwn yn canfod tystiolaeth arnynt yn debygol o ddigwydd oherwydd diffyg dealltwriaeth neu fethiant systematig i ystyried materion hawliau dynol (wrth gomisiynu gwasanaethau er enghraifft).
Gall dorcyfraith anfwriadol ddigwydd gan ddarparwr gofal cartref arbennig sy’n rhoi gofal cartref sâl sydd wedyn yn arwain at esgeulustod neu fethiant i gyrraedd y safon hawliau dynol angenrheidiol.
2) Torcyfraith hawliau dynol bwriadol
Gwyddom y bydd hefyd enghreifftiau tebygol o dorcyfraith hawliau dynol bwriadol e.e. triniaeth anurddasol neu ddiraddiol, cam-drin neu esgeuluso – ond mae’r enghreifftiau o gamdriniaeth o’r math hwn yn debygol o fod yn is na’r ‘risg drwy drefn pethau’.
Mae enghreifftiau o’r mathau o risgiau penodol y byddwn yn edrych amdanynt yn cynnwys:
- Risgiau i hawliau Erthygl 8 (yr hawl i fywyd preifat a theuluol): gofal sy’n ymyrryd ar urddas personol; ymyrraeth ag annibyniaeth bersonol; cael eich gorfodi i dderbyn amserlen ddyddiol anghyfarwydd; allgau cymdeithasol difrifol a diffyg cyswllt ystyriol ag aelodau teuluol.
- Risgiau i hawliau Erthygl 3 (rhyddid rhag triniaeth annynol a diraddiol) – e.e. diffyg gofal sy’n gyfystyr â chamdriniaeth neu esgeulustod difrifol; cam-drin bwriadol gan ddarparwr gofal.
- Risgiau yn deillio o fethu cydbwyso mathau gwahanol o risgiau wrth ddelio â hawliau cyfyngedig megis Erthygl 8 - e.e. gall awdurdod cyhoeddus ymyrryd â hawliau Erthygl 8 os caiff ei ganiatáu gan y gyfraith ac mae’n gymesur, ac felly, dichon y bydd rhaid iddo, er enghraifft, gydbwyso hawl person hŷn i barch at eu cartref yn erbyn yr angen i daclo risg o gamdriniaeth wrth bennu ynglŷn â diogelu.
- Risgiau i hawliau Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod neu grefydd) – e.e. gweinyddu prydau bwyd sy ddim yn cydymffurfio â gofynion diet crefydd rhywun)
- Risgiau i hawliau Erthygl 14 (ar beidio â gwahaniaethu o ran mwynhau hawliau eraill) - e.e. dichon y gall methiant i sicrhau y gall pobl hŷn gael mynediad at weithdrefnau cwyno/ unioni drwy’r llysoedd yr un mor hawdd â grwpiau oed ifancach fod yn dorcyfraith o ran Erthygl 14 ac Erthygl 6 (yr hawl i wrandawiad teg).
- Risgiau yn codi o fylchau yn niogelwch y Ddeddf Hawliau Dynol – e.e. y posibilrwydd nad yw pobl sy’n pwrcasu eu gofal eu hunain gan ddarparwyr preifat yn cael eu diogelu oherwydd diffiniad cyfreithiol ‘swyddogaeth gyhoeddus’ yng nghyswllt y Ddeddf Hawliau Dynol.
Ateb:
Ceir manylion y cylch gorchwyl yma (yn Saesneg)
Ateb:
Yng Nghymru mae gofal cymdeithasol yn fater datganoledig. Yn yr Alban, mater i’r Comisiwn Hawliau Dynol yn yr Alban yw gofal cymdeithasol. Mae gwahaniaethau gwahanol rhwng yr ymagweddau i ofal cartref rhwng y gwledydd. Er enghraifft yn yr Alban mae fframwaith deddfwriaethol gwahanol a darperir gofal personol yn rhad ac am ddim. Yng Nghymru mae’r ddadl ar ddyfodol gofal cymdeithasol yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr.
Mae’r Ymchwiliad yn cwmpasu gofal cymdeithasol yn y cartref yn seiliedig ar y gymuned. Mae’n cynnwys trefniadau ‘byw dan gymorth’ a ‘thai gofal ychwanegol’, lle mae pobl yn byw yn eu fflatiau neu ystafelloedd eu hunain o fewn adeilad cymunedol, ac eithrio pob ffurf o gartrefi gofal nyrsio neu breswyl. Mae’r math o gynhorthwy sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan wasanaethau gofal cymdeithasol yn y cartref yn cynnwys:
- Cymorth i ymolchi, ymdrochi a gwisgo
- Cymorth i gymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, newid gorchuddion clwyfau a mân anghenion gofal iechyd
- Cymorth i baratoi prydau bwyd neu bryd ar glud
- Cymorth i olchi dillad
- Siopa
- Hebrwng pobl i fynd i’r siopau neu feddygfa, a.y.b.
Ateb:
Er y risgiau posibl i hawliau dynol pan gaiff gofal ei ddarparu ‘y tu ôl i ddrysau caeedig’ yng nghartrefi’r bobl eu hunain, mae llawer mwy o sylw wedi ei roi i hawliau dynol pobl hŷn mewn sefydliad, megis ysbyty, gofal preswyl a nyrsio, gan gynnwys yr Ymchwiliad diweddar gan y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol (ar hawliau dynol pobl hŷn ym maes gofal iechyd).
Nid oes ymchwiliad systematig wedi bod i hawliau dynol pobl hŷn yn cael gofal a chymorth yn eu cartrefi. Mae hynny’n syndod gan mai dim ond cyfran fechan – llai na 5 y cant – o bobl hŷn sy’n symud i ofal preswyl. Mae cyfran uwch o lawer yn cael gwasanaethau cymorth a gofal adref, gan gynnwys symiau sylweddol o wariant cyhoeddus. Mae dwy ran o dair yr holl wariant ar ofal cymdeithasol i bobl hŷn yn ymwneud â gofal cartref.
Ateb:
Nid oes cysondeb ymysg astudiaethau i ba grŵp demograffig mae ‘pobl hŷn’ yn perthyn. Defnyddir yr ymadrodd i gynrychioli grwpiau oedran sy’n dechrau mor isel â 50 mlwydd oed. Fodd bynnag, pobl 65 oed a mwy yw’r diffiniad a ddefnyddir mynychaf. Felly, 65 a mwy yw’r diffiniad a fabwysiadwyd gan yr Ymchwiliad hwn.
Ateb:
Mae nifer arwyddocaol o bobl hŷn yn perthyn i gategorïau sy’n eu gwneud yn agored yn anghymesur i dorcyfraith hawliau dynol - er enghraifft, os ydynt:
- yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn aml
- heb lais digonol neu’r modd i unioni unrhyw gamdriniaeth
- yn dioddef rhagfarn neu wahaniaethu
- yn dioddef camdriniaeth neu esgeulustod
- yn dibynnu ar ofal gan eraill
- mewn sefyllfaoedd sy’n eu gwneud yn agored i niwed
- yn cael eu gwahardd yn gymdeithasol
- yn dioddef amryw o anfanteision
- problemau gallu meddyliol, sy’n effeithio ar gyfran fawr o bobl hŷn
Yn ogystal, nid yw pobl hŷn yn grŵp unffurf a bydd rhai wedi dioddef rhagfarn neu wahaniaethu yn gynharach yn eu bywydau (megis hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw, homoffobia neu oherwydd eu hanabledd), sydd yn ei dro yn eu dilyn i ddyddiau henoed ac a allai eu gwneud yn agored i niwed o ran eu hawliau dynol. Yn arbennig, mae cyfran uwch o bobl hŷn ag anabledd; yn gyffredinol, 7% o bobl ifanc rhwng 16 a 19 sydd ag anabledd ac mae’r ganran yn codi i 35% i bobl 60 i 64 oed, ac i 59% i’r rhai dros 85 oed. Nid yw pawb ohonynt yn wynebu risg torcyfraith hawliau dynol – er enghraifft, mae rhai pobl 50 oed yn gefnog, yn mwynhau iechyd da ac yn cyfranogi’n llawn yn eu cymunedau.
Er bod yr Ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar bobl hŷn, mae’n bwysig nodi bod y mwyafrif o ddefnyddwyr gofal cymdeithasol yn debygol o fod ag anabledd i ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Cafodd Pwyllgor Anabledd y Comisiwn, gyda Mike Smith wrth y llyw, ei ymgynghori yn ystod cam cynllunio’r Ymchwiliad a chafodd ei adborth ei fwydo i’r cynlluniau terfynol.
Ateb:
Bydd tystiolaeth gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn darparu enghreifftiau a fydd yn darlunio effaith bersonol diffyg sylw at hawliau dynol ar y rhai sy’n cael gofal cartref. Bydd hefyd yn tynnu sylw at feysydd allweddol o bryder i’r rhai sy’n cael gwasanaethau a ellir eu bwydo i linynnau eraill o gasglu tystiolaeth (e.e. patrwm yr arolwg).
Bydd tystiolaeth gan weithwyr yn tynnu sylw i’r graddau y caiff gofalwyr cartref eu hyfforddi a’u hannog i gefnogi hawliau dynol pobl hŷn. Dichon y bydd hefyd yn cynnwys enghreifftiau o ddatgelu camarfer, arfer sâl, esgeuluso a chamdriniaeth.
Bydd y trydydd sector, gan gynnwys cyrff cynghori ac eiriolaeth, yn darparu gwybodaeth yn lleol, rhanbarthol a gwladol ar y problemau sydd wedi’u hwynebu.
Ateb:
Bydd yr holl argymhellion yn gadarn ac wedi’u gwreiddio’n uniongyrchol gan sylfaen tystiolaeth yr Ymchwiliad. Byddwn yn bwydo ar arbenigedd ein Grŵp Cynghorol wrth drafod yr argymhellion gan sicrhau eu bod yn ymarferol ac effeithiol wrth fynd i’r afael ag unrhyw feysydd pryder a godir gan y sylfaen tystiolaeth. Wrth ffurfio’r argymhellion byddwn yn canolbwyntio ar dystiolaeth o arfer dda ac edrych yn fanwl ar sut a pham y bu’n llwyddiannus fel y gallwn ddefnyddio’r argymhellion yn ehangach.
Mae’r Grŵp Cynghorol ar gyfer yr Ymchwiliad yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o ystod eang o fuddiannau rhanddeiliaid gan gynnwys mudiadau sy’n cynrychioli pobl hŷn a gofalwyr, darparwyr gofal cartref, undebau llafur, cyrff rheoleiddio a llywodraeth leol a chanolog.
Rydym yn cydnabod bod yr Ymchwiliad yn cael ei gynnal yn ystod cyfnod o doriadau mawr o ran adnoddau i gyrff cyhoeddus a byddwn felly yn rhoi sylw arbennig i’r graddau y mae ein hargymhellion yn ymarferol o ran cost a dichonolrwydd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2021