Argymhellion

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno asesiad y Comisiwn o beth mae awdurdodau lleol, y Llywodraeth, y Comisiwn Ansawdd Gofal a'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol wedi’i wneud mewn ymateb i argymhellion a gyfeiriwyd atynt yn ein hadroddiad ‘Close to home inquiry’

Lawr lwytho’r adroddiad:

Adroddiad ymchwil ategol:

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno asesiad y Comisiwn o beth mae awdurdodau lleol, y Llywodraeth, y Comisiwn Ansawdd Gofal ac yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol wedi’i wneud mewn ymateb i argymhellion a gyfeiriwyd atynt yn ein hadroddiad ‘Ymchwiliad Close to home’. 

Cafodd ‘Close to home’ ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2011 yn dilyn ymchwiliad ffurfiol i bobl hŷn a hawliau dynol ym maes gofal cartref. Dangosodd torcyfraith difrifol o ran hawliau dynol gan gynnwys pobl nad oedd yn cael cymorth i fwyta ac yfed, yn cael eu caethiwo i’r gwely am 2.45pm a’u gadael heb ymolchi am ddiwrnodau bwygilydd.

Roedd ‘Close to home’ yn argymell:

  • monitro effeithiol i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu hymgorffori’n iawn yn y modd y mae awdurdodau lleol yn comisiynu gofal cartref a bod systemau’n cael eu rhoi ar waith fel bo problemau ym maes gofal cartref yn cael eu hamlygu’n gyflym;
  • diogelwch i gau’r bylchau yn y system gyfreithiol gyfredol; a
  • chyfarwyddyd gwell i bobl hŷn fel bo ganddynt wybodaeth glir ynglŷn â’u hawliau dynol wrth iddynt benderfynu am ofal cartref yn ogystal â chanllaw i awdurdodau lleol ynghylch eu rhwymedigaethau hawliau dynol.

Awdurdodau lleol

Rydym yn cael ein calonogi bod tua 66 y cant o awdurdodau lleol wedi ateb yr arolwg a bod tua thri chwarter ohonynt wedi cymryd rhai camau i adolygu’u harferion a pholisïau comisiynu. Fodd bynnag, rydym yn siomedig nad oedd oddeutu traean ohonynt wedi ateb erbyn ein dyddiad terfynol gwreiddiol er ein hymdrechion i roi ffyrdd syml iddynt wneud hynny a oedd yn arbed amser hefyd.

Dangosodd yr adolygiad fod nifer fechan o awdurdodau lleol yn gweithredu ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau dynol i’r modd y maent yn asesu, comisiynu a monitro gwasanaethau gofal.

Dichon mai dyma’r awdurdodau sydd wedi ymdrechu fwyaf i roi argymhellion ‘Close to home’ yn ganolog i’r hyn a wnânt. Er enghraifft, mae’r awdurdodau hyn yn hybu hawliau dynol ymhob cam eu proses caffael; yn hyfforddi aelodau etholedig ynglŷn â’u rhwymedigaethau hawliau dynol a chomisiynu gofal; ac yn defnyddio modelau costau tryloyw.

Canfu ‘Close to home’ fod statws a chyflog isel gweithwyr gofal, ynghyd â graddau trosiant llafurlu uchel, yn ffactor arwyddocaol o ran gwaethygu bygythiadau i hawliau dynol pobl hŷn. Felly, roedd yn galonogol bod yr adolygiad argymhellion wedi dangos bod 71 o’r 77 o awdurdodau lleol wedi cymryd rhai camau i adolygu arferion comisiynu ac wedi asesu a oedd eu hymarferion yn llwyddo i sicrhau gweithlu gofal medrus a oedd yn cael ei gefnogi. Fodd bynnag, ar wahân i ychydig o eithriadau nodedig, ni chawsom ein darbwyllo gan ein canfyddiadau fod awdurdodau wedi llwyddo i wneud gwelliannau sylweddol i amodau gweithwyr gofal.

Roedd yn siomedig bod cyn lleied o awdurdodau wedi darparu hyfforddiant hawliau dynol i aelodau etholedig ac, er bod llawer o awdurdodau lleol wedi datgan bod ganddynt wybodaeth, eiriolaeth, broceriaeth a systemau eraill a oedd wedi hen sefydlu yn eu lle, nid oedd llawer ohonynt yn ymddangos fel petaent yn ystyried anghenion penodol pobl hŷn. Rydym yn parhau i ofidio am hyn a’r effaith i hawliau dynol pobl hŷn yn sgil hynny.

Llywodraeth ac eraill

Roedd tystiolaeth ‘Close to home’ yn awgrymu y gallai diffyg gorolwg annibynnol o ran arferion comisiynu gofal cymdeithasol i oedolion waethygu’r risg o beidio â chanfod y bygythiadau i hawliau dynol. Felly, rydym yn croesawu dynodiad y llywodraeth y bydd y Comisiwn Ansawdd Gofal yn gyfrifol eto am fonitro arferion comisiynu gofal cymdeithasol i oedolion.

Mae’r cyfeiriad strategol newydd a fabwysiadodd y Comisiwn Ansawdd Gofal yn ystod y chwe mis diwethaf yn nodi cam cadarnhaol i ffwrdd o’r arolygiadau generig sydd wedi eu teilwra ar gyfer pob sector. Mae hwn yn cynnig fframwaith i’r Comisiwn Ansawdd Gofal feithrin tîm arolygu arbenigol ar gyfer gwasanaethau gofal cartref. Rydym hefyd yn croesawu’r camau a gymerodd y Comisiwn Ansawdd Gofal i annog defnyddwyr gwasanaeth i fynegi’u barnau a’u hadborth yn uniongyrchol wrthynt a’i hymgorffori wedyn yn ei broffiliau darparwyr a’i sylfaen gwybodaeth gyffredinol.

Mae’n ofid parhaus na fo’r fframwaith cyfreithiol yn dal yn rhoi diogelwch digonol i bobl yn derbyn gofal cartref gan ddarparwyr preifat a’r trydydd sector sydd wedi’i gomisiynu’n gyhoeddus, o ystyried bod y Llywodraeth yn glir yn gyndyn i gymryd camau i gau’r bwlch hwn yn y Ddeddf Hawliau Dynol.

Rydym hefyd o’r farn y bydd awdurdodau lleol, heb ganllaw gan y llywodraeth ar hawliau dynol sy’n berthnasol i’r cyd-destun ariannol a chyfreithiol heriol y maent yn gweithredu ynddo yn awr, yn parhau i’w chael yn anodd deall goblygiadau ymarferol eu rhwymedigaethau hawliau dynol yn gyffredinol ac yng nghyswllt gofal cartref.

Mae Norman Lamb AS, Gweinidog dros Ofal, wedi dangos ymroddiad cryf i wella’r system gofal cartref cyfredol i ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal fel ei gilydd. Drwy gymryd arweinyddiaeth bersonol o’r ‘Homecare Innovation Challenge’ gyda rhanddeiliaid allweddol (gan gynnwys y Comisiwn, Cymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig ac eraill), ei nod yw canfod atebion i’r system gofal cartref anghynaladwy sydd yn ei farn ef mewn ‘argyfwng’ ac yn ‘hwyluso esgeulustod’.

Yng ngolau canfyddiadau’r adolygiad argymhellion, mae’r Comisiwn yn bwriadu cymryd y camau a ganlyn:

1. Byddwn yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn dynodi’n casgliadau, gan hybu ein canllaw a gyhoeddom ar hawliau dynol i gomisiynwyr gofal cartref, a thynnu eu sylw at y cymalau sampl a nodir yn Atodlen B yr adroddiad am y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol a hawliau trydydd parti.

2. Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol na atebodd i’r adolygiad hwn gan eu hatgoffa y byddant, o beidio â gwneud hynny, yn cael eu henwi’n gyhoeddus fel rhai na atebodd. Hefyd, rydym wedi gofyn iddynt gyhoeddi’r camau y maent yn eu cymryd i hybu a diogelu hawliau dynol pobl hŷn ym maes gwasanaethau gofal cartref. Byddwn yn adolygu eu cynnydd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwn ac fe wnawn benderfynu ar y camau priodol os na fyddant yn ymgysylltu â ni.

3. Rydym yn argymell bod pob awdurdod lleol yn defnyddio modelau costau sy’n ymgorffori elfennau hanfodol i ofal diogel a chyfreithiol a’u bod yn dangos yn glir sut maent yn cyfrif eu graddau comisiynu gofal cartref drwy roi modelau costau ar eu gwefannau.

4. Rydym wedi dechrau trafod ein casgliadau gyda’r Adran Iechyd i gynorthwyo’r mesurau datblygu i asesu cydymffurfedd â’r gwaharddiad i beidio â gwahaniaethu ar sail oedran ym maes gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

5. Byddwn yn cynnal grwpiau trafod gyda rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd o hybu arferion comisiynu sydd fwyaf effeithiol i gefnogi tâl Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf i weithwyr gofal cartref.

6. Ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal, byddwn yn archwilio ffyrdd newydd i fynd i’r afael â dryswch a diffyg gwybodaeth amlwg rhai awdurdodau lleol ynglŷn ag arwyddocâd rhwymedigaethau hawliau dynol wrth gomisiynu gofal cartref.

7. Rydym yn bwriadu archwilio effaith allgau digidol a gwahaniaethu anuniongyrchol posibl ar sail oed.

8. Byddwn yn parhau i ddarparu cyfarwyddyd i Seneddwyr ar y Bil Gofal am yr angen i gau’r bwlch hawliau dynol ac o ran eiriolaeth.

9. Yn olaf, byddwn yn monitro arferion comisiynu yng nghyswllt gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail oed a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Byddwn yn defnyddio ymagweddau rheoleiddiol perthnasol, gan gynnwys gweithredu cyfreithiol pan fo’n angenrheidiol a chymesur.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Apr 2016