‘Close to home’: Ymchwiliad i bobl hŷn a hawliau dynol ym maes gofal cartref
Yn ôl yr Ymchwiliad, er bod llawer o bobl hŷn yn cael gofal yn y cartref sy’n parchu ac yn hybu eu hawliau dynol, nid yw'n brofiad cyffredin o bell ffordd. Mae’n datgelu meysydd o bryder gwirioneddol yn nhriniaeth rhai pobl hŷn a diffygion arwyddocaol yn y modd y mae gofal yn cael ei gomisiynu gan awdurdodau lleol.
Lawr lwytho’r adroddiad
- Adroddiad llawn (PDF) (yn Saesneg)
- Crynodeb gweithredol (PDF)
Adroddiadau ymchwil ategol
Mae bron i 500,000 o bobl hŷn yn cael gofal hanfodol yn eu cartrefi eu hunain sydd wedi ei dalu’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan eu hawdurdod lleol. I ormod ohonynt, nid yw’r gofal hwn a gyflenwir y tu ôl i ddrysau caeedig yn cefnogi’r urddas, annibyniaeth a bywyd teuluol y dylai eu hawliau warantu.
Mae gofal cartref o ansawdd da yn amhrisiadwy wrth ddarparu’r gefnogaeth y mae ei hangen ar bobl hŷn i gadw eu hannibyniaeth a rheoli eu bywydau yn eu cynefin.
Canfu’r ymchwiliad, y cyntaf o’i fath i’r mater hwn, er bod llawer o bobl hŷn yn cael gofal yn y cartref sy’n parchu ac yn hybu eu hawliau dynol, nid yw hwn yn brofiad cyffredin o bell ffordd. Mae’n datgelu meysydd o bryder gwirioneddol yn nhriniaeth rhai pobl hŷn a diffygion arwyddocaol yn y modd y mae gofal yn cael ei gomisiynu gan awdurdodau lleol.
Canfu hefyd nad yw’r diogelwch cyfreithiol a ddarperir gan y Ddeddf Hawliau Dynol, a ddylai gael ei ddefnyddio i warantu parch at hawliau dynol pobl hŷn gan gynnwys atal triniaeth annynol neu ddiraddiol, yn cael ei ddefnyddio mor helaeth ag y dylai.
Nid yw lled gydymffurfio â’r Ddeddf yn ddigon; mae gan awdurdodau cyhoeddus ‘rwymedigaethau positif’ hefyd; i hybu a diogelu hawliau dynol. Hefyd, mae bwlch cyfreithiol arwyddocaol sy’n golygu nad yw’r mwyafrif o bobl hŷn sy’n cael gofal adref - hynny yw, os ydynt yn talu’n gyfan gwbl neu’n rhannol amdano eu hunain neu a gaiff ei gyflenwi gan sefydliad y sector gwirfoddol neu breifat - yn cael eu diogelu gan y Ddeddf.
Profiadau pobl hŷn yn cael gofal cartref
Roedd oddeutu hanner y bobl hŷn, ffrindiau ac aelodau teuluol a roddodd tystiolaeth i’r ymchwiliad yn fodlon o’u gofal cartref. Ar yr un pryd, datgelodd y dystiolaeth lawer o enghreifftiau gofal a gododd pryderon go iawn megis:
- Diffyg cymorth digonol i bobl hŷn fwyta ac yfed (yn arbennig y rhai a dementia ganddynt) a chred ddi-sail bod cyfyngiadau iechyd a diogelwch yn atal gweithwyr gofal rhag paratoi prydau twym.
- Esgeulustod oherwydd nad oedd y gorchwylion yn y pecyn gofal yn cael eu cyflawni, yn aml oherwydd diffyg amser.
- Cam-drin ariannol, er enghraifft arian yn cael ei ddwyn yn systematig dros gyfnod o amser.
- Diystyriaeth gronig o ran urddas a phreifatrwydd pobl hŷn wrth ymgymryd â gorchwylion personol iawn.
- Siarad ar draws pobl hŷn (weithiau ar ffonau symudol) neu eu trin yn nawddoglyd.
- Ychydig o sylw i ddewisiadau pobl hŷn ynglŷn â sut a phryd y caiff eu gofal cartref ei gyflenwi.
- Risgiau i’w diogelwch personol, er enghraifft pan newidir gweithwyr gofal yn aml, ac weithiau heb rybudd.
- Enghreifftiau o gam-drin corfforol, megis cael eich trin yn gorfforol arw neu ddefnyddio grym corfforol diangen.
- Mae cryn nifer o bobl hŷn sydd heb gymorth digonol i allu mynd allan a chymryd rhan yn y gymuned yn dioddef unigedd ac allgau cymdeithasol helaeth.
Mae llawer o’r enghreifftiau hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol. Gall yr effaith gronnol ar bobl hŷn fod yn straen ac yn ddigalondid llwyr iddynt: dagrau, rhwystredigaeth, mynegiadau o eisiau marw a theimlo’n ddiwerth a heb urddas - llawer ohono y gellir ei osgoi. Daw llawer o’r sarhad o faterion y gellir eu datrys yn hawdd, megis peidio â gorchuddio rhywun â thywel wrth eu hymolchi. Mae’r achosion sy’n sail i’r arferion hyn yn codi gan mwyaf oherwydd problemau systemig yn hytrach na bai gweithwyr gofal unigol ac yn digwydd oherwydd methiant i gymhwyso ymagweddau hawliau dynol i ddarpariaeth gofal cartref.
Effeithiau ymarferion comisiynu gwahanol i wasanaethau gofal
Gellid datrys llawer o’r problemau hyn petai awdurdodau lleol yn gwneud mwy o’r cyfleoedd sydd ganddynt i hybu a diogelu hawliau dynol pobl hŷn o ran:
- y ffordd y mae gofal cartref yn cael ei gomisiynu
- y ffordd y mae contractau gofal cartref yn cael eu caffael a’u monitro
Mae’n debyg nad yw comisiynu yn cael ei ddefnyddio’n gyson i ddiogelu hawliau dynol yn effeithiol. Yn wir, mae rhai arferion comisiynu yn fwy tebygol o achosi’r profiadau y mae pobl hŷn yn eu disgrifio. Er bod arferion yn amrywio’n fawr, prin oedd y rhai a oedd yn cael eu tanategu’n gyson gan amgyffred yr awdurdodau lleol o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, gan gynnwys eu rhwymedigaethau positif i hybu a diogelu hawliau dynol. Yn ôl eu dogfennau comisiynu, anghyson yw dealltwriaeth yr awdurdodau lleol ynglŷn â’r rhwymedigaethau hyn.
Canfuom fod:
- rhai arferion comisiynu’n cael eu sbarduno gan ansawdd, a chyfeiriwyd at safonau hawliau dynol drwy gydol y broses, tra oedd arferion eraill yn canolbwyntio gan mwyaf ar y pris. Mae pwysau cost yn achosi ymweliadau gofal sydd wedi’u byrhau ac yn cynyddu’r risgiau i hawliau dynol pobl hŷn ac i ansawdd a diogelwch eu gofal.
- Er bod cyfyngiad ariannol yn wirionedd na ellir dianc rhagddo, dengys ein tystiolaeth fod rhai awdurdodau lleol yn dal yn llwyddo i ganfod ffyrdd arloesol o wneud pethau’n wahanol, yn hytrach na gwneud llai o’r un pethau.
- Mewn rhai achosion, roedd y telerau ar gyfer cyflenwi gofal cartref wedi’u diffinio mor fanwl ac anhyblyg fel bo pobl hŷn yn cael gwasanaeth sy’n gweddu i bawb nad oedd yn ystyried eu hamrywiaethau yn ôl eu crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu dreftadaeth ddiwylliannol. Roedd ymagwedd ‘amser a gorchwyl’ nad oedd yn adlewyrchu dymuniadau neu anghenion amrywiol pobl yn gwneud i rai pobl hŷn deimlo eu bod yn ‘orchwyl i’w gyflawni’. Dywedodd y rhan fwyaf ohonynt nad oedd braidd dewis ganddynt ynglŷn â’r cymorth yr oeddent yn ei gael nag am amser yr ymweliadau gofal.
- Roedd monitro’r contractau yn aml yn canolbwyntio ar edrych ar ddeilliannau a phrosesau. Roedd arfer dda, gan ddefnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn edrych ar ansawdd y deilliannau gan gynnwys safonau hawliau dynol.
- Mae angen clir am uwch arweinyddiaeth ganolog o ran ansawdd, gan gynnwys parch i egwyddorion hawliau dynol megis urddas ac annibyniaeth bersonol, yn y gwasanaethau a gomisiynwyd.
- Dichon fod awdurdodau lleol sy’n defnyddio llinellau cyswllt ffôn i bennu a oes angen asesiad gofal cymunedol ar unigolyn yn atal pobl hŷn rhag cael eu hasesu am ofal heb yn gyntaf ddeall eu hanghenion.
- Lle'r oedd arfer dda gan awdurdodau lleol a oedd yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, roedd eu hymagwedd comisiynu yn elwa o wrando ar bobl hŷn.
Heriau eraill i hawliau dynol pobl hŷn
Mae nifer o ffactorau cydgysylltiedig eraill yn cyfrannu at y risgiau hawliau dynol a nodwyd yn ein canfyddiadau. Mae ein tystiolaeth yn pwyntio at:
- Triniaeth wahanol yn ymwneud ag oedran. Mae hawliau dynol yn gyffredin i bawb - ni ddylent fod yn amodol ar oedran neu unrhyw statws arall. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth o agweddau yn gwahaniaethu ar sail oedran tuag at bobl hŷn, ac arwyddion bod llai o arian yn cael ei wario ar eu gofal hwy o’i gymharu â grwpiau oedran arall, gyda phecynnau gofal yn annhebygol o gefnogi gweithgareddau y tu allan i’r cartref. Fodd bynnag, nid yw gwahaniaethu ar sail oedran wedi dod yn anghyfreithlon eto.
- Diffyg gwybodaeth addas ar yr opsiynau a phrosesau gwahanol ar gyfer cael gofal ac ar ansawdd ac arbenigrwydd gwahanol ddarparwyr gofal, fel y bo pobl hŷn yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Mae angen fwy o ganllaw ar bobl na chael rhestr o ddarparwyr gofal lleol yn unig.
- Cefnogaeth broceriaeth ac eiriolaeth anghyson neu ddim o gwbl ar gael i gynorthwyo pobl hŷn sydd â diddordeb mewn gofal cartref personol sydd wedi’i hunangyfeirio.
- Mae’r diffyg buddsoddiad mewn gweithwyr gofal - cyflog a statws isel y gweithwyr gofal - yn wrthgyferbyniad llwyr â’u cyfrifoldebau a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal cartref o ansawdd. Hefyd, mae cyflog ac amodau sâl yn effeithio ar gadw staff, gan achosi newidiadau uchel o ran gweithwyr gofal yn ymweld â phobl hŷn.
Sut y gellir amlygu bygythiadau i hawliau dynol ym maes gofal cartref?
Nid yw llawer o’r anawsterau y mae pobl hŷn yn eu dioddef gyda’u gofal cartref yn dod i’r wyneb nac yn cael eu datrys. Nid oeddent am greu trafferthion i’w gweithwyr gofal, roeddent yn ofni cael eu gosod mewn gofal preswyl ac nid oeddent am greu ffwdan. Mae’r mwyafrif helaeth am ddulliau anffurfiol, lefel isel o ddatrys problemau heb wneud cwyn ffurfiol. Tra bod rhai awdurdodau lleol a darparwyr gofal wedi cymryd camau i greu deialog rheolaidd rhwng darparwyr a phobl hŷn, canfuom fod y ffyrdd cyfredol y mae pobl hŷn yn eu defnyddio i godi materion ynglŷn â’u gwasanaeth gofal cartref naill ai’n annigonol neu ddim yn gweithio’n effeithiol oherwydd y rhesymau a ganlyn:
- Mae llawer o bobl hŷn yn ansicr ynglŷn â sut i gwyno neu ganfod gwybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn. Mae hyd yn oed yn llai clir i’r rhai sy’n ariannu eu hunain.
- Dim ond ychydig o bobl hŷn oedd wedi cymryd rhan yn y broses o drefnu eu gofal. Roedd llawer o’r rheiny y cafodd eu gofal ei sefydlu a’i reoli gan eu hawdurdod lleol yn teimlo nad oeddent wedi cael y cyfle i gyfrannu, ac roedd rhai yn syn bod ganddynt unrhyw ddewis o gwbl.
- Nid yw pobl hŷn yn gwybod pa safon o ofal cartref y dylent ddisgwyl pan berchir eu hawliau dynol.
- Mae gormod o ddibyniaeth ar hunanasesu ansawdd gan ddarparwyr gofal a gellid gwneud mwy i ganiatáu lleisiau rhydd pobl hŷn gael eu clywed gan awdurdodau lleol, rheoleiddwyr a darparwyr fel y caiff unrhyw fygythiadau i hawliau dynol gael eu codi a’u datrys cyn gynted â phosibl.
Ymgymerwyd â'r ymchwiliad hwn mewn cyfnod pwysig i ofal cymdeithasol, pan oedd ariannu a chyflenwi gofal yn wynebu diwygiad sylfaenol. Mae hwn yn gyfle i wneud y newidiadau yr ydym yn eu hargymell. Mae ein hadroddiad llawn yn cyflwyno nifer o argymhellion manwl sy’n perthyn i’r tri chategori a ganlyn:
Diogelwch priodol
Mae angen cau’r bylchau yn y system gyfreithiol gyfredol fel bo pobl hŷn yn cael diogelwch gwell. Yn arbennig, mae angen cau’r bwlch yn y Ddeddf Hawliau Dynol fel y caiff gofal cartref ei gwmpasu yn yr un modd â gofal preswyl. Bydd y Comisiwn yn gweithio i sicrhau cefnogaeth i’r newidiadau hanfodol hyn.
Monitro mwy effeithiol
Mae angen i awdurdodau lleol wneud mwy i ymgorffori hawliau dynol yn y modd y maent yn comisiynu gwasanaethau gofal ac mae angen iddynt oresgyn y rhwystrau y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu wrth fynegi pryderon neu gwyno. Nid yw’r problemau yn y maes cyflenwi gofal yn dod i’r golwg yn ddigon cyflym. Bydd y Comisiwn yn cefnogi cynghorau lleol i ddeall yr hyn y mae eisiau iddynt ei wneud a beth sydd yn arfer dda.
Canllaw gwell
Mae angen mynediad ar bobl hŷn a’u teuluoedd at wybodaeth well wrth wneud dewisiadau ynglŷn â darpariaeth gofal. Hefyd, mae angen iddynt wybod mwy am sut y dylai eu hawliau dynol gael eu diogelu wrth gyflenwi gofal. Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda darparwyr preifat a’r sector gwirfoddol i ddarparu canllaw hygyrch ar hawliau dynol i bobl hŷn sy’n cael gofal.
Dylai canllaw cliriach ar rwymedigaethau hawliau dynol gael ei ddarparu i awdurdodau lleol ar gyfer eu prosesau comisiynu. Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda phartneriaid i lunio’r canllaw hwn.
Mae copi o adroddiad llawn y canfyddiadau ymchwil sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer newid ar gael ar wahân ar ein gwefan, ynghyd ag adroddiadau ategol a gafwyd neu a luniwyd yn y broses o gasglu ein tystiolaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Apr 2016