Sign outside Manchester Civil Justice Centre

Cymorth cyfreithiol ar gyfer dioddefwyr gwahaniaethu: ein hymchwiliad

Rydym wedi lansio ymchwiliad i fwrw golwg a yw cymorth cyfreithiol yn galluogi pobl sy’n cyflwyno cwyn gwahaniaethu yng Nghymru a Lloegr i gael cyfiawnder.

Dyddiad cau: Mae'r alwad am dystiolaeth bellach ar ben.

Am yr ymchwiliad

Bydd yr ymchwiliad yn bwrw golwg ar b’un ai a yw cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion gwahaniaethu yn darparu mynediad effeithiol i gyfiawnder i bobl sydd wedi dioddef gwahaniaethu. Bydd yn edrych ar:

  • sut yr ariennir achosion gwahaniaethu gan gymorth cyfreithiol
  • nifer y bobl yn cael arian cymorth cyfreithiol ar gyfer hawliadau gwahaniaethu
  • a oes rhwystrau rhag cael mynediad i gymorth cyfreithiol
  • a yw rhai pobl yn profi anawsterau penodol wrth gael mynediad i gymorth cyfreithiol
  • gweithrediad y gwasanaeth ffôn fel y pwynt cael mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o gyngor gwahaniaethu
  • os yw cymorth cyfreithiol yn darparu mynediad effeithiol i bobl sy’n cwyno o ddioddef gwahaniaethu
  • a ellir gwneud gwelliannau i leihau rhwystrau a gwella mynediad i gyfiawnder

Bydd ein canfyddiadau a’n hargymhellion yn llywio adolygiad llywodraeth y DU o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO).

Mae ymchwiliad yn ffordd i ni ganfod mwy am gydraddoldeb, amrywiaeth neu hawliau dynol o fewn sector penodol neu am fater penodol. Un o’n grymoedd ydyw.

Cylch gorchwyl

Mae manylion pellach am gwmpas ein hymchwiliad wedi’u hamlinellu yn ein cylch gorchwyl:

Pam fod hyn yn bwysig?

Ni ellir cael mynediad i gyllid ar gyfer y rhan fwyaf o achosion gwahaniaethu ond drwy wasanaeth porth ffôn Cyngor Cyfreithiol Sifil yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (CLA).

Rydym yn gofidio ynghylch:

  • gostyngodd y cymorth cyfreithiol cychwynnol ar gyfer achosion gwahaniaethu bron 60% ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth ffôn
  • er i’r gwasanaeth ffôn ddelio â mwy na 18,000 o achosion gwahaniaethu ers 2013, dim ond 16 o bobl a gafodd eu hatgyfeirio at gyngor wyneb-i-wyneb rhwng 2013 a 2016
  • ni chafodd neb ei atgyfeirio at gyngor wyneb-i-wyneb rhwng 2016 a 2017
  • efallai nad yw’r gwasanaeth ffôn bob amser yn hygyrch i bobl anabl ac i’r rheini â sgiliau iaith Saesneg cyfyng
  • er bu mwy na 6,000 o alwadau i’r gwasanaeth yn 2013 i 2014, dim ond pedwar achos a gofnodwyd fel cael dyfarniad o lys neu dribiwnlys
  • ychydig iawn o achosion sy’n cael cymorth cyfreithiol i fynd i’r llys

Ffyrdd i ymateb

Byddwn yn gofyn i bobl gyflwyno tystiolaeth o ganol mis Medi, pan fyddwn hefyd yn amlinellu’r meysydd y mae diddordeb mawr gennym ynddynt. Bydd opsiynau hygyrch ar gyfer cyflwyno tystiolaeth.

Gwybodaeth bellach

Nid ydym yn darparu cymorth cyfreithiol. Cewch wybodaeth bellach ar gymorth cyfreithiol ar GOV.UK.

Anfonwch e-bost i’r tîm Ymchwiliad Cymorth Cyfreithiol os oes unrhyw gwestiynau gennych am ein hymchwiliad neu os hoffech wybodaeth bellach ynglŷn â sut allwch ymateb.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 May 2021