
Profi ymarfer ystyried safbwynt
Amlinella’r adroddiad hwn ganlyniadau treial ymddygiadol yn ystyried gwella’r berthynas rhwng rheolwyr llinell a staff benywaidd.
Nod y treial oedd profi a oedd ymarfer ar-lein yn ystyried safbwynt yn gwella cyfathrebu rheolwyr llinell a chynyddu’u hempathi a chefnogaeth tuag at gyflogeion benywaidd a’r rheini sydd yn feichiog.
Yng ngwanwyn 2017, gweithiodd y Comisiwn ar y cyd â’r Tîm Dirnadaeth Ymddygiadol i redeg treial ar hap dan reolaeth mewn partneriaeth ag un o’r heddluoedd mwyaf yn y DU.
Rhan o waith ehangach y Comisiwn oedd y treial, gyda’r Tîm Dirnadaeth Ymddygiadol, i wella profiadau menywod beichiog a mamau newydd yn y farchnad lafur.