
Teclyn i lunwyr polisi yw ein fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth, a chafodd ei ddefnyddio eisoes, i lywio polisi a datblygiadau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Gwnawn ddefnyddio’r fframwaith i lywio’n gwaith ein hunain ar ataliaeth.
Mae’n darparu enghreifftiau defnyddiol sydd yn egluro egwyddorion allweddol erthyglau canlynol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol:
- Erthygl 3 (gwahardd artaith a thriniaeth annynol a diraddiol)
- Erthygl 8 (parch i annibyniaeth ac uniondeb corfforol a seicolegol)
- Erthygl 14 (dim yn gwahaniaethu)
Cafodd datblygiad y fframwaith ei lywio gan drafodaeth ag adrannau llywodraeth; rheoleiddion; arolygiaethau ac ombwdsmyn; a’r trydydd sector.