diverse group of people diverse group of people

Erthygl 8: Parch am eich bywyd preifat a theuluol

Mae Erthygl 8 yn diogelu’ch hawl i barch am eich bywyd preifat

Mae Erthygl 8 yn diogelu’ch hawl i barch am eich bywyd preifat, eich bywyd teuluol, eich cartref a’ch gohebiaeth (llythyrau, galwadau ffôn a negeseuon e-bost, er enghraifft).

Beth a olygir gan fywyd preifat?

Mae gennych yr hawl i fyw eich bywyd yn breifat heb ymyrraeth gan y llywodraeth.

Mae’r llysoedd wedi dehongli’r cysyniad o ‘fywyd preifat’ yn eang iawn. Mae’n cwmpasu pethau megis eich hawl i benderfnynu’ch cyfeiriadedd rhywiol, eich ffordd o fyw, a’r ffordd rydych yn ymddangos a gwisgo. Hefyd mae’n cynnwys eich hawl i reoli pwy sy’n gweld a chyffwrdd â’ch corff. Er enghraifft, mae hyn yn golygu na all awdurdodau cyhoedddus wneud pethau megis eich gadael heb ddillad mewn ward brysur, na chymryd sampl gwaed heb eich caniatâd.

Hefyd mae’r cysyniad o fywyd preifat yn cwmpasu’ch hawl i ddatblygu’ch hunaniaeth bersonol ac i ffurfio cyfeillgarwch a pherthnasau eraill. Mae hyn yn cynnwys hawl i gymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a hamdden hanfodol. O dan rai amgylchiadau, efallai bydd angen i awdurdodau lleol eich helpu i fwynhau’ch hawl i fywyd preifat, gan gynnwys eich gallu i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Mae’r hawl hon yn golygu y gellir atal y cyfryngau ac eraill rhag ymyrryd yn eich bywyd. Hefyd mae’n golygu y dylid cadw gwybodaeth bersonol amdanoch (gan gynnwys cofnodion swyddogol, lluniau, llythyrau, dyddiaduron a chofnodion meddygol) yn ddiogel heb gael eu rhannu heb eich caniatâd, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Beth a olygir gan fywyd teuluol?

Mae gennych yr hawl i fwynhau perthnasau teuluol heb ymyrraeth gan y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fyw gyda’ch teulu a, lle nad yw hyn yn bosibl, yr hawl i gysylltu’n rheolaidd.

Gall ‘bywyd teuluol’ gynnwys y berthynas rhwng cwpl dibriod, plentyn a fabwysiadwyd a’r rhiant sydd wedi mabwysiadu, a rhiant maeth a’r plentyn sydd wedi’i feithrin.

Gweler hefyd yr hawl i briodi.

Beth a olygir gan gartref?

Nid yw’r hawl i barch am eich cartref yn rhoi hawl i dai ichi. Mae’n hawl i fwynhau eich cartref presennol yn heddychlon. Mae hyn yn golygu na ddylai awdurdodau cyhoeddus eich atal rhag mynd i mewn i’ch cartref neu fyw ynddo heb reswm da iawn, ac na ddylent fynd i mewn heb eic caniatâd. Mae hyn yn gymwys os ydych yn berchen ar eich cartref neu beidio.

Gweler hefyd yr hawl i fwynhau eiddo’n heddychlon.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl hon?

Mae sefyllfaoedd lle gall awdurdodau cyhoeddus ymyrryd â’ch hawl i barch am fywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth. Caniateir hyn dim ond lle gall yr awdurdod ddangos bod ei gam gweithredu’n gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur er mwyn:

  • diogelu diogeledd cenedlaethol
  • diogelu diogelwch y cyhoedd
  • diogelu’r economi
  • diogelu iechyd neu foesau
  • atal anhrefn neu droseddu, neu
  • ddiogelu hawliau a rhyddidau pobl eraill.

Mae cam gweithredu’n ‘gymesur’ pan yw’n briodol a heb fod yn fwy na sydd ei angen i drafod y broblem dan sylw.

Defnyddio’r hawl hon - enghraifft

Penderfynodd tîm anableddau corfforol gydag awdurdod lleol ddefnyddio gweithwyr cymorth i helpu defnyddwyr gwasanaeth i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys ymweliadau â thafarnau a chlybiau. Ond pan ofynnodd defnyddiwr gwasanaeth am gael ei hebrwng i dafarn hoyw, gwrthododd rheolwr y cynllun ar y sail nad oedd y gweithwyr cymorth yn fodlon mynd i leoliad hoyw. Gan gydnabod yr agwedd hawliau dynol, fe wnaeth eiriolydd yn gweithio ar ran y defnyddiwr gwasanaeth herio’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar yr hawl i barch am fywyd preifat.

(Darparwyd yr enghraifft gan Sefydiad Hawliau Dynol Prydain)

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 8: Hawl i breifatrwydd

  1. Mae gan bawb yr hawl i barch am ei fywyd preifat a theuluol, ei gartref a’i ohebiaeth.
  2. Ni fydd unrhyw ymyrraeth gan awdurdod lleol ynghylch ymarfer yr hawl hon ac eithrio os yw’n unol â’r gyfraith a mae ei hangen mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogeledd cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd neu les economaidd y wlad, er mwyn atal anhrefn neu droseddu, i ddiogelu iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddidau pobl eraill.

Achos enghreifftiol - Goodwin & I v Y Deyrnas Unedig [2002]

Fe wnaeth yr achos hwn a wrandäwyd yn Llys Hawliau Dynol Ewrop ymchwilio i broblemau ar gyfer pobl drawsrywiol mewn cysylltiad â’u hawliau i fywyd preifat ac i briodi. Roedd y dyfarniad yn benderfyniad allweddol ar gyfer y ffordd yr ymdrinir â phobl drawsrywiol, grŵp nad oedd wedi’i gydnabod gan gyfraith y DU fel:

  • eu rhyw gaffaeledig
  • gallu i ddal tystysgrif eni sy’n dangos eu  rhyw gaffaeledig, a
  • gallu i briodi rhywun o’r rhyw arall.

Fe wnaeth y Llys ddyfarnu bod y driniaeth hon yn torri ar yr hawl i fywyd preifat a’r hawl i briodi. Nes ymlaen cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Cydnabod Rhyw 2004, gan greu mecanwaith i alluogi’r holl bethau hyn.

Gweler y cyhoeddiad ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus’. i weld rhagor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio mewn ymarfer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Nov 2018