diverse group of people

Erthygl 10: Rhyddid mynegiant

Mae Erthygl 10 yn diogelu’ch hawl i ddal eich barnau eich hunan

Mae Erthygl 10 yn diogelu’ch hawl i ddal eich barnau eich hunan ac i’w mynegi’n rhydd heb ymyrraeth gan y llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi’ch barnau’n uchel (er enghraifft trwy brotestiadau a gwrthdystiadau cyhoeddus) neu drwy:

  • erthyglau, llyfrau neu daflenni cyhoeddedig
  • darlledu ar y teledu neu’r radio
  • celfyddydweithiau, ac
  • y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol.

Hefyd mae’r gyfraith yn diogelu’ch rhyddid i dderbyn gwybodaeth gan bobl eraill trwy, er enghraifft, fod yn rhan o gynulleidfa neu ddarllen cylchgrawn.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl hon?

Er bod gennych ryddid mynegiant, mae gennych hefyd ddyletswydd i ymddwyn yn gyfrifol ac i barchu hawliau pobl eraill.

Gall awdurdodau cyhoeddus gyfyngu ar yr hawl hon os gallant ddangos bod eu cam gweithredfu’n gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur er mwyn:

  • diogelu diogeledd cenedlaethol, uniondeb tiriogaethol (ffiniau’r wladwriaeth) neu ddiogelwch y cyhoedd
  • atal anhrefn neu droseddu
  • diogelu iechyd neu foesau
  • diogelu hawliau ac enwau da pobl eraill
  • atal y datgeliad o wybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol, a
  • chynnal awdurdod a didueddrwydd barnwyr.

Efallai caniateir i awdurdod gyfyngu ar eich rhyddid mynegiant os, er enghraifft, ydych yn mynegi barnau sy’n annog casineb hiliol neu grefyddol.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r awdurdod cyhoeddus perthnasol ddangos bod y cyfyngiad yn ‘gymesur’, mewn geiriau eraill ei fod yn gymesur a heb fod yn fwy na’r hyn sydd ei angen i drafod y broblem dan sylw.

Yr hyn a ddywed y gyfraith

Erthygl 10: Rhyddid mynegiant

1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i ddal barnau ac i dderbyn a rhoi gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdodau cyhoeddus a heb ystyried ffiniau. Ni fydd yr Erthgyl hon yn atal Gwladwriaethau rhag mynnu ar drwyddedu mentrau darlledu, teledu neu sinema.

2. Gallai ymarfer y rhyddidau hyn, gan ei bod yn cyflwyno dyletswyddau a chyfrifoldebau, fod yn amodol ar y fath faterion ffurfiol, amodau, cyfyngiadau neu gosbau ag a ragnodir gan y gyfraith a sydd eu hangen mewn cymdeithas ddemocrataidd, er budd diogeledd cenedlaethol, anhrefn tiriogaethol neu droseddu, i ddiogelu iechyd neu foesau, i ddiogelu enw da neu hawliau pobl eraill, i atal y datgeliad o wybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol, neu i gynnal awdurdod a didueddrwydd y farnwriaeth.

Defnyddio’r hawl hon - enghraifft

Mae’r hawl hon yn arbennig o bwysig i newyddiadurwyr a phobl eraill sy’n gweithio yn y cyfryngau. Rhaid iddynt fod yn rhydd i feirniadu’r llywodraeth a’n sefydliadau cyhoeddus heb ofn cael eu herlyn – mae hon yn nodwedd hanfodol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Ond nid yw hynny’n atal y wladwriaeth rhag gorfodi cyfyngiadau ar y cyfryngau er mwyn diogelu hawliau dynol eraill, megis hawl person i barch am eu bywyd preifat.

Achos enghreifftiol - Observer a The Guardian v Y Deyrnas Unedig [1991]

Fe wnaeth papurau newydd The Guardian a The Observer gyhoeddi darnau o lyfr Peter Wright Spycatcher, cofiant oedd yn cynnwys honiadau bod MI5 wedi gweithredu’n anghyfreithlon.

Fe wnaeth y Llywodraeth lwyddo i gael gorchymyn llys i atal y papurau newydd rhag printio deunydd pellach tan fod yr achos ynghylch tor-hyder wedi dod i ben. Ond pan gyhoeddwyd y llyfr mewn gwledydd eraill ac yna yn y DU, fe wnaeth The Guardian gwyno bod parhau â’r gorchymyn llys yn torri ar yr hawl i ryddid mynegiant yn Erthygl 10.

Fe wnaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop ddyfarnu, er bod y gorchymyn llys yn gyfreithlon gan ei fod er budd diogeledd cenedlaethol, nad oedd rheswm digonol i barhau â’r gwaharddiad ar gyhoeddi gan y papur newydd wedi i’r llyfr gael ei gyhoeddi. Dylai’r gorchymyn llys wedi dod i ben unwaith nad oedd yr wybodaeth yn gyfrinachol bellach.

(Cymerwyd crynodeb yr achos o ‘Hawliau dynol, bywydau dynol: canllaw i’r Ddeddf Hawliau Dynol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus’. Lawrlwythwch y cyhoeddiad i weld rhagor o enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfreithiol sy’n dangos sut mae hawliau dynol yn gweithio mewn ymarfer.)

Adnoddau pellach

Hefyd mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi canllaw sy’n esbonio’r fframwaith cyfreithiol sy’n diogelu rhyddid mynegiant a lle gall y rhyddid hwnnw gael ei gyfyngu er mwyn atal trais, camdriniaeth neu wahaniaethu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Jun 2020