
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r dystiolaeth a gasglwyd o ddau ddarn o ymchwil yn 2017, i lywio’n hymchwiliad ar dai i bobl anabl ym Mhrydain.
Roedd y prif ddarn ymchwil yn cynnwys cyfweliadau manwl â 51 o aelwydydd yn cynnwys unigolion anabl yn Ne Cymru, Bryste a Chanolbarth yr Alban.
Roedd yr ail ddarn ymchwil yn cynnwys adolygiad data o Gyfrifiad Poblogaeth, arolygon cyflwr tai cenedlaethol gwahanol, a llenyddiaeth academaidd, polisi ac ymarfer a gyhoeddwyd tair blynedd cyn yr ymchwil.
Amlyga’r adroddiad brif ganfyddiadau’r ddau ddarn ymchwil ac mae’n cynnwys astudiaethau achos ar y themâu a ganlyn:
- effaith trawsnewidiol tai da
- y broses anodd o ddod o hyd i dai addas
- effaith tai a gofalwyr
- symud i gartref newydd ei adeiladu
- pwysigrwydd byw’n annibynnol
- y daith hir i fyw’n annibynnol