
Pecyn cymorth yw hwn i aelodau etholedig awdurdod lleol yng Nghymru, yn enwedig y rheini’n gysylltiedig â thai a chynllunio.
Ei nod yw eu helpu i:
- ystyried tai i bobl anabl yn eu strategaethau a’u cynlluniau
- cynnwys pobl anabl mewn ffordd ystyrlon
- rhannu ymarfer gorau
- helpu gyda chraffu polisïau ac ymarferion tai awdurdod lleol
Mae’n cynnwys:
- eich dyletswyddau cydraddoldeb a thai
- sut olwg sydd ar ‘da’: datblygiad polisi
- sut olwg sydd ar 'da’ mewn gwirionedd
Gellir ei ddefnyddio gan:
- aelodau cabinet
- aelodau craffu
- aelodau yn eu rhôl llinell flaen: rheoli gwaith achos neu ymgysylltu â’r gymuned
Rydym wedi llunio pecyn cymorth gwahanol ar gyfer pobl anabl a sefydliadau sydd yn cefnogi pobl anabl.