Arweiniad

Help a chymorth i gyflogwyr

Wedi ei gyhoeddi: 15 Mawrth 2017

Diweddarwyd diwethaf: 15 Mawrth 2017

Pecynnau cymorth i gyflogwyr

Deall eich cyfrifoldebau os yw eich cyflogai yn feichiog

Gobeithio bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol ichi wrth sicrhau bod cyfathrebu da yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, mamolaeth ac wrth i gyflogai ddychwelyd i’r gwaith.

Mae ein pecynnau cymorth i gyflogwyr yn cynnwys cronfa o lythyron sydd wedi’u paratoi eisoes, rhestri gwirio a thempledi polisi parod i’r diben ar gyfer eich cydweithwyr AD a rheolwyr llinell. Mae cyfrifwr dyddiad gennym hefyd ichi allu cadw golwg ar ddyddiadau allweddol pan eich cynghorir i atgoffa eich cyflogai o’u hawliau o dan gyfraith cydraddoldeb.

Mae ein Cwestiynau Cyffredin i gyflogwyr yn cynnwys yr holl wybodaeth y dylai fod ei angen arnoch i wybod am eich rhwymedigaethau i’ch cyflogai a sut i reoli cyflogai trwy feichiogrwydd, mamolaeth ac wrth iddi ddychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys golwg cyffredinol cyfreithiol ar y ddeddfwriaeth berthnasol.

Gallwch hefyd brofi eich gwybodaeth gyda’n cwis rhyng-weithredol.

Gwybodaeth bellach

Hire Me My Way: ymgyrch genedlaethol a busnes cymdeithasol Timewise wrth y llyw, a sefydlwyd i hyrwyddo gweithio hyblyg, ac wedi’i gynllunio i gynyddu’r swyddi y gellir eu gwneud drwy drefniant gweithio hyblyg yn y DU.

Working Families: elusen sydd yn gweithio gyda chyflogwyr i’w cefnogi wrth greu gweithleoedd sydd yn annog cydbwysedd gwaith-bywyd i bawb.

 

Diweddariadau tudalennau