
Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli’r adolygiad mwyaf erioed i anghydraddoldeb ym Mhrydain, gan ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr a yw ein cymdeithas yn gwireddu’i haddewid i fod yn deg i bob un o’i dinasyddion.
Mae’n bwrw golwg ar draws pob maes bywyd pobl gan gynnwys addysg, cyflogaeth, tai, cyflog a safonau byw, iechyd, cyfiawnder troseddol a chyfranogiad. Mae’n archwilio lle rydym yn gwneud cynnydd, lle rydym wedi sefyll yn stond a lle rydym ar ei hôl hi neu heb lwyddo’n llwyr.