Young mother with baby talking with older lady

Hawliau Dynol yng Nghymru

Beth yw Hawliau Dynol?

Hawliau dynol yw’r hawliau a'r rhyddfreiniau sylfaenol y mae pob un yn y byd yn berchen arnynt.

Mae syniadau am hawliau dynol wedi datblygu dros sawl canrif. Ond cawsant gefnogaeth ryngwladol gref yn dilyn yr Holocost a’r Ail Ryfel Byd. I ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag ailadrodd y trychinebau hyn, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ym 1948. Am y tro cyntaf, amlygodd y Datganiad Cyffredinol yr hawliau a'r rhyddfreiniau cyffredinol sy’n cael eu rhannu gan bob bod dynol.

Sut mae hawliau dynol yn eich helpu chi?

Caiff hawliau dynol eu seilio ar egwyddorion craidd, megis urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth. Maent yn berthnasol i’ch bywyd beunyddiol ac yn diogelu eich rhyddid i reoli eich bywyd eich hun, cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan awdurdodau cyhoeddus sy’n effeithio ar eich hawliau a chael gwasanaethau teg a chyfartal gan awdurdodau cyhoeddus.

Darlith Flynyddol ar Hawliau Dynol

Bob blwyddyn bydd y Comisiwn yng Nghymru yn cynnal Darlith Hawliau Dynol sy’n archwilio materion hawliau dynol cyfredol yng Nghymru.

2016 – Mudwyr i Gymru – Beth am Hawliau Dynol? – y Parchedig Aled Edwards

Tynnodd y ddarlith hon ein sylw at brofiadau ceiswyr lloches, mudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru ac ar draws y byd mewn perthynas ag amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.

2015 - Islamoffobia: safbwynt hawliau dynol - Dr Chris Allen

Archwiliodd y ddarlith faint ac effaith Islamoffobia yng Nghymru a sut mae'n ymwneud â'r Ddeddf Hawliau Dynol. Gwylio fideo o ddarlith Dr Chris Allen.

Adroddiad Bord Gron ar Hawliau Dynol 

Adroddiad yn seiliedig ar y drafodaeth ford gron ar hawliau dynol a gynhaliwyd mewn partneriaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Gorffennaf 15, 2014).

 

Gallwch ganfod mwy am Hawliau Dynol drwy deithio drwy Stryd Urddas neu gallwch gael eich taith ryngweithiol eich hun o Stryd Urddas dim ond i chi anfon eich manylion cyswllt atom mewn e-bost i wales@equalityhumanrights.com - rhowch DVD Stryd Urddas yn deitl pwnc yr e-bost. Os nad ydych am anfon e-bost ffoniwch ni ar 02920 447710.

Ceir rhagor o wybodaeth am Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol ar ein gwefan i Brydain Fawr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Apr 2019