Gall pobl sydd yn dioddef gwahaniaethu ei chael hi’n anodd fforddio costau cymryd achos cyfreithiol.
Cychwynnodd ein cynllun cymorth cyfreithiol yn 2017. Darpara cyllid hanfodol a chynhorthwy cyfreithiol i unigolion, fel y gallant gyflwyno’u hawliadau a chael mynediad i’r cyfiawnder maent yn ei haeddu.
Rydym hefyd yn parhau i gymryd achosion cerrig filltir sydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn gosod cynsail. Amlinellir hyn yn ein polisi cyfreitha strategol.
Cyllid newydd ar gael ar gyfer achosion gwahaniaethu hil
Mae canran uchel o bobl lleiafrif ethnig ym Mhrydain wedi dioddef rhagfarn a gwahaniaethu. Mae sefydliadau hefyd, dro ar ôl tro, yn methu gwarchod aelodau’r cyhoedd rhag dioddef aflonyddu a sarhad hiliol.
Rydym am wella deilliannau i ddioddefwyr gwahaniaethu ac aflonyddu hiliol.
Rydym hefyd am i bob cyflogwr a gwasanaeth cyhoeddus ddeall eu cyfrifoldebau a’r hyn yw’r canlyniadau am beidio â dilyn y gyfraith.
Os ydych chi wedi profi gwahaniaethu a heb gael cyngor cyfreithiol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) fydd yn trafod eich cwyn â chi. Byddant yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ac efallai yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i gyfreithiwr all wneud cais i’r gronfa.
Gall ymarferwyr cyfreithiol bellach wneud cais hefyd am gymorth tuag at achosion eu cleientiaid gan ddefnyddio’r ffurflen gais.
Lawr lwytho’r ffurflen gais (Word, 75KB)
Lawr lwytho gwybodaeth bellach am y cynllun (Word, 67KB)
Anfonwch ffurflenni cais wedi eu cwblhau at: RaceSupportFund@equalityhumanrights.com
Pan wnaeth Sandeep a Reena Mander gais i fabwysiadu babi, dywedwyd wrthynt y byddai cyplau Gwyn yn cael blaenoriaeth. Gwnaethom gefnogi’u hachos cyfreithiol a dyfarnodd y llys eu bod wedi dioddef gwahaniaethu.
Prosiect yn y gorffennol: gwahaniaethu ym myd addysg
Yn 2017, cychwynnom brosiect i fynd i’r afael â bwlio a gwahaniaethu yn seiliedig ar hunaniaeth ym myd addysg.
Gall enghreifftiau o’r gwahaniaethu hyn gynnwys:
- myfyrwyr anabl heb gael cynnig cyrsiau rhan amser fel addasiad rhesymol
- gwahardd nifer llawer uwch o ddisgyblion hil benodol
Yn sgil y prosiect hwn cawsom ein harwain at achos Ruby. Cymrodd Ruby ei hysgol i’r llys ar ôl i’r ysgol orfodi polisi gwisg ysgol a oedd yn gwahardd gwallt Afro trwchus.
Pan na wnaeth yr ysgol ymateb i’r hawliad, cyflwynodd y llys ddyfarniad diffyg ystyriaeth o blaid y disgybl a chytunodd y teulu â chytundeb.
Ariannom yr achos drwy’r llys a sicrhau cytundeb gyda’r ysgol a oedd yn rhwymo’n gyfreithiol. Roedd rhaid i’r ysgol ddod â’r polisi gwahaniaethu i ben a rhaid iddynt ystyried ffactorau megis hil a chrefydd wrth bennu beth yw steil gwallt ‘rhesymol’.
Prosiect yn y gorffennol: gwahaniaethu ar drafnidiaeth gyhoeddus
Heriom weithredwyr trafnidiaeth i sicrhau eu bod yn cyflawni’u cyfrifoldebau cyfreithiol, fel ei fod yn gweithredu fel rhybudd i eraill.
Mae cyllid ar gyfer achosion newydd bellach wedi dod i ben, ond gwnawn o hyd ystyried ceisiadau gan gynrychiolwyr cyfreithiol ar gyfer achosion sydd efallai’n bodloni ein blaenoriaethau busnes a’r meini prawf yn ein polisi cyfreithia strategol.
Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol ac am gysylltu â ni am broblem, ymwelwch â’n tudalen cysylltau.
Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu ac nid ydych wedi cael cyngor cyfreithiol, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) am wybodaeth, cyngor a chymorth.
Prosiect yn y gorffennol: gwahaniaethu ar sail anabledd
Gallai pobl sydd wedi dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd ei chael hi’n anodd cyflwyno achos cyfreithiol oherwydd diffyg cyllid neu gymorth.
Yn 2017, aethom ati i wella’r sefyllfa drwy lansio’r prosiect cymorth cyfreithiol.
Darparodd y cynllun peilot gyllid a chynhorthwy cyfreithiol i unigolion a oedd wedi dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd.
Darparom gyfanswm o £189,000 ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol ar draws 94 o achosion.
Diolch i gyllid y Comisiwn, roedd Tara Porter wedi gallu dilyn achos yn erbyn Network Rail ar ran ei mab Owen, nad oedd yn gallu defnyddio’i orsaf leol gan nad oedd mynediad yno heb risiau. Heb yr arian, ni fyddai Tara wedi gallu cael mynediad i gyngor gan fargyfreithiwr.
Ar ôl llwyddiant y prosiect peilot, lansiom rowndiau eraill o gyllid i helpu gydag achosion o wahaniaethu ym maes addysg, tai a nawdd cymdeithasol. Mae’r cynlluniau hyn bellach wedi cau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 06 Sep 2017