- Hafan
- Gofal a chymorth


Gofal a chymorth
Mae ansawdd bywyd boddhaol lle gall pobl fyw gydag urddas a pharch yn hawl ddynol sylfaenol.
I filiynau heddiw a sawl miliwn arall yn y dyfodol, dim ond gofal a chymorth effeithiol sydd â’r grym i droi’r hawl hon o fod yn ddyhead i fod yn realiti bob dydd.
Mae gofal cymdeithasol effeithiol yn ganolog i weledigaeth y Comisiwn o ddarparu cydraddoldeb a hawliau dynol. Credwn fod rhaid i’r Llywodraeth ystyried moderneiddio’r dull sylfaenol o ymdrin â gofal a chymorth er mwyn cyflawni tri nod allweddol:
1. hyrwyddo galluoedd ac ymreolaeth pob unigolyn, waeth beth fo’i fodd
2. annog cyd-gynhyrchu er mwyn creu seilwaith cynaliadwy o ofal a chymorth, a
3. nodi a chyfleu cost a budd diwygio i’r gymdeithas gyfan
Gall gofal a chymorth fod yn symbyliad yn ogystal â bod yn rhwyd ddiogelwch, drwy ganolbwyntio ar helpu pobl i gael cymaint o reolaeth â phosibl dros eu bywydau eu hunain, i gyfrannu’n gymdeithasol ac yn economaidd ac aros yn ddiogel ac yn iach. Bydd y dull hwn yn fanteisiol i’r gymdeithas gyfan.
Symbyliad – nid rhwyd ddiogelwch
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad newydd o’r enw: From safety net to springboard: A new approach to care and support for all based on equality and human rights. Mae’r adroddiad yn trafod dyfodol gofal a chymorth a’r cyfraniad y gallent ei wneud wrth hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a chysylltiadau da. Fe’i cyhoeddwyd er mwyn dylanwadu ar farn ynghylch dyfodol gofal a chymorth yn Lloegr ac mae’n nodi’r gwaith y bydd y Comisiwn ei hun yn ei wneud i helpu i wireddu ei weledigaeth ar gyfer gofal a chymorth. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ei hargymhellion mewn Papur Gwyrdd ar ofal a chymorth yn ystod gwanwyn 2009.
Adnoddau’r Comisiwn
Arolygiad y Comisiwn Ansawdd Gofal
Lawrlwythwch ein hymateb (Word 74kb - Saesneg yn unig) i arolygiadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn Ymgynghoriad 2009/10, Mawrth 2009.
Comisiynu ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant
Darllenwch y cyflwyniad i Gynhadledd Gomisiynu Genedlaethol y Guardian/ADASS, Birmingham, 22-23 Mehefin 2009, gan Gerry Zarb, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Comisiwn.
Cyfarwyddyd ar hawliau dynol
Caiff hawliau dynol eu seilio ar egwyddorion craidd, megis urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth. Maent yn eich helpu i ffynnu a chyflawni eich potensial trwy:
• fod yn ddiogel a chael eich diogelu rhag niwed
• cael eich trin yn deg a chydag urddas
• byw’r bywyd a ddewiswch
• chwarae rhan weithredol yn eich cymuned a’r gymdeithas ehangach
Pecyn i hawliau dynol ar gyfer eiriolwyr
Mae Action for Advocacy, y sefydliad eiriolaeth annibynnol, wedi datblygu pecyn yn seiliedig ar gyfres gyntaf o ddiwrnodau hyfforddi dan nawdd y Comisiwn ar gyfer eiriolwyr ledled Cymru a Lloegr. Mae’rpecyn yn adnodd i hybu ystyriaeth bellach a gwell defnydd o adnoddau a allai gynorthwyo eiriolwyr i ddefnyddio hawliau dynol yn eu gwaith eirioli. Datblygwyd y deunydd hyfforddi a chymorth gyda chymorth a chefnogaeth amryw o sefydliadau eiriolaeth a chysylltiadau allweddol; Sefydliad Hawliau Dynol Prydain, Cynghrair Eiriolaeth Pobl Hŷn, Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain a Mind.
Cyfarwyddyd ar y dyletswyddau cydraddoldeb
Mae’r adran ar y ddyletswydd gydraddoldeb yn rhoi manylion am ddyletswyddau a chyfrifoldebau awdurdodau cyhoeddus ym Mhrydain. Mae’n cynnwys manylion am ddyletswyddau cydraddoldeb statudol a goblygiadau Deddf Hawliau Dynol 1998 i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus.
Diweddarwyd ddiwethaf: 08 Jan 2018