Bu farw mwy na 70 o bobl yn nhân Tŵr Grenfell ar 14 Mehefin 2017, mewn cartrefi a reolwyd gan y Wladwriaeth. Roedden nhw’n cynnwys plant, pobl oedrannus, pobl anabl ac ymfudwyr. Cafodd cannoedd yn fwy eu heffeithio’n ddifrifol, ar y noson ei hunan ac yn ystod y misoedd ers hynny.
Mae’r digwyddiadau ynghylch y tân a thriniaeth ddilynol goroeswyr, eu teuluoedd a’r gymuned, yn codi cwestiynau hawliau dynol a chydraddoldeb difrifol ynghylch materion megis yr hawl i fywyd, yr hawl i dai cymwys, mynediad i gyfiawnder, hawliau plant a phobl anabl.
O dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, mae gan awdurdodau cyhoeddus megis y llywodraeth a Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, gyfrifoldebau i drin pawb â thegwch, urddas a pharch. Rydym yn benderfynol i sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu hamlygu wrth i’r ymchwiliad cyhoeddus fynd rhagddo ac i’r drafodaeth genedlaethol ynghylch y trychineb hwn barhau.
Gwnaeth y Comisiwn gais i fod yn gyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad ond ni fuon yn llwyddiannus. Darllenwch ein cais i’r ymchwiliad (PDF) i ganfod rhagor.
Ni rydym yn bwriadu ailadrodd gwaith yr Ymchwiliad Tŵr Grenfell swyddogol. Er y bydd rhywfaint o orgyffwrdd, rydym yn canolbwyntio ar feysydd na fydd yn cael eu harchwilio yn yr ymchwiliad cyhoeddus nag unrhyw le arall.
Ai ymchwiliad yw hwn?
Nid ydym yn defnyddio’n pwerau ymchwilio ffurfiol i wneud y gwaith hwn. Rydym o’r farn y gallwn archwilio’r materion, gwneud sylwadau ar yr ymchwiliad cyhoeddus a’r dystiolaeth a glywa a gwneud argymhellion heb ddefnyddio’n pwerau statudol.
Os bydd rhaid i ni ddefnyddio’n pwerau ffurfiol i archwilio achosion posibl o fynd yn groes i’r gyfraith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu asesu cydymffurfedd â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fe wnawn hynny.
Pwy sy’n gweithio ar hwn?
Tîm cyfreithiol y Comisiwn sydd wrth lyw ein gwaith. Bydd Karon Monaghan QC a Jason Pobjoy yn darparu cyngor cyfreithiol arnenigol a byddwn yn tynnu ar ystod o ffynonellau ar gyfer tystiolaeth a sylwebaeth. Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’r gwaith, anfonwch e-bost at y tîm Grenfell.
Pa faterion yr ydym yn edrych arnynt?
Dyletswydd y Wladwriaeth i archwilio
- sut wnaeth y Wladwriaeth ymgymryd â’i dyletswydd i archwilio marwolaethau ac achosion o driniaeth annynol a diraddiol, lle y gallai ymwneud ag ef?
- ydy’r trefniadau cyfredol, gan gynnwys yr ymchwiliad cyhoeddus ei hunan, yn ddigonol?
Yr hawl i fywyd
- i ba raddau gwnaeth amryw gyrff Gwladwriaeth ymgymryd â’u dyletswyddau hawliau dynol i ddiogelu bywyd?
- pa gyfreithiau ddylai fod wedi diogelu diogelwch preswylwyr Tŵr Grenfell?
- pa drefniadau oedd ar waith ar gyfer sicrhau bod pryderon preswylwyr yn cael eu clywed?
Cymorth i bobl sydd wedi dioddef triniaeth annynol a diraddiol
- pa gymorth y gall pobl sydd wedi dioddef ‘triniaeth annynol a diraddiol’, fel llawer o oroeswyr ac eraill a effeithiwyd gan y tân, ei ddisgwyl gan y Wladwriaeth?
- pa gymorth uniongyrchol a hirdymor, megis triniaeth feddygol, cwnsela, gofal a thai, gallant ei ddisgwyl?
Dyletswydd y Wladwriaeth i ddarparu tai cymwys a diogel
- oedd y tai a ddarparwyd i breswylwyr Tŵr Grenfell yn gymwys?
- oedd hawliau grwpiau penodol, yn enwedig plant, pobl anabl a phobl hŷn, wedi’u hystyried yn briodol mewn trefniadau diogelwch tân?
Mynediad i gyfiawnder
- pa mor hawdd oedd hi i denantiaid a phreswylwyr gael cyngor cyfreithiol am gyflwr Tŵr Grenfell?
- a gafodd cyngor cyfreithiol cymwys ei ddarparu cyn ac ar ôl y tân?
- a wnaeth argaeledd cyngor cyfreithiol effeithio ar allu preswylwyr i gwyno am beryglon tân?
Cymorth i blant
- sut y cafodd y plant a effeithiwyd gan y tân eu trin ers y trychineb, o ran cefnogaeth seicolegol, tai ac addysg?
Atal gwahaniaethu
- oedd unrhyw bolisïau neu arferion ar waith a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (a elwir yn ‘nodweddion gwarchodedig’)?
- pa addasiadau a wnaed i bolisïau neu i Dŵr Grenfell ei hunan, megis allanfeydd tân, i ddiwallu anghenion preswylwyr anabl, plant a menywod beichiog?
- a oedd Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea yn cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED) yn ei bolisïau ar ddyrannu tai a dosbarthu adnoddau?
- ydy hi’n gwneud felly bellach yn ei phenderfyniadau ynglŷn â phreswylwyr Tŵr Grenfell?
Yn anad dim, ein nod yw sicrhau na chaiff dimensiynau hawliau dynol a chydraddoldeb na’r amgylchiadau ynghylch y trychineb eu diystyru, ac i wneud ein gorau glas i sicrhau na fydd trychinebau tebyg yn digwydd yn y dyfodol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Jun 2018