
Amlinella’r papur briffio hwn yr hyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud i archwilio’r materion cydraddoldeb a hawliau dynol a gododd yn dilyn tân Tŵr Grenfell.
Rydym wedi penderfynu bwrw golwg ar amgylchiadau’r tân, gan ganolbwyntio ar faterion ynghylch amddiffyn hawliau dynol a chydraddoldeb.
Achosodd tân Tŵr Grenfell golled trychinebus, y gallai fod gan y Wladwriaeth gyfrifoldeb amdano.
Daeth y bobl a fu farw, ac eraill a gafodd eu heffeithio gan y tân, o gefndiroedd amrywiol. Maent yn cynnwys plant, pobl oedrannus, pobl anabl a mudwyr.
Fel un o Sefydliadau Hawliau Dynol Prydain, mae cyfrifoldeb gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diogelwch hawliau dynol.