
Y ddogfen hon yw’r Cod Ymarfer Statudol ar gyflog cyfartal. Dyma’r canllaw awdurdodol cynhwysfawr a thechnegol i ddarpariaethau’r Ddeddf a’i diben yw sicrhau bod menywod a dynion yn cael yr un cyflog a buddion contract eraill wrth wneud gwaith cyfradd. Mae’n tynnu ar gyfraith achos a chynsail i ddangos ble a sut y gellir defnyddio darpariaethau’r Ddeddf ar gyflog cyfartal mewn sefyllfaoedd gwirioneddol. Bydd yn amhrisiadwy i gyfreithwyr, eiriolwyr, personél adnoddau dynol, llysoedd a thribiwnlysoedd; pawb sydd angen deall y gyfraith yn fanwl.