Ymchwil newydd yn datgelu agweddau positif tuag at bobl drawsryweddol

Cyhoeddwyd: 10 Aug 2020

Mae’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yn ystyried trawsffobia yn ddrwg ac yn credu nad ydynt yn bersonol yn arddel rhagfarn tuag at bobl drawsryweddol, yn ôl ffigurau diweddaraf yr arolwg a gomisiynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).

Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydeinig NatCen ar ran y CCHD fod 76% o’r bobl a holwyd yn credu bod rhagfarn yn erbyn pobl drawsryweddol bob amser neu’n bennaf yn ddrwg. Roedd mwy na 80% o bobl hefyd yn credu nad oeddent yn arddel rhagfarn yn erbyn pobl drawsryweddol.

Fodd bynnag, dengys yr ymchwil hefyd ddadl lai agored pan ddaw i amgylchiadau penodol, megis noddfeydd menywod a defnydd o doiledau cyhoeddus.

Datgelodd yr arolwg:

  • Dywedodd 51% o’r ymatebwyr y byddent yn gyfforddus neu’n gyfforddus iawn gyda menywod traws yn cael mynediad i noddfa menywod; gyda 24% yn teimlo’n gyfforddus iawn a 22% naill ai’n cytuno nag yn anghytuno. Roedd y canran a oedd yn gyfforddus neu’n gyfforddus iawn wedi gostwng 10 y cant o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2016.
  • Mae’r canran o ymatebwyr a ddywedodd nad oeddent yn arddel rhagfarn yn bersonol yn erbyn pobl drawsryweddol yn parhau ar lefelau cyffelyb, rhwng 82% ac 84% ers 2016.
  • Gwnaeth y gyfran o fenywod a soniodd eu bod eu hunain yn gyfforddus gyda menywod trawsryweddol yn defnyddio toiledau cyhoeddus i fenywod ostwng o 72% i 66%.
  • Mae cyfran eang o bobl yn fodlon â phobl drawsryweddol mewn rolau megis swyddogion yr heddlu ac athrawon ysgol gynradd (84% a 75% o ymatebwyr yn ôl eu trefn).

Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae pobl draws yn haeddu’r un urddas a pharch ag unrhyw un arall. Rhaid iddynt allu gyfranogi’n llawn yn ein cymunedau heb ofni neu ddioddef rhagfarn.

"Er ei bod yn glir ein bod yn cynyddu at fod yn gymdeithas fwy cynhwysol a deallus, dengys y canfyddiadau hyn pan fydd pobl yn cael eu holi’n fanwl, roeddent yn llai cefnogol o bobl draws mewn sefyllfaoedd penodol. Arwydd o ddemocratiaeth iach yw safbwyntiau cryf a gwahaniaethau barn. Awgryma’r ymchwil hwn fod rhaid i ni wella’r lefel o ddirnadaeth ar y ffeithiau allweddol o gwmpas y ddadl.

“Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ym Mhrydain o’r farn bod trawsffobia yn ddrwg. Mae angen i ni ddeall rhai o’r symudiadau er hynny, megis yr ychydig gostyngiad mewn cefnogaeth i bobl draws gael mynediad i rai gwasanaethau. Y ffordd orau ymlaen yw i’r ddwy ochr wella lefel eu trafodaeth.

“Mae angen sgyrsiau clir arnom a thrafodaeth gymwys ynglŷn â’r hyn y mae’r gyfraith a pholisi mewn gwirionedd yn ei olygu ar waith, a beth fyddai effeithiau ymarferol unrhyw newidiadau – rhaid i’r sgwrs fod yn adeiladol, yn oddefol ac yn seiliedig ar ffeithiau. Mae hyn yn cynnwys herio rhagfarn, codi llais yn erbyn ymddygiad sarhaus a bod yn agored am hawliau ac anghenion pob un yn y ddadl. Dylai’r Llywodraeth fod ar flaen y gad wrth feithrin trafodaethau adeiladol a phragmataidd ar faterion yn effeithio ar bobl draws.”

Meddai Guy Goodwin, Prif Weithredwr y National Centre for Social Research (NatCen):

“Awgryma’r canfyddiadau hyn fod gan y rhan fwyaf o Brydeinwyr agweddau cefnogol tuag at bobl draws. Daw ychydig o’r gefnogaeth hwnnw er hynny yn llai amlwg wrth archwilio enghreifftiau ymarferol.

“Er bod y cyhoedd yn tueddu cymeradwyo pobl draws mewn swyddi sydd yn dibynnu ar ymddiriedaeth cyhoeddus megis swyddogion yr heddlu neu athrawon ysgol gynradd, mae’r safbwyntiau yn amrywio ar ddefnydd mannau, megis toiledau, a ddefnyddir naill ai gan ddynion yn unig neu fenywod yn unig.”

Mae’r CCHD hefyd wedi galw am newidiadau yn y gofyniad o ganiatad priodasol ar barhau’r berthynas gyfreithiol wrth i berson traws geisio Tystysgrif Adnabod Rhywedd (GRC) yng Nghymru a Lloegr.

Daw canfyddiadau’r adroddiad o’r arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydeinig (BSA) yn 2019. Wedi’i gynnal gan y National Centre for Social Research yn flynyddol ers 1983, mae’r BSA yn ffynhonell data awdurdodol ar farnau’r cyhoedd ym Mhrydain.

Nodiadau i olygyddion

Wedi’i gynnal gan y National Centre for Social Research yn flynyddol ers 1983, mae’r BSA yn ffynhonell data awdurdodol ar farnau’r cyhoedd ym Mhrydain. Defnyddia fethodoleg hapsampl tebygolrwydd i esgor ar sampl cynrychiadol o oedolion 18 oed neu hŷn yn byw ar aelwydydd preifat ym Mhrydain.

Yn 2019, holwyd 3,224 o oedolion wyneb-i-wyneb, ac atebodd 2,636 ohonynt gwestiynau ychwanegol mewn fformat llenwi’u hunain.

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)