Cyhoeddwyd: 20 May 2021
O heddiw ymlaen, gall sefydliadau ac unigolion dod o hyd i dystiolaeth gweithredu a chynnydd gan Lywodraethau Cymru a’r DU ar draws 12 pwnc hawliau dynol newydd ar HumanRightsTracker.com
Pynciau hawliau dynol newydd a ychwanegwyd i’r safle yn cynnwys y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol, iechyd meddwl a chyfranogiad gwleidyddol a dinesig.
Wedi’i lansio yn 2019 fel teclyn cyntaf Ewrop i olrhain a monitro hawliau dynol, mae ein Traciwr Hawliau Dynol yn darparu crynodeb byr o’r camau allweddol mae Llywodraethau Cymru a’r DU wedi’u cymryd ers 2016, ac asesiad o gyfeiriad cynnydd wrth fodloni safonau hawliau dynol rhyngwladol.
Cafodd y dudalen hawdd ei defnyddio ‘Edrych ar y cynnydd’ ei hychwanegu at y safle ym mis Rhagfyr 2020, gan ddarparu cipolwg o gyflwr hawliau dynol, a chaiff ei diweddaru gyda mwy o bynciau dros hynt 2021.
Meddai Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae angen gwneud rhagor i ddeall, amddiffyn a chyfnerthu hawliau dynol pobl, a dylid herio unrhyw ostyngiad mewn amddiffynfeydd hawliau.
“Mae agenda lefelu tuag i fyny’r Llywodraeth yn cyflwyno cyfleoedd newydd i hybu cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain, a safwn yn barod i helpu gwireddu hyn gan ddefnyddio’n pwerau unigryw i helpu gwireddu newid gwirioneddol.
“Mae hawliau dynol o bwysigrwydd sylfaenol i’n bywydau drwyddi draw. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd gallwn lunio’r gymdeithas yr ydym ei heisiau a sicrhau bod hawliau pobl – beth bynnag a ddeil y dyfodol – yn cael eu parchu a’u hamddiffyn.”
Mae’r DU wedi arwyddo i saith cytuniad hawliau dynol y CU, rhywbeth a osododd y safon ar gyfer hawliau dynol ar draws y byd.
Rydym wedi adolygu’r hyn y mae Llywodraethau Cymru a’r DU wedi’i wneud o ran nifer o faterion hawliau dynol gwahanol, ac wedi asesu’r cynnydd a wnaed.
Mae ein hasesiadau yn seiliedig ar gynnydd llywodraethau ers 2016 a chafodd Llywodraethau Cymru a’r DU eu hadolygu ar wahân ar gyfer y materion hawliau dynol hynny a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru.
I gael sesiwn hyfforddiant rhad ac am ddim ar fframwaith hawliau dynol y CU a’r Traciwr Hawliau Dynol ar gyfer eich sefydliad neu rwydwaith, cysylltwch â’n tîm monitro hawliau dynol trwy anfon e-bost i HumanRightsMonitoring@equalityhumanrights.com.