Tensiynau hil mewn perygl o gynyddu yn sgil anghydraddoldeb eang, rhybuddia’r Comisiwn

Cyhoeddwyd: 18 Aug 2016

Bydd y methiant i daclo anghydraddoldeb hil sydd wedi hen galedu yn gwaethygu rhaniadau yn ein cymdeithas os na fydd y Llywodraeth yn gweithredu ar frys. Dyna fydd rhybudd Cadeirydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw.

Bydd y Comisiwn heddiw yn cyhoeddi’r adolygiad fwyaf erioed i gydraddoldeb hil ym Mhrydain ar draws pob agwedd o fywydau pobl, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, tai, cyflog a safonau byw, iechyd, cyfiawnder troseddol a chyfranogi. Yn ôl yr adolygiad, er bod bywyd wedi dod yn decach i rai pobl dros y pum mlynedd ddiwethaf, i eraill, mae cynnydd wedi sefyll yn stond ac i rai - yn arbennig pobl Ddu - mae bywyd ar sawl agwedd wedi gwaethygu.

Bydd Cadeirydd y Comisiwn, David Isaac, yn dweud bod yr adroddiad yn datgelu ‘cyfuniad gofidus iawn’ o droseddau casineb yn cynyddu ar ôl canlyniad Brexit y refferendwm ac anghydraddoldeb hil ac annhegwch systemig hir dymor’.

Bydd David yn dweud bod datganiadau newydd y Prif Weinidog yn ‘galonogol iawn’ ond bod ymdrechion blaenorol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hil wedi bod yn ‘dameidiog a checiog’ gyda ‘mwy o ystrydebau un genedl na pholisïau’.

Bydd hefyd yn galw am strategaeth hil newydd gynhwysfawr gan y Llywodraeth, ymestyn targedau newydd i leihau anghydraddoldeb hil, gan gynnwys ym maes cyfiawnder troseddol, addysg a chyflogaeth, yn ogystal ag ymchwil ac adrodd gwell i fonitro cynnydd.

Bydd yr adroddiad heddiw yn datgelu:

  • Bod pobl Ddu yn llawer mwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trosedd a chael eu trin yn fwy garw yn y system cyfiawnder troseddol. Rydych yn fwy na dwywaith yn debygol o gael eich llofruddio os ydych yn berson Du yng Nghymru a Lloegr ac yn deirgwaith yn fwy tebygol o gael eich erlyn a’ch dedfrydu nag ydych pe baech yn berson Gwyn. At hynny, mae hil yn parhau i fod y cymhelliant a gofnodir yn fwyaf cyffredin am droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr ar 82%.

 

  • Er gwella cyrhaeddiad addysgol, mae pobl lleiafrifoedd ethnig yn dal yn cael eu dal yn ôl yn y farchnad llafur. Mae gweithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig â gradd yn ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na gweithwyr Gwyn â gradd. Ar gyfartaledd, telir gweithwyr Du â gradd 23.1% yn llai na gweithwyr Gwyn â gradd.

 

  • Os ydych yn ifanc ac yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig, mae eich siawnsis mewn bywyd wedi gwaethygu cryn dipyn dros y pum mlynedd ddiwethaf ac maen nhw ar y mwyaf heriol ers cenedlaethau. Ers 2010, bu cynnydd o 49% yn y nifer o bobl 16 i 24 oed ar draws y DU o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a oedd yn hir dymor yn ddiwaith, o’i gymharu â gostyngiad o 2% i berson Gwyn. Mae gweithwyr Du hefyd yn fwy na dwywaith yn debygol o fod mewn ffurfiau ansicr o gyflogaeth megis, contractau dros dro neu weithio i asiantaeth – sy’n cynyddu i 40% bron i weithwyr Du ac Asiaidd, o’i gymharu â chynnydd o 16% i weithwyr Gwyn.

 

  • I’r gwrthwyneb, mae myfyrwyr Tseiniaidd a chymunedau Indiaidd yn gwneud cynnydd da mewn llawer o feysydd bywyd. Mae’r bwlch rhwng disgyblion Tseiniaidd/Indiaidd a Gwyn yn tyfu - yng Nghymru cyflawnodd 79.8% o ddisgyblion Tseiniaidd a 60.8% o ddisgyblion Asiaidd raddau TGAU A-C o’i gymharu â 55.9% o ddisgyblion Gwyn. Fodd bynnag, mae bechgyn Gwyn tlawd yn gyffredinol yn parhau i fod â’r canlyniadau TGAU gwaethaf. Dim ond 28.3% o’r rheini yn Lloegr a gyflawnodd canlyniadau o leiaf pum gradd TGAU A-C. Plant ysgol Asiaidd a Tseiniaidd sydd â’r gyfradd isaf o waharddiadau, pobl Indiaidd sydd â’r gyfradd isaf o ddiweithdra ymysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig ar 9.2% o’i gymharu â 17.3% i bobl Bacistanaidd/Bangladeshaidd, ac mae pobl Indiaidd ar gyfartaledd yn cael eu talu 8.9% yn fwy yr awr na phobl Gwyn.

 

  • Mae menywod gwyn yn fwy tebygol o sôn am fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig na menywod lleiafrifoedd ethnig. Roedd hyn yn 7.4% o fenywod Gwyn o’i gymharu â 4.4% o fenywod lleiafrifoedd ethnig. Fodd bynnag, dim ond menywod Du a lleiafrifoedd ethnig sy’n dioddef o anffurfio organau cenhedlu benywod, lladd ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod, ac mae gwasanaethau arbenigol yn ei chael hi’n anodd ateb y galw (yn benodol oherwydd diffyg nawdd).

 

  • Pan ddaw’n fater o bwy sy’n rhedeg Prydain, prin iawn yn gyffredinol yw’r bobl lleiafrifoedd ethnig mewn uwch swyddi – mae 14% o boblogaeth y DU yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig, ond o’r 2,686 o farnwyr a gyhoeddodd eu hethnigrwydd yng Nghymru a Lloegr, dim ond 159 (5.9%) oedd yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig. At hynny, dim ond 5.5% o holl swyddogion yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr oedd o dras lleiafrifoedd ethnig ac nid oes un Prif Gwnstabl o dras lleiafrifoedd ethnig.

Bu meysydd hefyd lle gwelom gynnydd i’w groesawu. Er enghraifft, gwelodd Etholiad Cyffredinol 2015 gynnydd yng nghyfran yr ASau a oedd yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig  o 4.2% i 6.3%, ac ers 2008, mae pob grŵp ethnig wedi gweld cynnydd yn y gyfran â chymhwyster lefel gradd. I bobl Indiaidd roedd yn (18.1 pwyntiau canran) i 49.5%, i bobl Affricanaidd/Caribïaidd/Du roedd yn (9.6 pwyntiau canran) i (34.7%) ac i bobl Bacistanaidd/Bangladeshaidd roedd yn (9.7pwyntiau canran) i 27.6%.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon o gynnydd o bell ffordd ac mae angen gwneud llawer mwy o hyd. Mae’r adroddiad heddiw yn gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU gan gynnwys:

  • yr angen am strategaeth gynhwysfawr, gydlynol a hirdymor gan Lywodraeth y DU gyda deilliannau clir a mesuradwy i gyflawni cydraddoldeb hil
  • y dylai’r strategaeth gael ei datblygu a’i chyflenwi rhwng Llywodraethau’r DU, yr Alban a Chymru, a dylai fod dan gyfrifoldeb un ysgrifennydd gwladol, gydag atebolrwydd clir ar draws Lywodraeth, a
  • dylai’r Llywodraethau oll wella eu data ethnigrwydd a sicrhau ei fod yn cwmpasu ystod o ymchwil, ystadegau a grwpiau ethnig i lywio eu strategaethau cydraddoldeb hil.

Yn ychwanegol i hyn, ysgrifennodd y Comisiwn yn ddiweddar at Bwyllgor y CU ar hil (CERD) gan amlinellu cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU i daclo anghydraddoldeb hil. Mae’r rhain yn cynnwys :

  •  dylai Llywodraeth y DU gynnal adolygiad graddfa lawn ar weithrediad ac effeithiolrwydd dedfrydau am droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y gallu i gynyddu dedfrydau i droseddau ar sail casineb
  •  dylai Llywodraeth y DU gymryd camau i liniaru unrhyw effeithiau gwahaniaethol o’r diwygiadau mynediad i gyfiawnder, a
  •  dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn defnyddio monitro, hyfforddiant a chraffu i sicrhau bod stopio a chwilio yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ac mewn ffordd sy ddim yn gwahaniaethu.   

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae cyfuniad y cynnydd o ran troseddau casineb ar ôl canlyniad Brexit y refferendwm a’r anghydraddoldeb hil ddybryd ym Mhrydain yn achos pryder mawr a rhaid eu taclo ar frys. 

“Mae’r adroddiad heddiw yn tanlinellu maint yr annhegwch ac anghydraddoldeb hil sydd wedi hen galedu o hyd yn ein cymdeithas.

“Mae rhaid i ni ailddyblu ein hymdrechion i daclo anghydraddoldeb hil ar frys neu bydd y rhaniadau yn ein cymdeithas a’r tensiynau hiliol yn gwaethygu.

“Os ydych yn berson Du neu’n perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig yn y Brydain sydd ohoni heddiw, gallwch yn aml ddal i deimlo eich bod yn byw mewn byd gwahanol, heb sôn am fod yn rhan o gymdeithas un genedl.

“Mae’n galonogol iawn i glywed ymrwymiad y Prif Weinidog newydd i daclo anghydraddoldeb. Er mwyn cyflawni hyn mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn rhoi strategaeth hil gynhwysfawr a chydlynol ar waith sy’n taclo’r problemau beichus hyn ac yn atal rhag amddifadu rhai cymunedau’n bellach rhag buddion cyfle cyfartal.”

Mae ein dadansoddiad manwl o dystiolaeth bresennol yn amlygu darlun o anghydraddoldeb hil sy’n peri gofid. Mae’n cynnwys:

Cyflogaeth

  • Roedd cyfraddau diweithdra yn arwyddocaol yn uwch i leiafrifoedd ethnig ar 12.9% o’i gymharu â 6.3 % i bobl Gwyn.
  • Mae gweithwyr Du â gradd yn ennill 23.1% yn llai ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn.
  • Ym Mhrydain, roedd canran arwyddocaol is o leiafrifoedd ethnig (8.8%) yn gweithio fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion, o’i gymharu â phobl Gwyn (10.7%). Roedd hyn yn arbennig o wir i bobl Affricanaidd/Caribïaidd/Du (5.7%) a’r rheini o ethnigrwydd Cymysg (7.2%).
  • Mae pobl Ddu sy’n gadael yr ysgol gyda chyraeddiadau Safon A yn nodweddiadol yn cael eu talu 14.3% yn llai na’u cyfoedion Gwyn.

Addysg

  • Dim ond 6% o ddisgyblion Du a aeth i brifysgol Grŵp Russell, o’i gymharu â 12% o ddisgyblion o dras Gymysg ac Asiaidd ac 11% o ddisgyblion Gwyn. 
  • Mae gan blant Du Caribïaidd a Chymysg Gwyn/Du Caribïaidd gyfraddau gwahardd parhaol tua theirgwaith yn fwy nag i’r boblogaeth disgybl gyfan.

Troseddu

  • Roedd cyfraddau erlyn a dedfrydu i bobl Ddu yn deirgwaith yn uwch nag i bobl Gwyn –18 y mil o’r boblogaeth o’i gymharu â chwech y mil o’r boblogaeth i bobl Gwyn. O ran dedfrydu roedd yn 13 y mil o’r boblogaeth i bobl Ddu a phump y mil o’r boblogaeth i bobl Gwyn.   
  • Yng Nghymru a Lloegr mae plant ac oedolion lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu lladd yn droseddol. Roedd y gyfradd dynladdiad i bobl Ddu yn 30.5 y filiwn o’r boblogaeth, 14.1 i bobl Asiaidd ac 8.9 i bobl Gwyn.
  • Mae menywod Gwyn yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig na menywod lleiafrifoedd ethnig.  Adroddodd 7.4 % eu bod yn ddioddefwyr camdriniaeth o’i gymharu â 4.4 % o fenywod lleiafrifoedd ethnig.
  • Mae troseddau casineb ar sail hil ar rwydweithiau rheilffyrdd Prydain wedi codi o 37 %.
  • Yn Lloegr, roedd 37.4% o bobl Ddu a 44.8% o bobl Asiaidd yn teimlo’n anniogel yn eu cartrefi neu o gwmpas eu hardal leol, o’i gymharu â 29.2% o bobl Gwyn.

Safonau byw

  • Mae oedolion Pacistanaidd/Bangladeshaidd a Du yn fwy tebygol o fyw mewn llety tila na phobl Gwyn. Mae 30.9 % o bobl Pacistanaidd/Bangladeshaidd yn byw mewn llety gorlawn, tra bo’r ffigwr yn 26.8%  i bobl Ddu ac 8.3% i bobl Gwyn.
  • Os ydych yn perthyn i’r lleiafrifoedd ethnig, rydych yn dal yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi. Dengys ein tystiolaeth fod 35.7% o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi o’i gymharu â 17.2% o bobl Gwyn.  
  • Yn yr Alban, mae aelwydydd lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddioddef gorboblogi. Roedd hyn yn 11.8% i aelwydydd lleiafrifoedd ethnig o’i gymharu â 2.9% i aelwydydd Gwyn.  

Iechyd a gofal

  • Roedd gan fenywod Du Affricanaidd gyfradd marwolaeth bedair gwaith yn uwch na menywod Gwyn yn y DU.  
  • Mae nifer anghymesur arwyddocaol o leiafrifoedd ethnig yn cael eu cadw’n gaeth o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr - roedd menywod Du Affricanaidd yn saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu cadw’n gaeth na menywod Gwyn Prydeinig.
  • Canfuwyd fod Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn dioddef iechyd meddwl salach na gweddill y boblogaeth ym Mhrydain. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder ac iselder ysbryd.

Ychwanegodd David Isaac:

“Mae angen i ni adeiladu cymdeithas deg lle nad yw ein gwreiddiau yn pennu ein tynged.

“Hyd yn hyn, ni chafodd cynllun economaidd y Llywodraeth ers 2010 ei gyfateb gan gynllun hil cynhwysol sy’n atal rhag amddifadu cyfle cyfartal yn bellach i rai cymunedau.

“Rydym yn cytuno gyda’r Llywodraeth bod rhaid i ni godi ein huchelgeisiau ar frys, ac rydym yn benderfynol o weithio gyda’r Prif Weinidog newydd i ailddyblu ein hymdrechion i feithrin cymdeithas deg.”

Nodiadau i olygyddion

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)