Unig rieni, teuluoedd du a phobl anabl ar eu colled oherwydd cynlluniau gwariant a threth

Cyhoeddwyd: 18 Mar 2019

Unig rieni benywaidd, teuluoedd du, pobl ag anableddau difrifol a theuluoedd gyda mwy na thri phlentyn yw’r collwyr mwyaf o ran incwm yr aelwyd yn sgil cyfuniad o dreth, gwariant a thoriadau gwasanaethau cyhoeddus rhwng 2010 a 2022, datgelodd ein hymchwil

Gan ystyried y newidiadau i dreth, nawdd cymdeithasol a gwasanaethau awdurdod lleol, amcangyfrifa’n hymchwil y bydd incwm yr aelwyd yn yr Alban yn disgyn: 

  • 8.5% i deuluoedd tlotaf yr Alban
  • 8% i deuluoedd mwy o faint
  • 7.8% i aelwydydd unig rieni benywaidd
  • 6.5% i aelwydydd pobl ddu
  • 5% i bobl ag anableddau difrifol
  • 4% i bobl iau

Mae’n hadroddiad yn darogan y bydd tlodi plant yn yr Alban yn cynyddu erbyn 2021-22, ac o ganlyniad bydd oddeutu 80,000 mwy o blant mewn tlodi, cynnydd o 8%.

Nid yw’r effaith yn llyfn ar draws cymunedau yn yr Alban. Y collwyr mwyaf yw’r teuluoedd gydag o leiaf un oedolyn anabl ac un plentyn anabl, a fydd o bosib yn colli £5000 y flwyddyn ar gyfartaledd, cyfwerth ag un rhan o bob deg o’u hincwm, oherwydd treth a diwygiadau lles.

Rhagwelir y bydd aelwydydd pobl wyn yn colli £550 ar gyfartaledd rhwng 2012 - 2022, tra bydd aelwydydd pobl ddu yn colli mwy na £2,900 ac aelwydydd pobl Asiaidd yn colli £1200 ar gyfartaledd.

Bydd menywod ar gyfartaledd yn colli £250 y flwyddyn, o’i gymharu â £40 i ddynion, gan godi i fwy na £1200 o golled i fenywod yn y grŵp 35-44 oed (pan fyddan nhw’n debygol o fagu plant) o’i gymharu â llai na £350 i ddynion.

Meddai John Wilkes, ein Pennaeth yn yr Alban:

‘Dengys y canfyddiadau pa mor llym ac anghyfartal y bu effaith  cyfunol y dirywiad, y llymder a thoriadau gwariant cyhoeddus. Gan ddefnyddio’r ymagwedd newydd hwn i asesu effaith cyfunol treth a pholisi gwariant y bobl sydd fwyaf ar y cyrion yw’r rhai sydd wedi dioddef fwyaf.  

‘Gwyddom eisoes fod lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, ac unig rieni yn llawer mwy tebygol o fyw mewn tlodi nag Albanwyr eraill, ac yn wynebu diweithdra llawer uwch na’r cyfartaledd.

‘Beth a ddengys yr ymchwil hwn yn glir yw y gallwn a rhaid i ni ystyried yr effeithiau gwahanol ar grwpiau gwahanol cyn i ni wneud newidiadau polisi pwysig. Fel arall rydym mewn perygl o gynyddu’r anghydraddoldeb yn ein cymdeithas. ‘Mae polisïau positif yn yr Alban megis effeithiau lliniarol rhai newidiadau nawdd cymdeithasol wedi arbed amryw rhag colledion incwm hyd yn oed yn fwy.’

Mae’n hadroddiad yn cymharu’r effaith ar draws yr Alban, Lloegr a Chymru. Dyfarnir fod yr Alban wedi mabwysiadu polisïau mwy blaengar - megis lliniaru effaith y ‘treth ystafell wely’ - ac o ganlyniad mae’r gostyngiadau incwm aelwyd yn llai nag yng Nghymru a Lloegr.

Rhagwelir y bydd cyfanswm incwm aelwyd yn Lloegr yn gostwng £1,450 rhwng 2011 a 2022, o’i gymharu â £200 yn yr Alban a £470 yng Nghymru.

Mae addysg uwch a phellach  yn derbyn y toriadau uchaf  ar draws Prydain, ond yn yr Alban mae’r gwariant ar y blynyddoedd cynnar a thai wedi cynyddu’n sylweddol tra bod yn gostwng mewn mannau eraill o ( 50% a 30% yn y drefn honno).

Meddai un o awduron yr adroddiad, Howard Reed, a gyflwynodd y canfyddiadau i Senedd yr Alban:

'Dengys yr ymchwil hwn fod effaith cyfunol treth a diwygiadau nawdd cymdeithasol ers 2010 wedi taro’r aelwydydd tlotaf yn yr Alban yn galetaf, ac mae wedi effeithio’n andwyol ar fathau arbennig o deuluoedd, yn arbennig menywod, unig rieni ac aelwydydd gyda thri neu fwy o blant, aelwydydd pobl ddu ac aelwydydd gyda phobl ag anableddau difrifol. ‘Mae dewisiadau gwariant Llywodraeth yr Alban ei hun wedi lliniaru rhai – ond nid pob un – o ganlyniadau andwyol y penderfyniadau treth a nawdd cymdeithasol a wnaed gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.' 

Gwna’r adroddiad nifer o argymhellion, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth y DU ystyried lliniaru’r newidiadau mawr, negyddol i leihau effeithiau anghymesur ar rai grwpiau.
  • Llywodraeth yr Alban i barhau i liniaru effeithiau negyddol drwy bolisiau gwariant a nawdd cymdeithasol.
  • Dylai’r ddwy lywodraeth gymryd i gyfrif effeithiau cynlluniau gwariant yn y dyfodol ar aelwydydd tlotach a grwpiau gwarchodedig a sicrhau y gwasanaethir hwy ochr yn ochr ag asesiadau effaith ar gydraddoldeb, yn cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn ddarostyngedig i graffu.

 

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)