Polisi Hawl i Rentu yng Nghymru a’r Alban wedi’i herio’n llwyddiannus

Cyhoeddwyd: 01 Mar 2019

Heddiw dyfarnwyd fod polisi Hawl i Rentu Llywodraeth y DU yn mynd yn groes i hawliau dynol a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r dyfarniad yn atal Llywodraeth y DU rhag rowlio allan y polisi dadleuol yng Nghymru a’r Alban. Dyfarnodd y llys hefyd fod y polisi yn Lloegr yn mynd yn groes i gyfraith hawliau dynol.

Bu’r polisi, sy’n gofyn i bob landlord wirio statws mewnfudo unrhyw denant posib, mewn grym yn Lloegr ers 2016. Rhybuddiom y byddai’r polisi yn cynyddu gwahaniaethu hiliol gan y byddai landlordiaid yn syml yn dewis peidio â rhentu i rywun y bydden nhw’n drwgdybio o fod yn anghymwys. Y gosb am rentu anghyfreithlon yw dirwy anghyfyngedig neu i fyny at bum mlynedd o garchar, er y byddai troseddwyr tro cyntaf yn debygol o gael dirwy o £1,000.

Yn siarad heddiw, meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Pe bai’r polisi hwn wedi cael ei gyflwyno yng Nghymru a’r Alban, gallai landlordiaid wedi cael eu gorfodi i wahaniaethu’n hiliol drwy ofn o gael dirwy am osod eiddo i berson amhriodol. Nid swyddogion mewnfudo yw landlordiaid ac mae’n hollol amhriodol i’w rhoi yn y sefyllfa honno. Darparom gyngor arbenigol yn yr achos hwn gan i’r Llywodraeth fethu â chymryd i gyfrif yr effaith y cai’r rheolau hyn ar hawliau pobl a warchodir o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.”

Mae’r dyfarniad yn cadarnhau bod y polisi presennol yn Lloegr yn anghyfreithlon a bod y cynnig i ymestyn y polisi i Gymru a’r Alban yn anghydnaws â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y Llywodraeth yn nhermau bywyd preifat a pheidio â gwahaniaethu. Dyfarnwyd hefyd fod y Llywodraeth yn mynd yn groes i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Wrth ddyfarnu, meddai’r Barnwr Spencer am y polisi cyfredol yn Lloegr:

“O’m ran i, dangosodd y dystiolaeth yn gryf, wrth ei chymryd gyda’i gilydd, nad yw landlordiaid yn unig yn gwahaniaethu yn erbyn tenantiaid posib ar sail cenedligrwydd ac ethnigrwydd ond hefyd eu bod yn gwneud hynny oherwydd y Cynllun.
 
“Yn fy marn i, nid yw Cynllun a gyflwynodd y Llywodraeth yn unig yn darparu achlysur neu gyfle i landlordiaid preifat wahaniaethu ond yn eu hachosi i wneud hynny lle fel arall ni fydden nhw yn gwneud felly.”

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n afresymol i ymestyn y polisi i Gymru a’r Alban.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n afresymol i ymestyn y polisi i Gymru a’r Alban.

Wrth sylwi ar y dyfarniad, meddai Chai Patel o’r Cydgyngor dros Les Mewnfudwyr a wnaeth arwain yr her:

“Does dim lle i hiliaeth ym marchnad dai’r DU. Gan fod yr Uchel Lys bellach wedi cadarnhau bod polisi Theresa May yn weithredol yn achosi gwahaniaethu, rhaid i’r Senedd weithredu ar unwaith i’w ddileu.”

Nodiadau i olygyddion

Cafodd yr her ei arwain gan y Cydgyngor dros Les Mewnfudwyr a’i chefnogi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a Chymdeithas Trigolion a Landlordiaid. Cafodd y dyfarniad (CO/598/2018) ei gyhoeddi heddiw gan yr Uchel Lys Cyfiawnder yn Llundain.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)