Rhaid i’r llywodraeth wella’i hanes ar atal triniaeth greulon ac annynol, rhybuddia corff hawliau dynol cenedlaethol

Cyhoeddwyd: 07 May 2019

Wrth siarad yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa heddiw, rhybuddiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) fod rhaid i lywodraeth y DU a llywodraeth Cymru wneud mwy i wella’u hanes ar atal triniaeth annynol a diraddiol ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys mewnfudo, cadw yn y ddalfa, gofal iechyd a chadw pobl ifanc yn y ddalfa.

Mae’r CCHD hefyd yn galw am godi oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr. Deg mlwydd oed ydyw ar hyn o bryd ac mae’n gryn is na’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac yn anghyson â safonau rhyngwladol.  

Rhybuddia’r CCHD fod troi plant yn droseddwyr mor gynnar yn eu bywydau yn effeithio’n andwyol ar eu lles a’u datblygiad ac o bosib yn eu gwneud yn fwy tebygol o aildroseddu fel oedolion. Argymhella fabwysiadu ymagweddau mwy therapiwtig yn seiliedig ar les ar gyfer delio ag ymddygiad niweidiol plant a, phan fo angen rhoi plant yn y ddalfa, dylid eu rhoi mewn lleoliadau nad ydynt yn garchardai, lle gall y plant dderbyn cymorth staff arbenigol ac uchel eu sgiliau er mwyn diwallu’u hanghenion arbennig.

Amlyga’r adroddiad y dirywiad yn yr amodau a brofir gan blant wrth eu rhoi yn y ddalfa. Cyfeiria at gyfraddau cynyddol o drais, hunan niweidio ac ataliaeth, gan gynnwys ataliaeth sy’n peri poen. Mae’r CCHD yn galw am ymagweddau cyson i ataliaeth ar draws pob lleoliad a gwahardd unrhyw dechneg sydd yn fwriadol yn peri poen i blant, yn unol â’i fframwaith hawliau dynol ar gyfer ataliaeth a gyhoeddodd yn ddiweddar. Mae hefyd yn amlinellu gofidion ynglŷn â defnyddio ‘tasers’ a’r defnydd cynyddol o  gyflau poeri ar blant yn nalfeydd yr heddlu.  

Cafodd cadw mewnfudwyr yn y ddalfa am gyfnod amhenodol yn y DU ei godi hefyd fel gofid sylweddol. Y DU yw’r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd y gall yn gyfreithlon ddal mewnfudwyr yn y ddalfa am gyfnod amhendant. Awgryma’r CCHD y gallai diffyg terfyn amser ar gadw mewnfudwyr yn y ddalfa a pharhau i gadw goroeswyr artaith yn y ddalfa ac unigolion eraill sy’n agored yn gynyddol i niwed yn y ddalfa fod yn gyfystyr ag artaith neu driniaeth annynol a diraddiol.  

Mae’r CCHD felly wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno terfyn amser 28 diwrnod ar gadw mewnfudwyr yn y ddalfa a sicrhau mai dim ond fel mesur gweinyddol yn unig y caiff rhywun ei gadw a dim ond pan fethodd popeth arall.  

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae gan bawb yr hawl i beidio â dioddef artaith a thriniaeth annynol a diraddiol. Hawl absoliwt ydyw. Nid yn unig bod methu â diogelu pobl yn ddigonol rhag camau peryglus a niweidiol o’r fath yn fethiant moesol ond hefyd yn mynd yn groes i’n rhwymedigaethau cyfreithiol rhyngwladol sy’n bodoli.

“Mae codi oed cyfrifoldeb troseddol yn hanfodol i atal rhoi plant ifanc iawn rhag bod yn agored i effeithiau andwyol o gael eu cadw yn y ddalfa, ac i ddiogelu’u dyfodol. Rhaid i ni hefyd gyflwyno terfyn amser 28 diwrnod o ran cadw mewnfudwyr yn y ddalfa i ddileu cyfnodau hir diangen o gadw unigolion yn y ddalfa a all beryglu pobl sydd eisoes wedi dioddef cyni sylweddol i ddioddefaint pellach. Mae hefyd yn gostus iawn i’r gymdeithas yn gyffredinol.  

“Rhaid i ni hefyd gyflwyno terfyn amser 28 diwrnod ar gadw mewnfudwyr yn y ddalfa i atal pobl rhag colli’u rhyddid am gyfnod amhendant ac i ddiogelu’r rheini sydd eisoes wedi dioddef cyni sylweddol rhag dioddef ymhellach.

“Mae gwella hanes Prydain o atal camdriniaeth yn ein gwlad ein hunain yn hanfodol os ydym am gynnal ein henw da byd-eang fel hyrwyddwyr cydraddoldeb a hawliau dynol.”

Materion eraill

Mae’r adroddiad ystod eang hefyd yn dadansoddi:

  • triniaeth carcharorion dramor
  • cadw pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y ddalfa
  • effaith diwygiadau cymorth cyfreithiol ar fynediad i gyfiawnder
  • marchnata pobl a chaethwasiaeth fodern
  • Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol
  • mesurau gwrthderfysgaeth
  • gweithdrefnau lloches a mudo
  • trais yn erbyn menywod a merched
  • cam-drin plant yn rhywiol
  • trosedd casineb                                                                                                                                                       

Mae hefyd yn gwneud galwad groesbynciol ar gyfer archwiliadau i honiadau camdriniaeth fod yn brydlon, annibynnol a bod â’r grym i sicrhau’r holl dystiolaeth berthnasol. 

 

Ceir yr adroddiad llawn a rhestr argymhellion ar wefan y CCHD ac maent wedi’u cyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig fel rhan o’i adolygiad o hanes y DU ar artaith a thriniaeth greulon, annynol neu ddiraddiol arall, o dan y Confensiwn yn erbyn Artaith (CAT).

Cyfeirir yr argymhellion hyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn unig, er y gallant hefyd fod yn berthnasol i weinyddiaethau datganoledig eraill. Bydd cyflwyniad gwahanol gan Gomisiwn Hawliau Dynol yr Alban yn cwmpasu meysydd sydd wedi’u datganoli i Senedd yr Alban, a bydd cyflwyniad gwahanol gan Gomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon yn cwmpasu Gogledd Iwerddon.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid i gefnogi ymgysylltiad y gymdeithas sifil â’r adolygiad hwn drwy gyllido REDRESS i grynhoi tystiolaeth o fwy na 80 o sefydliadau cymdeithas sifil ac arbenigwyr. 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)