Cyhoeddwyd: 14 Dec 2021
Wrth ymateb i gynigion y Llywodraeth i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol, meddai’r Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cyflawni rhan allweddol wrth ddiogelu pawb yn y DU. Gwnaeth hi’n bosib i deuluoedd y rheini a fu farw ym maes pêl droed Hillsborough i ddatgelu’r gwirionedd a dal awdurdodau i gyfrif, a sicrhau bod rhaid i’r heddlu archwilio achosion treisio yn llwyr ac yn effeithiol. Golyga hefyd fod gan bobl anabl a’u teuluoedd yr hawl i ddweud eu dweud mewn penderfyniadau am eu gofal. Mae ei buddion yn ddi-gwestiwn.
“Gwnawn ddadansoddi’r cynigion hyn yn ofalus. Gwnawn groesawu unrhyw newidiadau a fyddai’n cryfhau amddiffynfeydd a gwrthwynebu’r rhai a allai eu lleihau neu’u gwanhau. Gwnawn ymateb i’r ymgynghoriad maes o law.”