Cyhoeddwyd: 10 Oct 2017
Wrth ymateb i Archwiliad Anghyfartalwch Hil y Llywodraeth, meddai Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac:
“Nid yw canfyddiadau’r archwiliad hil yn ysgytwad i ni. Dylid cymeradwyo’r Prif Weinidog am gyflwyno’r wybodaeth hon i bawb ei gweld ac mae angen i ni yn awr i ddefnyddio’r data i osod y sail ar gyfer newid gwirioneddol. Dim ond trwy gymryd camau sydd wedi’u canolbwyntio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb y gall Prydain ddod yn wlad deg y gall unigolion gyrraedd eu potensial ynddi a gall ein cymunedau fyw a gweithio gyda’i gilydd i greu economi cryf a chymdeithas gydlynol.
"Rhaid i’r Llywodraeth daclo’r anghyfartalwch sylweddol a gadarnhaodd yr archwiliad er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sydd wedi hen galedu yn ein cymdeithas. Mae angen strategaeth cydraddoldeb hil gydlynol a chynhwysfawr ar Brydain gyda chamau cadarn mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn.”
Daw sylwadau Mr Isaac wrth i’r Comisiwn, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Runnymede, y ‘Black Training and Enterprise Group’, Busnes yn y Gymuned ac ‘Operation Black Vote’, gyhoeddi ‘Roadmap to race equality’. Cynllun saith rhan yw’r map sydd yn argymell cyflogaeth, addysg, tai, iechyd a chyfiawnder troseddol fel y meysydd blaenoriaeth sydd angen mynd i’r afael â nhw er mwyn y modd gorau i wireddu cynnydd o ran anghydraddoldeb hil, yn ogystal â rhoi cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i Brydain wedi Brexit a sicrhau bod arweinyddiaeth gref yn ei lle i gyflawni newid.
Dywed y cynllun y dylid cymryd camau i:
- leihau bylchau cyflog a chyflogaeth ethnigrwydd fel bo gan bawb gyfle i gael swydd sydd yn cydweddu â’u galluoedd a chael eu gwobrwyo’n deg amdanyn nhw
- gwella deilliannau addysgol fel bo gan bob plentyn gyfle teg i gyflawni’i botensial waeth beth yw ei ethnigrwydd
- taclo nifer anghymesur o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn llety is-safonol, gorlawn ac amhriodol
- gwella mynediad i ofal iechyd a deilliannau iechyd
- gwella ymddiriedaeth a sicrhau tegwch yn y system cyfiawnder troseddol lle gorgynrychiolir lleiafrifoedd ethnig fel dioddefwyr a diffynyddion trosedd fel ei gilydd.
Darllen y ‘Roadmap to race equality’.