Pobl Anabl yng Nghymru: Argyfwng Tai

Cyhoeddwyd: 11 May 2018

Mae pobl anabl yng Nghymru a ledled Prydain yn cael eu digalonni gan brinder cronig o dai addas, wrth i fiwrocratiaeth ddiangen a diffyg cefnogaeth eu carcharu mewn tai anaddas, yn ôl rhybudd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 Mae canlyniadau’r ymchwiliad cyfreithiol dros ddeunaw mis, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i weithredu ar frys i sicrhau y gellir addasu pob tŷ newydd a'u gwneud yn addas ar gyfer pobl anabl - yn ôl 365,000 o bobl anabl, nid yw eu tai yn addas ar gyfer eu gofynion.  

Mae ‘Tai a phobl anabl: argyfwng cudd Prydain’ yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi strategaeth genedlaethol i sicrhau fod digon o dai o safon ddylunio gynhwysol yn cael eu codi ac i adolygu’r ffordd y mae safonau adeiladu’n cael eu gorfodi.  

Mae adroddiad y Comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r ffordd y mae data'n cael ei gasglu a'i rannu, o ran gofynion pobl anabl ac o ran nifer y tai sydd eisoes wedi'u hadeiladu y gellir eu haddasu.  Yr un mor bwysig yw sicrhau fod yna wasanaethau cefnogi a gwybodaeth arbenigol ar gael i ddod â'r tai a'r bobl sydd eu hangen at ei gilydd a sicrhau eu bod yn cael eu haddasu'n briodol.     

Meddai Ruth Coombs, Pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru:  

“Mae ein hadroddiad yn dangos fod miloedd o bobl o bob rhan o Gymru yn teimlo wedi’u carcharu mewn cartrefi anaddas. Mae pobl yn gorfod disgwyl yn hir iawn am gartref sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.  Ni ddylai hawl rhywun i fyw'n annibynnol gael ei gyfyngu gan eu cartref.  Ac ni ddylai eu haddasu ar eu cyfer fod yn broses hir a chymhleth.  

‘Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2021 a’i adolygiad o dai fforddiadwy yn gyfleoedd i wella pethau.  Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n awr i daclo’r argyfwng tai sy’n amharu ar fywydau pobl anabl yng Nghymru.

Gall cartrefi addas wella’n rhyfeddol allu pobl anabl i fyw'n annibynnol.  Yn ôl pobl y mae eu cartrefi’n cyfarfod a'u hanghenion hygyrchedd, mae eu hiechyd a'u lles yn well ac mae'n haws iddyn nhw gael swyddi a gallu astudio.   Gall gwneud addasiadau mewn pryd arbed cryn dipyn o arian i’r pwrs cyhoeddus, lleihau costau gofal cymdeithasol i awdurdodau lleol a chostau gofal iechyd i’r Gwasanaeth Iechyd.  

Bu'r ymchwiliad yn cynnal arolygon yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a chanfod nad oedd llawer yn casglu data nac yn ateb y gofynion ar hyn o bryd, heb sôn am gynllunio ar gyfer y dyfodol.  Mae’r methu gosod targedau ar gyfer y dyfodol yn bryder eithriadol gan fod nifer y bobl anabl yn cynyddu.  Mae gan Gymru ganran fwy o bobl anabl nac unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU - 26 y cant.  Dengys ystadegau Llywodraeth Cymru y disgwylir i nifer y bobl dros 65 sy’n cael trafferth i symud gynyddu o 58 y cant erbyn 2035.

  • Dim ond 15 y cant o awdurdodau lleol Cymru sy’n dweud fod y data sydd ar gael iddyn nhw ynghylch pwy sydd angen cartref hygyrch yn ‘dda’.
  • Dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi gosod targed ar gyfer tai hygyrch.
  • Dim ond 15 y cant sy'n dweud fod anghenion tai pobl anabl yn cael eu trafod neu eu craffu'n benodol wrth gynnal Asesiad Marchnad Dai Leol.  

Heb bolisi cynllunio cenedlaethol sy’n ystyried yn benodol dai hygyrch y gellir eu haddasu ar gyfer pobl anabl, does dim cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn darparu'r math iawn o dai yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol nac i sicrhau nad ydyn nhw'n cael trafferth i gael datblygwyr yn adeiladu i safon uwch.  Mae datblygwyr yn gyndyn o godi tai y gellir eu haddasu oherwydd eu bod ofn y byddan nhw'n llai proffidiol.  

Mae’r canfyddiadau’n codi pryderon dybryd fod hawl pobl i fyw’n annibynnol yn cael ei gyfyngu'n helaeth gan dai anaddas ac anniogel.  Mae gallu symud o gwmpas, gadael y tŷ a chymryd rhan mor lawn a gweithgar â phosibl yn y gymuned yn hanfodol i bobl anabl ac yn rheidrwydd i sicrhau eu bod yn gallu cael gwaith ac addysg.  Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Comisiwn oddi wrth fwy na 400 o bobl anabl, am hanesion o bobl yn bwyta, cysgu ac ymolch mewn un ystafell ac am bobl yn gorfod cael eu cario o gwmpas eu cartrefi gan eu teulu.  Mae tai annigonol hefyd yn gallu achosi dirywiad difrifol mewn lles meddyliol pobl anabl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

Meddai ymatebwyr o Gymru:

“Alla i ddim cyrraedd y llawr cyntaf, na theclynnau’r gegin, ar fy mhen fy hun.  Mae’r ystafell ymolchi’n rhy fach ac alla i ddim defnyddio’r toiled.  Ar hyn o bryd, ryw’n cysgu yn yr hyn a ddylai fod yn ystafell fwyta ac felly does gen i fawr o breifatrwydd.  Alla i ddim gofalu am fy merch ifanc os yw hi’n wael achos alla i ddim cyrraedd ei hystafell wely.  Alla i ddim cyrraedd y drws cefn.”

Eglurodd un arall sut y mae’r cyfyngiadau yn effeithio ar fywyd teuluol 

”Mae’n rhaid i mi ei chario (fy merch) i fyny’r grisiau i fynd i’r toiled.  Mae’n rhaid i mi hefyd fod i fyny’r grisiau pan mae hi’n cael bath i’w rhoi i mewn a’i chael allan ohono, a’i hymolchi pan fydd hi'n wael.  Mae hyn yn effeithio ar fy ngallu corfforol ac mae'n brifo llawer ar fy nghefn.  Mae fy merch hefyd eisiau bob yn annibynnol ond all hi ddim mynd i mewn na dod allan o’r bath ar ei phen ei hun.”  

 A soniodd un mor drafferthus oedd cael addasiadau priodol, a oedd yn cyfyngu ar annibyniaeth 

"Rwy'n cysgu i lawr y grisiau ac alla i ddim cyrraedd yr ystafell ymolchi i fyny'r grisiau yn hawdd, dim ond y toiled i lawr y grisiau.  Nid yw fy landlord yn fodlon gwneud newidiadau i’r adeilad, felly allai i ddim cael y canllawiau ar y grisiau na’r pethau eraill rwy eu hangen, sy’n fy ngwneud yn fwy dibynnol ar ofalwyr ac sy’n cyfyngu ar annibyniaeth.”

 

Notes to editors

Mae’r adroddiad yn dangos fod angen dirfawr gwella systemau cefnogi, hap a damwain yn aml yw a oes cyngor, cefnogaeth ac adfocatiaeth ar gael ac mae’n anodd cael ato.   Mae hyn yn gosod pwysau a straen diangenrhaid ar bobl anabl.  Yn benodol, roedd y pethau angenrheidiol, fel tenantiaethau a chyngor, yn aml yn annigonol i’r rhai ag anableddau dysgu, amhariad ar y synhwyrau a chyflyrau iechyd meddwl.

Mae’r argymhellion, sy’n canolbwyntio ar wella prosesau, yn galw ar awdurdodau lleol i dalu sylw brys i'r oedi sydd yn y system addasiadau mwyn gallu gwneud mân addasiadau rhad yn gyflym ac yn hawdd. 

Mae rheoliadau adeiladu yng Nghymru wedi arwain at godi tai sy’n peri trafferthion, yn enwedig i bobl mewn cadeiriau olwyn.  Er fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i wneud yn siŵr fod y tai cymdeithasol y mae'n eu hariannu'n uniongyrchol yn cyfarfod â rhai meini prawf o ran hygyrchedd ac hyblygrwydd, mae pobl anabl yn wynebu trafferthion ac anfanteision penodol yn y sector breifat.  Mae tai ar gyfer eu rhentu’n breifat yn aml yn cael eu codi i safonau is o ran hygyrchedd, a fydd yn ei gwneud yn anodd iawn i'w haddasu'n economaidd yn y dyfodol.  Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith fod y rhan fwyaf o forgeisi prynu i osod yn gwahardd tenantiaethau o fwy na 12 mis, sy’n golygu nad yw landlordiaid yn gallu bodloni'r gofynion bod yn rhaid i denantiaeth fod am rhwng tair a phum mlynedd i gael grantiau i addasu.  Mae hyn yn ychwanegu at y dryswch ac yn egluro pam fod pobl anabl yn cael cymaint o drafferth wrth ofyn i landlordiaid preifat am addasiadau.

Meddai Matt Dicks, Cyfarwyddwr Sefydliad Siartredig Tai Cymru:

“Mae adroddiad heddiw’n dangos darlun pryderus o ba mor anodd yw hi i bobl anabl gael cartrefi addas.  Rydyn ni’n gwybod bod yna argyfwng dwys ynghylch tai yng Nghymru – problem sy’n amlygu ei hun drwy'r sefyllfa annerbyniol o bobl yn cysgu ar ein strydoedd.  

 ‘Er bod gennym darged uchelgeisol o godi 20,000 o dai fforddiadwy, mae’r adroddiad hwn yn dangos mor hanfodol yw codi'r math iawn o gartrefi i safonau sy'n cynyddu'r cyflenwad o dai hygyrch.  Ac ymhellach, mae hyn yn ail bwysleisio bod angen ystyried sut y gallwn ni adeiladu un system dai gydlynol, a fydd yn golygu y bydd yn bosibl i bob dinesydd, yn rhentu neu'n prynu, gael cartref diogel, addas a fforddiadwy.  

‘Gyda’r cyhoeddiad diweddar fod adolygiad i’w gynnal o bolisi tai yng Nghymru, rydyn ni o’r farn fod hyn yn gyfle gwirioneddol i ddatblygu argymhellion y comisiwn a sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn gwirionedd i ddatrys y broblem hon. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’n haelodau i wneud yn siŵr fod yr heriau hyn yn dal i fod yn flaenllaw yn ein trafodaethau. 

Nodiadau i olygyddion

Yn benodol, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn galw am:

  • I’r llywodraeth gyflwyno strategaeth genedlaetholi sicrhau fod yna gyflenwad digonol o dai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau dylunio cynhwysol / cyffredin yn ogystal ag i safonau hygyrchedd cadeiriau olwyn, ar gyfer pob math o ddaliadaeth.  Dylai hyn gynnwys adolygiad o’r ffordd y mae safonau adeiladu’n cael eu gorfodi, yn enwedig yn sector rhentu’n breifat.  Dylai’r strategaeth gydnabod bod yn rhaid i bobl yn aml gael cefnogaeth o ran tai, cyngor ac adfocatiaeth i gynnal eu cartrefi a’u hawl i fyw'n annibynnol.
  • Dylai llywodraethau cenedlaethol a lleol weithredu i wella’r ffordd y mae data’n cael ei gasglu a'i rannu, ynghylch gofynion pobl anabl yn ogystal â pha mor hygyrch yw'r stoc tai presennol
  • Dylai Awdurdodau Lleol dalu sylw brys i’r rhwystrau a’r oedi biwrocrataidd sydd yn y systemau addasiadau a sicrhau yn enwedig bod mân addasiadau yn cael eu gwneud yn gyflym ac yn hawdd.  Dylid monitro ac adolygu hyn.
  • Dylai llywodraethau roi rhagor o arian i sefydliadau ac asiantaethau cynghori pobl anabl fel bod mwy o gyngor a gwybodaeth annibynnol ar gael ynghylch dewisiadau tai, gan gynnwys addasiadau, gan ganolbwyntio'n benodol ar y sector rhentu'n breifat.
  • Dylai Awdurdodau Lleol a Darparwyr Cofrestredig Tai Cymdeithasol / Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sefydlu egwyddorion byw’n annibynnol mewn polisïau asesu a dyfarnu ar gyfer tai cymdeithasol er mwyn sicrhau fod yna ddewis a rheolaeth wirioneddol.
  • Dylai awdurdodau lleol ddod i ddeall yn llawer gwell pa stoc o dai cymdeithasol hygyrch sydd ar gael a datblygu gwasanaethau cefnogi a gwybodaeth arbenigol er mwyn hyrwyddo cydweddu'n addas.
  •  Dylai Awdurdodau Lleol ddilyn ymarferion gorau i ddefnyddio cofrestri tai hygyrch gyda’r nod yn y tymor hir o gael pob awdurdod lleol i ddefnyddio’r un fethodoleg safonol.
  • Dylai Awdurdodau Lleol weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd i wneud yn siŵr fod pobl sy’n byw mewn sefydliadau ac mewn cartrefi preswyl yn cael cefnogaeth i fyw’n annibynnol.
  • Dylai llywodraethau gyhoeddi safonau a monitro ac adolygu effeithiolrwydd Cofrestri Tai Hygyrch.
  • Dylai Llywodraeth y DU sicrhau fod y polisi a’r model ariannu newydd ar gyfer tai â chefnogaeth yn cynnal hawliau tenantiaid ac nad oes cyfyngiad ar eu rhyddid na’u dewis, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Dylai’r model newydd dalu sylw i’r amhendantrwydd presennol a darparu marchnad sefydlog mewn darparwyr tai yn ogystal â'r rhai sy’n darparu cefnogaeth arbenigol.
  • Dylai Awdurdodau Lleol sicrhau fod gwasanaethau tai, gofal ac iechyd yn cael eu cyfuno'n llawn, bod digon o arian ar gael i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a bod yna bwyslais cynyddol ar ataliaeth.
  • Dylai Awdurdodau Lleol wella darpariaeth gwasanaethau cynghori ac adfocatiaeth anabledd arbenigol ar gyfer dewisiadau tai.