Bydd dyfarniad apêl Pimlico Plumbers v Smith yn helpu gweithwyr yn yr economi gig

Cyhoeddwyd: 10 Feb 2017

Bydd dyfarniad gan y Llys Apêl heddiw yn helpu diogelu hawliau gweithwyr a gyflogir yn yr ‘economi gig’.

Dyfarnodd y Llys Apêl heddiw o blaid Gary Smith, a gyflogir gan Pimlico Plumbers fel ‘contractwr annibynnol’, a hawliodd cyflog anabledd gan y cwmni ar ôl i drawiad ar ei galon ei rwystro rhag gweithio. Cytunodd Tribiwnlys Cyflogaeth â’i hawliad ac y dylid ei ddiogelu gan gyfraith cydraddoldeb.

Ariannodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  achos Mr Smith.

Mae Pimlico Plumbers yn cyflogi mwy na chant o weithwyr fel contractwyr annibynnol, ond mae’n ofynnol i’r gweithwyr wisgo gwisg y cwmni a gyrru faniau gyda delwedd y cwmni arnyn nhw, gan roi’r argraff eu bod yn weithwyr parhaol i’r cwmni.

Wrth sylwi ar yr achos llwyddiannus yn erbyn Pimlico Plumbers, meddai Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Rebecca Hilsenrath:

“Bydd y dyfarniad hwn yn helpu gweithwyr sydd wedi’u henwi’n anghywir fel contractwyr gan y cwmnïau maen nhw’n gweithio iddyn nhw. Ni fydd cwmnïau mwyach yn gallu osgoi eu dyletswydd i ddarparu cymorth i weithwyr megis, budd-daliadau salwch.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r dyfarniad heddiw a gobeithio, bydd busnesau yn sicrhau eu bod yn rhoi contractau priodol i bobl a ddylai fod â statws gweithiwr.”

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)