Cyhoeddwyd: 21 Dec 2021
Meddai Marcial Boo, Prif Weithredwr yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Roedd yr hanesion hiliaeth a gwahaniaethu yng Nghlwb Criced Sir Swydd Efrog yn annymunol ac yn peri gofid mawr. Mae chwaraeon i fod i ddod â phobl o bob cefndir at ei gilydd. Nid oes lle i hiliaeth ym myd unrhyw chwaraeon, busnes neu gymdeithas.
“Rydym bellach wedi adolygu’r ddogfeniaeth ac yn ystyried yn debygol bod gweithred anghyfreithlon wedi digwydd.
"Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod y rheolwyr newydd yn y clwb yn cymryd camau priodol i ddelio â methiannau’r gorffennol, gan gynnwys y tîm rheoli cyfan yn ymadael a chytuno â chynllun gweithredu 12-pwynt rhwng Swydd Efrog a Bwrdd Criced Lloegr a Chymru. Byddwn felly yn monitro cynllun gweithredu’r clwb yn fanwl ac rydym yn cadw’r hawl i weithredu’n gyfreithiol os na chaiff y cynllun gweithredu ei roi ar waith yn briodol.
“Ein nod yw gweithio gyda Bwrdd Criced Lloegr a Chymru a rheolyddion chwaraeon eraill i sicrhau na fydd y rheini oll sydd yn cymryd rhan, boed er hwyl, ffitrwydd, neu fel chwaraewyr proffesiynol, yn destun i wahaniaethu ac aflonyddu.”