Cyhoeddwyd: 05 Nov 2021
Yn dilyn adroddiadau achosion hiliaeth yng Nghlwb Criced Swydd Efrog (YCCC), yn ein rôl fel gorfodwr y Ddeddf Cydraddoldeb, ysgrifennom at YCCC yn gofyn am wybodaeth bellach.
Meddai Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Marcial Boo:
“Fel rheolydd cydraddoldeb Prydain, rydym yn gofidio’n fawr am yr achosion hiliaeth yng Nghlwb Criced Sir Swydd Efrog. Ysgrifennom at YCCC i ofyn am fwy o wybodaeth, gan gynnwys copi llawn o’i adroddiad ymchwilio, i bennu a ydynt wedi mynd yn groes i’r gyfraith. Gwnawn weithredu os ydyw. Mae dyletswydd gan bob cyflogwr i ddiogelu’u cyflogeion rhag dioddef bwlio ac aflonyddu. Gwnaethom gyfarfod gyda Bwrdd Criced Lloegr ym mis Ebrill i drafod sut y gellir gwireddu hynny yn y gêm.”