Cyhoeddwyd: 14 Mar 2018
Pedwar mis ers cyhoeddi’n hadroddiad dros dro, rydym heddiw wedi cyhoeddi ein hasesiad effaith gronnol terfynol, sydd yn datgelu faint y disgwylir i unigolion a theuluoedd ennill neu golli, a faint o oedolion a phlant bydd yn syrthio islaw safon byw ddigonol, yn sgil y newidiadau diweddar i drethu a nawdd cymdeithasol.
Mae’r adroddiad, sydd yn bwrw golwg ar effaith diwygiadau o 2010 i 2018 ar grwpiau gwahanol ar draws gymdeithas yn 2021 i 2022, yn awgrymu mai plant a gaiff eu bwrw’n galetaf, gan y bydd:
- 1.5 miliwn yn ychwanegol ohonynt mewn tlodi
- bydd y gyfradd tlodi plant ar gyfer y rheini ar aelwydydd unig riant yn cynyddu o 37% i fwy na 62%
- bydd aelwydydd gyda thri phlentyn neu fwy yn gweld colledion enwedig o fawr oddeutu £5,600
Canfu’r adroddiad hefyd:
- bydd aelwydydd gydag o leiaf un oedolyn anabl a phlentyn anabl yn colli mwy na £6,500 y flwyddyn, mwy na 13% o’u hincwm blynyddol
- bydd aelwydydd Bangladeshi yn colli oddeutu £4,400 y flwyddyn, o’u cymharu ag aelwydydd ‘Gwyn’, neu aelwydydd gydag oedolion ethnigrwydd gwahanol, a fydd dim ond yn colli rhwng £500 a £600 ar gyfartaledd
- bydd rhieni unigol yn colli £5,250 y flwyddyn ar gyfartaledd, bron un rhan o bump eu hincwm blynyddol
- bydd menywod yn colli oddeutu £400 y flwyddyn ar gyfartaledd, tra bydd dynion yn colli £30 yn unig
Caiff yr effeithiau negyddol eu gyrru’n bennaf gan newidiadau i’r system budd-daliadau, yn arbennig rhewi cyfraddau budd-daliadau oed-gweithio, newidiadau i fudd-daliadau anabledd, a gostyngiadau i gyfraddau Credyd Cynhwysol.
Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd yn gyfrifol am wneud argymhellion i Lywodraeth ar gysondeb polisi a deddfwriaeth â safonau cydraddoldeb a hawliau dynol:
"Mae’n siomedig i ganfod bod y diwygiadau rydym wedi’u harchwilio yn effeithio’n negyddol ar y mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas. Mae’n hyd yn oed yn fwy arswydus y bydd plant - y genhedlaeth yn y dyfodol – yn cael eu bwrw caletaf a chondemnir cynifer ohonynt i ddechrau bywyd mewn tlodi. Ni allwn ganiatáu hyn i barhau os ydym am Brydain decach.
"Rydym yn awyddus i weithio gyda’r llywodraeth i wireddu’i gweledigaeth o Brydain sydd yn gweithio i bawb. I gyflawni’r deilliant hwn mae’n hanfodol ymgymryd â dadansoddiad effaith gronnol lawn ar bob polisi treth a nawdd cymdeithasol presennol ac yn y dyfodol. Rydym wedi profi bod hyn yn bosibl ac rydym yn annog y Llywodraeth i ddilyn ein harweiniad a gweithio gyda ni i’w wireddu.”
Yn ogystal â galw ar y Llywodraeth i ymrwymo i ymgymryd ag asesiadau effaith gronnol o bob polisi treth a nawdd cymdeithasol, yn arbennig er mwyn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae’r Comisiwn hefyd yn ailadrodd ei alwad wrth lywodraeth i:
- ailystyried polisïau sydd eisoes yn bodoli ac yn cyfrannu at effeithiau ariannol negyddol i’r mwyaf difreintiedig
- adolygu lefel budd-daliadau lles i sicrhau eu bod yn darparu safon byw ddigonol
Daw’r cyhoeddiad un wythnos wedi i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) yn tynnu sylw at y ffaith nad yw system nawdd cymdeithasol y Deyrnas Unedig yn darparu cymorth digonol i daclo safonau byw annigonol.
Nodiadau i olygyddion
Model
Ystyriodd yr asesiad, gan Jonathan Portes o Aubergine Analysis a King’s College London a Howard Reed, Landman Economics, a ymgymerwyd ar ran y Comisiwn, newidiadau i:
- dreth incwm
- cyfraniadau yswiriant gwladol
- trethi anuniongyrchol (TAW a thollau cartref)
- budd-daliadau nawdd cymdeithasol sydd yn dibynnu ar brawf modd a’r rheini nad ydynt
- credydau treth
- credyd cynhwysol
- isafswm cyflog cenedlaethol a chyflog byw cenedlaethol
Rhwng Mai 2010 ac Ionawr 2018.
Mae’r ymchwil yn defnyddio’r model trosglwyddo treth (TTM), model ‘microsimulation’ a ddatblygwyd gan yr ‘Institute for Public Policy Research, Landman Economics and the Resolution Foundation’.
Mae’r TTM yn defnyddio data o ddau dataset yn y DU, ‘the Family Resources Survey’ (FRS) a’r ‘Living Costs and Food Survey’ (LCF).
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)
Blog: Cynnydd ar hawliau economaidd cymdeithasol: pam rydym ni’n disgwyl
Adroddiad: Cynnydd ar hawliau cymdeithasol – economaidd ym Mhrydain Fawr
Asesu effaith ar gydraddoldeb
Galwodd adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Trysorlys Tŷ’r Cyffredin, ar Gyllideb Hydref 2017 y Llywodraeth, ar Drysorlys EM i gynhyrchu a chyhoeddi asesiadau effaith cadarn ar gydraddoldeb cyllidebau yn y dyfodol, gan gynnwys y mesur lles a threth unigol a gynhwyswyd ynddynt.
Adolygiad llenyddiaeth
Mae’r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi adolygiad llenyddiaeth i gyd-fynd â’r Adroddiad Asesiadau Effaith Gronnol.
Comisiynwyd y ‘National Institute of Economic and Social Research’ (NIESR) i ymgymryd ag adolygiad llenyddiaeth o effaith diwygio lles a rhaglenni lles-i-waith, ac yn benodol i archwilio’r dystiolaeth am y ffyrdd y cafodd grwpiau gwarchodedig eu heffeithio gan y diwygiadau hyn.