Pleidlais clwb golff Muirfield y ‘penderfyniad iawn i fenywod a’r Alban’

Cyhoeddwyd: 14 Mar 2017

Yn dilyn ail bleidlais, mae aelodau clwb golff Muirfield wedi pleidleisio i ganiatáu golffwyr sydd yn fenywod ymuno â’r clwb.

Meddai Comisiynydd y Comisiwn yn yr Alban, Dr Lesley Sawers:

“Yn eglur, mae peidio â chaniatáu menywod i chwarae golff mewn clwb golff yn syniad o’r oes o’r blaen. Ond nid yw hyn yn ymwneud ag agweddau hen ffasiwn yn unig; byddai’r economi lleol ar ei golled oddeutu £40m yn sgil colli’r cyfle o gynnal Cystadleuaeth Agored yr Alban yn Muirfield.

“Yn eglur, maen nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn i fenywod a’r Alban.”

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)