Yr Albanwyr sydd fwyaf ar y cyrion yw’r colledwyr mwyaf yn sgil y cynlluniau gwariant a threth

Cyhoeddwyd: 28 Nov 2018

Unig rieni benywaidd, teuluoedd Du, pobl ag anableddau difrifol a theuluoedd gyda mwy na thri phlentyn yw’r colledwyr mwyaf o ran incwm yr aelwyd yn sgil treth, gwariant a thoriadau gwasanaethau lleol rhwng 2010 a 2022, ddatgelodd ymchwil newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw.  

Gan ystyried newidiadau i drethi, nawdd cymdeithasol a gwasanaethau awdurdod lleol, amcangyfrifa’r ymchwil fod yr incwm aelwyd yn yr Alban wedi gostwng:

  • 7.8% o ran aelwydydd unig riant benywaidd
  • 6.5% o ran aelwydydd Du
  • 8% o ran teuluoedd mwy o faint
  • 5% o ran pobl ag anableddau difrifol
  • 4% o ran pobl ifancach

Dengys yr ymchwil hefyd, er bod incwm aelwyd y tlotaf yn yr Alban wedi gostwng 5% mae wedi cynyddu hyd at 1% i’r mwyaf cefnog.

Meddai John Wilkes, Cyfarwyddwr y Comisiwn yn yr Alban:

'Dengys y canfyddiadau pa mor llym ac anghyfartal y bu effaith gyfunol y dirwasgiad, cyni a thoriadau gwariant cyhoeddus.  Wrth ddefnyddio’r ymagwedd newydd hwn i asesu’r effaith gyfunol o bolisi treth a gwariant, dangosa mai’r rheini sydd fwyaf ar y cyrion sydd wedi dioddef fwyaf.'

Dengys yr adroddiad fod yr effeithiau wedi disgyn yn anghyfartal ar draws ein cymunedau. Tra collodd aelwydydd gwyn £200 ar gyfartaledd yn sgil y newidiadau gwariant rhwng 2012 i 2022, colla aelwydydd Asiaidd hyd at £800, ac aelwydydd Du Affricanaidd a Charibïaidd £1,050.

Caiff ei ddarogan y bydd aelwydydd pobl ag anableddau difrifol yn Lloegr yn colli mwy na £2,900 o’i gymharu â budd oddeutu £100 dros yr un cyfnod yn yr Alban, yn sgil cynnydd o ran gwariant ar iechyd, gofal cymdeithasol a thai.  

Aeth Mr Wilkes ymlaen i ddweud:

'Gwyddom eisoes fod lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl ac unig rieni yn llawer mwy tebygol i fyw mewn tlodi nag Albanwyr eraill, ac wynebu diweithdra llawer uwch na’r cyfartaledd.

'Yr hyn sydd yn unigryw am y gwaith hwn yw ei fod yn dangos y gallwn a bod rhaid i ni ystyried yr effeithiau gwahanol ar grwpiau gwahanol cyn i ni wneud newidiadau polisi mawr. Fel arall byddem mewn perygl o gynyddu’r anghydraddoldeb yn ein cymdeithas. Fodd bynnag mae polisiau cadarnhaol megis effeithiau lliniarol rhai newidiadau nawdd cymdeithasol wedi arbed cryn nifer o hyd yn oed golledion incwm gwaeth.'

Mae’r adroddiad yn cymharu’r effaith ledled yr Alban, Lloegr a Chymru. Bernir fod yr Alban wedi mabwysiadu polisïau fwy “o blaid y tlawd” ac yn ei sgil mae’r gostyngiadau incwm aelwydydd yn llai nag unrhyw le arall.

Caiff ei ddarogan y bydd cyfanswm incwm aelwyd yn Lloegr yn gostwng £1,450 rhwng 2011 a 2022, o’i gymharu â £200 yn yr Alban a £470 yng Nghymru. Mae addysg uwch a phellach yn dioddef y toriadau mwyaf ar draws Prydain, ond yn yr Alban mae gwariant ar y blynyddoedd cynnar a thai fel ei gilydd wedi cynyddu’n sylweddol, tra ei fod yn gostwng ym mhob man arall ( o 50% a 30% yn yr un drefn).

Wrth siarad am yr adroddiad heddiw, meddai’i awdur, Howard Reed:

'Dengys yr ymchwil hwn fod effeithiau cyfunol diwygiadau treth a nawdd cymdeithasol ers 2010 wedi effeithio’n fwyaf ar yr aelwydydd tlotaf yn yr Alban ac mae hefyd wedi effeithio’n andwyol ar fathau gwahanol o deuluoedd, yn arbennig unig rieni ac aelwydydd â mwy na thri phlentyn, aelwydydd du, ac aelwydydd gyda phobl ag anableddau difrifol.

'Mae dewisiadau Llywodraeth yr Alban eu hunan wedi lliniaru rhai - ond nid yr holl - ganlyniadau niweidiol y penderfyniadau ar dreth a nawdd cymdeithasol a wnaed gan Lywodraeth y DU yn San Steffan.'

Gwna’r adroddiad nifer o argymhellion:

  • y dylai Llywodraeth y DU ystyried lliniaru’r newidiadau negyddol mawr i leihau’r effeithiau anghymesur ar rai grwpiau
  • y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban adolygu’r gwariant ar addysg uwch a phellach lle bu’r toriadau mwyaf
  • y dylai pob llywodraeth gynnal dadansoddiad cydraddoldeb ar gynlluniau gwario, yn benodol, i nodi meysydd o effaith anghymesur ar fenywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl
  • y dylai pob llywodraeth ymrwymo i amddiffynfeydd lleiafswm craidd i ddiogelu hawliau pobl

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r Corff Cydraddoldeb Cenedlaethol i’r Alban, Lloegr a Chymru. Byddwn yn gweithio i ddileu gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb ar draws y naw nodwedd warchodedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol “ Statws A” ac yn rhannu’n mandad i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol yn yr Alban gyda Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban.

Cafodd yr adroddiad heddiw, ‘The cumulative impact on living standards of public spending changes’, ei lunio gan Howard Reed a Johnathan Portes o Landman Economics. Mae’r model dadansoddol yn cyfuno data ar dueddiadau o ran gwariant cyhoeddus agregedig (fesul categorïau gwario gwahanol) gyda meicro-data arolwg ar ddefnydd gwasanaethau cyhoeddus gan aelwydydd. Mae’r dadansoddiad gwariant cyhoeddus wedi canolbwyntio ar y meysydd mwyaf tebygol o effeithio ar aelwydydd, e.e. gwariant ar addysg, iechyd, tai, a gwasanaethau cymdeithasol a phlismona ond ac eithrio meysydd fel ymchwil iechyd, amddiffyn ac achub tân.  

Yn ôl yr adroddiad, caiff ei ddarogan y bydd twf y boblogaeth yn Lloegr (8%) yn uwch nag yn yr Alban (4.5%) a Chymru (4%) ac y gallai hynny gyfrif am rai o’r diffygion a ganfuwyd yng nghynlluniau gwario Lloegr gan fod twf y boblogaeth yn gyflymach yn Lloegr a gallai hynny olygu bod y gwariant yn cael ei ymestyn yn gynyddol denau.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)