Cyhoeddwyd: 30 Jan 2019
Dyfarnodd Llys Sirol Caerdydd heddiw fod landlord wedi gweithredu’n anghyfreithlon drwy wrthod i berchennog tŷ anabl rhag gwneud addasiadau angenrheidiol i’w chartref. Cafodd yr achos ei gefnogi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD).
Mae syndrom Ehlers-Danlos gan Mrs Smailes sy’n tarfu ar ei symudedd, ac mae angen gwneud addasiadau i’w chartref i ddiwallu’i hanghenion megis symud y gegin a’r ystafell wely. Mae Mrs Smailes a’i gŵr yn berchen prydles eu fflat, ond roedd amodau’r brydles yn gwahardd newidiadau ffisegol a phan ofynnont i’r landlord, Clewer Court Residents Limited, am ganiatâd i wneud y newidiadau, cawsant eu gwrthod.
Bu rhaid i’r Smailes symud allan o’u cartref a dwyn achos gwahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn y landlord gyda chwmni cyfraith genedlaethol Weightmans LLP a Schona Jolly Q.C. Cafodd yr achos ei ariannu a’i gefnogi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Dyfarnodd y llys heddiw y dylai’r landlord wedi caniatáu i’r Smailes ymgymryd â’r gwaith addasu, a oedd yn rhesymol o ystyried ei hanabledd. Dyfarnodd y llys hefyd fod Mrs Smailes wedi’i haflonyddu gan y landlord ar ôl iddi ddwyn yr achos.
Darparodd y CCHD arian ar gyfer yr achos hwn i wneud y gyfraith yn eglur a sicrhau bod Mrs Smailes, yn ogystal â thenantiaid anabl eraill yn gallu gwneud addasiadau rhesymol i’w cartrefi, gan eu caniatáu i fyw’n annibynnol. Golyga’r dyfarniad fod rhaid i bob landlord ganiatáu i ddalwyr prydles anabl wneud addasiadau angenrheidiol i’w cartrefi.
Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Dylai cartrefi fod yn fannau diogel a saff, mannau sy ddim yn achosi gorbryder a chyfyngiad. Rydym yn falch bod y llys wedi’i wneud yn glir bod rhaid i landlordiaid newid cytundebau prydles i ganiatáu newidiadau sy’n rhesymol ac yn angenrheidiol. Mae’r broblem hon yn effeithio ar lawer o denantiaid anabl a gobeithio bydd y dyfarniad heddiw yn helpu sicrhau y gall pobl anabl fwynhau’u hawl i fyw’n annibynnol.”
Meddai Mrs Smailes:
“Yr unig beth rydym wedi ceisio trwy gydol y mater hwn yw i fi allu byw’n annibynnol a defnyddio fy nghartref fel y buasai unrhyw un arall yn ei wneud. Mae’r dyfarniad heddiw wedi rhoi tawelwch meddwl i mi o’r diwedd a bydd yn diogelu pobl anabl eraill rhag gorfod dioddef fel y gwnaethom ni. Rydym yn ddiolchgar dros ben i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ein cefnogi wrth i ni gyflwyno’r achos gerbron y llys ac i’n Cyfreithiwr a Bargyfreithiwr a weithiodd mor ddiwyd ar ein rhan.”
Meddai Sarah Conroy, partner yn Weightmans:
“Rydym yn falch dros ben i sicrhau’r canlyniad hwn dros Mr a Mrs Smailes ar ôl ymgyfreitha hir ac anodd. Darpara’r dyfarniad hwn eglurhad allweddol ar y gyfraith, a gobeithio bydd yn annog symudiad ehangach ar gyfer dalwyr prydles anabl i’w caniatau i fwynhau byw’n annibynnol yn eu cartrefi’u hunain.”
Y llynedd rhybuddiodd y CCHD fod pobl anabl wedi’u gadael yn rhwystredig ac yn gaeth yn eu cartrefi anaddas oherwydd diffyg parhaus o dai addas a biwrocratiaeth ddiangen.