Cyhoeddwyd: 01 Jul 2020
Cafodd y cylch gorchwyl ei gyhoeddi ar gyfer asesiad statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) o sut wnaeth y Swyddfa Gartref gydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb wrth lunio, rhoi ar waith a monitro mesurau mewnfudo ‘amgylchedd gelyniaethus’.
Amlinella manylion llawn yr asesiad, a gynhaliwyd o dan adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006, sut fydd y rheolydd yn archwilio a oedd a sut wnaeth y Swyddfa Gartref gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) mewn perthynas â deall effaith ei pholisïau ar y genhedlaeth Windrush.
Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Achosodd y sgandal Windrush niwed parhaus ar fywydau llawer o ddinasyddion Prydeinig a datgelu diffygion yn system mewnfudo’r DU. Rhaid dysgu’r gwersi i ddiogelu cenedlaethau yn y dyfodol ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda’r Swyddfa Gartref i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
“Gosoda’n cylch gorchwyl sut fyddwn yn asesu pa mor dda yr ystyriodd y Swyddfa Gartref effaith ei pholisïau ar y genhedlaeth Windrush, a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau y caiff y fath effeithiau eu deall yn well fel y gellir eu hosgoi yn y dyfodol.
“Rhan o’n strategaeth hir dymor yw’r adolygiad hwn i daclo anghydraddoldebau ffurfiannol ym Mhrydain drwy sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn defnyddio’r PSED yn fwy effeithiol. Wrth i’r Ddeddf Cydraddoldeb ddathlu ei phen-blwydd yn ddeng mlwydd oed, gwnawn weithio gyda llywodraeth i roi cydraddoldeb yn ganolog yn ei phroses gwneud penderfyniadau fel bo gan bawb gyfle teg i ffynnu.”
Bydd asesiad y CCHD yn bwrw golwg ar sut roedd y Swyddfa Gartref wedi rhoi sylw dyledus i’r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl o grwpiau hiliol gwahanol, gyda chyfeiriad arbennig at liw, wrth:
- lunio darpariaethau polisi mewnfudo a gynyddodd gofynion i unigolion brofi statws mewnfudo i gael mynediad i dai wedi’u rhenti’n breifat, gofal iechyd, trwyddedau gyrru a bancio;
- rhoi’r darpariaethau polisi ar waith yn ogystal ag ymarferion gweithredu a arweiniodd at fwy o ofynion beichus ar unigolion i gynhyrchu dogfennaeth i gadarnhau neu newid cendligrwydd neu statws mewnfudo rhwng 2014 a 2018;
- monitro ac adolygu effaith y fath bolisïau, ymarferion a gweithdrefnau rhwng 2014 a 2018.
Deilliant yr asesiad fydd amlygu sut all y Swyddfa Gartref wella’i gydymffurfiaeth â’r PSED, gan dynnu ar unrhyw feysydd ymarfer da yn ogystal â darparu meysydd penodol ar gyfer gwelliant. Y nod yw gweithio gyda’r adran fel bo’r effaith ar gydraddoldeb hil yn cael ei ystyried yn llawn ac yn briodol wrth lunio, rhoi ar waith a monitro polisi, ymarfer a gweithdrefnau mewnfudo.