Manders yn ennill achos mabwysiadu hiliol

Cyhoeddwyd: 06 Dec 2019

Dyfarnwyd fod asiantaeth mabwysiadu a’i chanolfan yn Berkshire wedi gwahaniaethu yn erbyn cwbl, o dras Indiaid Sicaidd, a anwyd ym Mhrydain.

Mae cwpl o Berkshire, y gwrthodwyd y gallu iddyn nhw fabwysiadu plant oherwydd eu hil, wedi ennill eu brwydr gyfreithiol yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Windsor a Maidenhead am wahaniaethu. 

Yn 2016 dywedwyd wrth y Manders, cwpl Prydeinig ond o dras Indiaid Sicaidd, na allan nhw, er y bydden nhw’n rhieni mabwysiol addas, wneud cais oherwydd byddai’r flaenoriaeth yn mynd i gyplau gwyn gan mai dim ond plant gwyn oedd ar gael. Cawson nhw wedyn eu cynghori i ystyried mabwysiadu o India.

Ymdrechodd y cwpl yn aflwyddiannus i gael y penderfyniad ei wrthdroi drwy gwyno’n ffurfiol i’w cyngor lleol ac yna i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Aethon nhw mor bell, hyd yn oed, i gael yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Theresa May, yn rhinwedd ei swydd fel eu AS lleol, i anfon llythyr i ategu’u hachos.

Heb ganlyniad positif, penderfynodd y Manders o’r diwedd i gymryd camau cyfreithiol a heddiw, dydd Gwener 6 Rhagfyr, dyfarnodd Ei Hanrhydedd y Barnwr Melissa Clarke o blaid eu hawliad na ddylen nhw fod wedi cael eu gwrthod rhag gwneud cais i ymuno â’r rhestr mabwysiadwyr cymeradwy oherwydd ble cafodd eu rhieni eu geni, a datganodd gamau’r cyngor yn “wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil”.

Meddai’r cwpl, Sandeep a Reena Mander:

'Mae’r dyfarniad hwn yn sicrhau y dylech, beth bynnag eich hil, crefydd neu liw, gael eich trin yn gyfartal a chael eich asesu ar gyfer mabwysiadu yn yr un modd ag unrhyw ddarpar fabwysiadwr arall.

'Rydym o’r farn nad achos ynysig yn unig oedd ein profiad gydag Adopt Berkshire. Wrth inni ddilyn y broses mabwysiadu Rhyng-wladol daethom ar draws nifer o gyplau a oedd wedi cael profiadau tebyg.

'Dewch i ni fod yn glir, lles y plentyn sydd fwyaf pwysig wrth edrych am unrhyw ddarpar fabwysiadwr. Fodd bynnag dim ond un, o’r meysydd niferus y dylid eu hasesu wrth edrych ar addasrwydd mabwysiadwyr i sicrhau lles y plentyn hwnnw, yw cyfateb gwerthoedd a chredoau diwylliannol. Ni ddylai fyth fod y ffactor tra phwysig i’ch atal rhag i chi hyd yn oed gael eich ystyried, yr hyn a wnaeth ddigwydd i ni. Ac yn sicr, ni ddylid, fyth, rhagdybio gwerthoedd a chredoau ar sail blwch ticio ethnig fel yr hyn a ddigwyddodd i ni.

'Roeddem o’r farn bod angen newid. Dyma’r rheswm cyffredinol am yr achos hwn i ni, i sicrhau na fydd gwahaniaethu o’r fath yn digwydd i eraill sydd yn dymuno gwneud y peth ardderchog hwn, sef mabwysiadu.

'A bydd y dyfarniad carreg filltir heddiw yn sicrhau na fydd yn digwydd eto.'

Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ariannodd yr achos:

'Mae’r gyfraith yn eglur iawn. Nid hil a diwylliant yw’r unig ffactorau pan fydd awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu yn cyfateb darpar rieni a phlant. Gwnawn fethu yn hyn o beth ar draul y plant rydym yn ceisio eu helpu. Ni ddylem drin pobl yn wahanol wrth iddyn nhw gynnig cartrefi cariadus, am y rheswm syml o ble gawson nhw neu eu rhieni eu geni. Rwy’n gobeithio’n fawr fod y dyfarniad heddiw yn golygu bod yr hyn a ddigwyddodd i’r Manders yn helpu adeiladu system deg i bawb a fydd yn sicrhau’r deilliannau gorau i bobl ifanc yn ein system gofal.'

Meddai Georgina Calvert-Lee, Uwch Gwnsler yn McAllister Olivarius, y cwmni cyfraith a gynrychiolodd y cwpl:

"Mae’r dyfarniad heddiw yn fuddugoliaeth i bob plentyn ym Mhrydain sydd angen cartrefi mabwysiadu cariadus, ac i bob un o’r teuluoedd Prydeinig, mabwysiol, cariadus sy’n gobeithio eu croesawu i’w bywydau.   

'O’r dechrau’n deg, cydnabu Adopt Berkshire y Manders yn ymgeiswyr rhagorol i fod yn fabwysiadwyr. Ac eto gwrthododd Adopt Berkshire iddyn nhw hyd yn oed rhag gwneud cais, gan eu rhagfarnu ar sut roedden nhw’n diffinio ‘hunaniaeth ddiwylliannol’ y Manders.

'Prydeinwyr yw’r Manders sydd yn trysoru’r gwerth Brydeinig ganolog o degwch. Felly, gwnaethon nhw ofyn i’r Llys am yr hawl sylfaenol o gael eu trin yn gyfartal â chyplau eraill o Brydain. 

'Rydym yn falch dros ben bod Llys Sirol Rhydychen wedi cytuno â’r Manders, gan ddyfarnu na all oedolion cymwys gael eu gwrthod rhag ymuno â’r broses mabwysiadu oherwydd “hunaniaeth ddiwylliannol”.

Cefnogodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr achos oherwydd y pryderon bod y polisi a ddefnyddiwyd gan y cyngor a’i asiantaeth mabwysiadu yn gyfystyr â gwahaniaethu hiliol. Gobaith y Comisiwn yw y bydd canlyniad llwyddiannus yn atal rhag i gyplau eraill ddioddef gwahaniaethu anghyfreithlon oherwydd eu hil.

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)