Achos mabwysiadu lleol yn esgor ar bryderon gwahaniaethu ar sail hil

Cyhoeddwyd: 27 Jun 2017

Mae gŵr a gwraig Brydeinig, y gwrthodwyd caniatâd iddyn nhw fabwysiadu plentyn oherwydd eu ‘hetifeddiaeth ddiwylliannol’, yn cymryd eu hachos i’r llys.

Dywedwyd wrth Sandeep a Reena Mander, y ddau yn eu tri degau ac wedi’u geni ym Mhrydain, am beidio am geisio i ddod yn rhieni mabwysiol gan Adopt Berkshire, asiantaeth mabwysiadu yn cael ei rhedeg gan Fwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead (RBWM), ar y sail y byddai ymgeiswyr Prydeinig/Ewropeaidd gwyn yn cael eu hystyried yn gyntaf.  

Mae’r Manders yn ddiwylliannol Brydeinig ac o etifeddiaeth Sikh Indiaidd, er nid oes cysylltiadau agos ganddyn nhw ag India ac nid oes teulu agos ganddyn nhw yn byw yno.

Trwy gydol y broses, eglurodd y cwpl y bydden nhw wrth eu bodd yn mabwysiadu plentyn o unrhyw gefndir ethnig, gyda neu heb chwiorydd neu frodyr.

Fodd bynnag, yn dilyn ymweliad â’r cartref ac asesiad gan Adopt Berkshire, dywedwyd wrthyn nhw, er y bydden nhw fel arall yn rhieni mabwysol addas iawn, ni allan nhw wneud cais gan y byddai cyplau gwyn yn cael y flaenoriaeth gan mai dim ond plant gwyn oedd ar gael ar gyfer mabwysiadu.

Cytunodd yr asiantaeth nad oedd unrhyw reswm i feddwl na allai’r Manders ddarparu cartref cariadus a sefydlog yn ariannol ond gwnaethon nhw awgrymu y dylen nhw ystyried am fabwysiadu o’r India.

Meddai David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae llawer o blant yn disgwyl am deulu cariadus fel Sandeep a Reena er mwyn iddyn nhw gael bywyd gwell. Mae colli’r cyfle hwnnw oherwydd etifeddiaeth ddiwylliannol, fel y’i gelwid, yn hollol amhriodol.

“Dywed y gyfraith na ddylai hil na diwylliant fod yn ffactorau blaenaf pan fo awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu yn paru darpar rieni a phlant. Bydd hyn yn helpu sicrhau system deg i bawb a fydd yn sicrhau’r deilliannau gorau i bobl ifanc yn ein system gofalu.”

Mae Sandeep a Reena wedi ymdrechu’n aflwyddiannus i gael yr asiantaeth i newid ei phenderfyniad drwy gwyno’n swyddogol wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Bu hyd yn oed lythyr gan y Prif Weinidog, Theresa May, yn gweithredu fel eu AS lleol, yn aflwyddiannus i newid penderfyniad yr asiantaeth.

Yn y diwedd, penderfynodd y Manders i fynd â’r achos i’r llys ac fe ofynnon nhw i gwmni cyfreithiol McAllister Olivarius, sydd yn arbenigo mewn helpu pobl sy’n wynebu triniaeth annheg a gwahaniaethu, i’w helpu.

Meddai Uwch Gwnsler yn McAllister Olivarius, Georgina Calvert-Lee, yn cynrychiolu’r cwpl:

“Nid yw’n dderbyniol i blentyn golli allan ar rieni mabwysol cariadus ar y sail yn unig nad yw’r plentyn yn rhannu’r un etifeddiaeth hiliol neu ddiwylliannol â’r mabwysiadwyr.

”Mae gwrthodiad Adopt Berkshire i ystyried Sandeep a Reena fel rhieni mabwysol i blentyn gwyn, waeth beth yw’r ystyriaethau diwylliannol ac ariannol eraill yn waharddiad effeithiol ar fabwysiadu traws-hiliol. Ni ddylid priodoli hil neu liw ar fabwysiadu.”

Meddai Sandeep Mander:

“Fel cwpl, ni ddychmygon ni ein bywyd heb deulu. Ar ôl mynychu gweithdai rhagarweiniol a drefnwyd gan RBWM ac Adopt Berkshire, rhoi cartref cariadus i blentyn mabwysiedig, p’un bynnag ei hil, oedd y cyfan yr oeddem ni am wneud. Roedd yr agwedd groesawus i bob hil, crefydd neu rywedd yn y gweithdai yn galonogol iawn.

“Yr hyn na wnaethom ni ei ddisgwyl oedd cael ein gwrthod i hyd yn oed gwneud cais i fabwysiadu, a hynny nid am ein hanallu i fabwysiadu ond oherwydd y diffiniwyd ein hetifeddiaeth fel “Indiaidd/Pacistanaidd”. O gael ein geni a’n magu ill dau yn y  Deyrnas Unedig, roeddem yn ystyried ei fod yn annheg bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fabwysiadwyr Gwyn/Ewropeaidd ac i ni gael ein gwahardd rhag y broses fabwysiadu.

“Lles y plentyn sydd bennaf, ac er ein bod o’r farn y dylid cymryd cyfrif o ffactorau fel hil a chrefydd, nid ydym yn credu y dylai penderfyniadau i wahardd cyplau rhag ymgeisio i fabwysiadu cael eu seilio yn unig arnyn nhw, yn hytrach dylid ystyried nifer o ffactorau.

“Rydym yn ifanc, yn bâr priod hapus am ddeg mlynedd bron, yn gyforthus yn ariannol, ac mae gennym le i fabwysiadu mwy nag un plentyn. Gwyddon na ddylai hynny fod wedi gwarantu caniatâd i ni, ond roeddem o’r gred y dylai o leiaf ein galluogi i wneud cais.

“At y rhwystredigaeth honno, cawsom ein siomi’n bellach gan weithdrefn gwyno’r RBWM. Hyd yn oed ar ôl i ni hysbysu arweinydd y cyngor ynglŷn â’n cwyn am ddioddef gwahaniaethu, y cydnabu hynny wrthym, cawsom ein synnu gan y terfynau amser a fethwyd o ran ymatebion swyddogol a’u methiant i archwilio.

“Rydym bellach yn canolbwyntio ar fabwysiadu rhyngwlad o’r Unol Daleithiau ac rydym yn falch ac yn gyffrous ein bod wedi’n cymeradwyo ar gyfer hwnnw. Ond gobeithio y gallwn godi ymwybyddiaeth o’r broblem hon, drwy ddatgelu’n triniaeth o fewn y system ddomestig, a helpu cyplau eraill o gefndiroedd ethnig gwahanol i gael eu hystyried yn deg, yn hytrach na chael eu gwrthod yn y cam cyntaf fel y digwyddodd i ni.”

Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r Manders yn yr achos cyfreithiol hwn oherwydd pryderon bod y polisi a gafodd ei ddefnyddio gan y cyngor yn gyfystyr â gwahaniaethu hiliol gan mai hwnnw yw’r unig ffactor y seiliwyd y term ‘etifeddiaeth ddiwylliannol’ arno. Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu yn defnyddio’r gyfraith o ran mabwysiadu yn gywir. Mae’r Comisiwn yn pryderu, pe na ddigwyddai hynny, bydd cyplau eraill yn dioddef gwahaniaethu anghyfreithlon oherwydd eu hil. 

Nodiadau i olygyddion

Mae’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol wedi cadarnhau na fyddan nhw bellach yn symud ymchwiliad yn ei flaen gan fod y Manders wedi cyflwyno’r achos i’r llys.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)