Cyhoeddwyd: 08 Nov 2017
Dyfarnodd llys heddiw fod polisi’r lanlord Fergus Wilson o wahardd tenantiaid Indiaidd a Phacistanaidd yn anghyfreithlon. Daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â’r achos yn erbyn Mr Wilson yn Llys Sirol Maidstone.
Meddai Prif Weithredwr y Comisiwn, Rebecca Hilsenrath:
"Rydym yn croesawu’r gwaharddiad hwn gan y llys o bolisi gosod gwahaniaethol Mr Wilson. Mae ein tai yn sylfaenol i’n bywydau preifat ac i bwy yr ydym. Mae gwrthod cartref i rywun ar sail hil neu liw yn ymddygiad atgas nad yw’n dderbyniol yn y gymdeithas heddiw. Mae anghydraddoldebau dwfn o hyd yn ein gwlad, fel y dangosodd ein hadroddiad hil yn gynharach eleni, ac yn drist cafodd rhai achosion yr anghydraddoldebau hynny eu harddangos gan sylwadau Mr Wilson yn ystod yr haf. Fodd bynnag, mae heddiw yn ein cymryd cam yn agosach i Brydain mwy cyfartal."