Cyhoeddwyd: 28 May 2019
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw yn lansio ymchwiliad ffurfiol i bennu a yw’r Blaid Lafur wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon, aflonyddu neu erlid pobl oherwydd eu bod yn Iddewon.
Rydym yn falch bod y Blaid Lafur wedi ymrwymo i gydweithio’n llawn â’r ymchwiliad hwn.
Cysylltom â Llafur ar ôl i ni gael nifer o gwynion am honiadau o wrth-semitiaeth yn y Blaid.
Rydym yn ofalus wedi ystyried yr ymateb a gawsom gan y Blaid ac rydym bellach wedi agor ymchwiliad ffurfiol o dan adran 20 Deddf Cydraddoldeb 2006 i archwilio’n bellach i’r pryderon.
Bydd yr ymchwiliad yn ceisio pennu:
- p’un ai a gafodd gweithredoedd anghyfreithlon eu cyflawni gan y Blaid a/neu’i chyflogeion a/neu’i hasiantau
- p’un ai ag ymatebodd y Blaid i’r cwynion o weithredoedd anghyfreithlon mewn modd cyfreithlon, effeithlon ac effeithiol
Mae’r cylch gorchwyl llawn ar gael ar ein tudalen ymchwilio.
Unwaith y daw ein hymchwiliad i ben byddwn yn cyhoeddi adroddiad o’n canfyddiadau, a allai gynnwys argymhellion.