Ymchwiliad i wrthsemitiaeth yn y Blaid Lafur yn canfod camau anghyfreithlon o wahaniaethu ac aflonyddu.

Cyhoeddwyd: 29 Oct 2020

Cyflwynwyd hysbysiad cam anghyfreithlon i’r Blaid Lafur ar ôl i ymchwiliad i wrthsemitiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei chanfod yn gyfrifol am gamau anghyfreithlon o aflonyddu a gwahaniaethu.

Yn dilyn cwynion cychwynol gan yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrthsemitiaeth, a chwynion pellach gan y Mudiad Llafur Iddewig, lansiodd y CCHD ei ymchwiliad ym mis Mai 2019.

Nododd yr ymchwiliad fethiannau difrifol yn arweinyddiaeth y Blaid Lafur wrth fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth a phroses annigonol ar gyfer trin cwynion gwrthsemitiaeth.

Mae’r Blaid yn gyfrifol am dri achos o fynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn ymwneud â:

  • ymyraeth gwleidyddol yng nghwynion gwrthsemitiaeth
  • methiant i ddarparu hyfforddiant digonol i’r rheiny oedd yn trin cwynion gwrthsemitiaeth
  • aflonyddu

Mae dadansoddiad y corff cydraddoldeb yn pwyntio at ddiwylliant o fewn y Blaid, nad oedd, ar y gorau, wedi gwneud digon i atal gwrthsemitiaeth ac, ar y gwaethaf, y gellid ei weld yn ei dderbyn.

Mae hyn yn cyferbynnu’n uniongyrchol i’r hyfforddiant a chanllaw cynhwysfawr ar waith i ddelio â chwynion o aflonyddu rhywiol sydd yn arddangos gallu’r Blaid i weithredu’n bendant pan fo angen iddi, gan ddangos y gellid fod wedi taclo gwrthsemitiaeth yn fwy effeithiol.

Dywed yr ymchwiliad fod angen i’r Blaid feithrin diwylliant sydd yn annog aelodau i herio ymddygiad amhriodol a sôn am gwynion gwrthsemitiaeth.

Rhybuddiodd y CCHD, er rhai gwelliannau diweddar, rhaid i’r Blaid Lafur wneud mwy os yw i adennill ymddiriedaeth y gymuned Iddewig, y cyhoedd a llawer o’i aelodau. Mae wedi amlinellu argymhellion clir, teg a chyraeddadwy i helpu’r Blaid wneud newidiadau positif i’w pholisïau, gweithdrefnau a diwylliant. Mae ymroddiad yr arweinydd newydd i roi’n hargymhellion ar waith i’w groesawu.

Mae gan y Blaid Lafur tan 10 Rhagfyr i ddrafftio cynllun gweithredu i roi’r argymhellion ar waith, y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol gan y llys os na wneir hynny.   

Meddai Caroline Waters, Cadeirydd Dros Dro’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

"Ymrwymodd y Blaid Lafur i oddefgarwch sero i wrthsemitiaeth. Amlygodd ein hymchwiliad amlfeysydd lle'r oedd ei hymagwedd ac arweinyddiaeth i daclo gwrthsemitiaeth yn annigonol. Ni ellir esgusodi hyn ac mae’n ymddangos ei fod yn ganlyniad i ddiffyg parodrwydd i daclo gwrthsemitiaeth yn hytrach na’r anallu i wneud hynny.

"Mae’n galonogol gweld bod arweinyddiaeth newydd y Blaid wedi ymrwymo i roi’n hargymhellion ar waith yn llawn. Os yw’r Blaid mewn gwirionedd am ailadeiladu ymddiriedaeth â’u haelodau a’r gymuned Iddewig, rhaid iddi gydnabod yr effaith a gafodd nifer o ymchwiliadau a blynyddoedd o fethiant i daclo gwrthsemitiaeth ar bobl Iddewig, a chymryd camau cyflym, diffuant tuag at welliant.

“Mae gan wleidyddion ar bob ochr gyfrifoldeb i osod safonau ar gyfer ein bywyd cyhoeddus ac i arwain y ffordd wrth herio pob math o hiliaeth. Bu enghreifftiau diweddar o ymddygiad gan wleidyddion amryw o bleidiau sydd yn disgyn islaw’r safonau a ddisgwyliem. Er bod rhyddid mynegiant yn hanfodol i wir ddadl wleidyddol, rhaid i wleidyddion gydnabod grym eu hiaith i beri holltau. Darpara’n hargymhellion sylfaen i arweinyddion i sicrhau eu bod yn cadw at gyfraith cydraddoldeb ac yn arddangos eu hymroddiad i amrywiaeth a chynhwysiant drwy eu geiriau a’u camau.”

Ymyrraeth wleidyddol

Yn y 70 o ffeiliau a edrychwyd arnynt, canfu’r CCHD dystiolaeth o ymyrraeth wleidyddol yn y broses cwynion, gyda 23 o achosion o Swyddfa Arweinydd yr Wrthblaid (LOTO) ac eraill yn ymyrryd yn amhriodol. Roedd hyn yn cynnwys staff LOTO yn dylanwadu ar benderfyniadau ar gwynion, yn enwedig penderfyniadau ar waharddiadau neu i archwilio hawliad. Gwnaed rhai penderfyniadau oherwydd diddordeb tebygol y wasg yn hytrach nag unrhyw feini prawf ffurfiol.

Mabwysiadodd y Blaid Lafur arfer o ymyrraeth wleidyddol mewn rhai cwynion ac mae’r dystiolaeth yn awgrymu ei fod wedi digwydd yn fwy rheolaidd mewn achosion gwrthsemitiaeth. Canfu’r CCHD i hyn fod yn anuniongyrchol wahaniaethol ac yn anghyfreithlon. Mae’r arfer yn rhoi’r person sydd yn cwyno am wrthsemitiaeth dan anfantais gan y gallai wynebu triniaeth wahanol ac andwyol a bod mewn risg na fyddai’i gŵyn yn cael ei drin yn deg.

Mae proses cwynion gwrthsemitiaeth annibynnol a thryloyw, lle caiff pob achos o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth honedig eu hymchwilio’n brydlon, yn gadarn a heb ymyrraeth, yn rhan hanfodol o’r diwygiadau sydd eu hangen i ailadeiladu ymddiriedaeth.

Prosesau cwynion a hyfforddiant

Bu ymateb y Blaid Lafur i gwynion gwrthsemitiaeth yn anghyson a heb dryloywder yn ei phroses ac wrth wneud penderfyniadau. Noda’r adroddiad hefyd broblemau gyda chadw cofnodion, oedi hir a diffyg cyfathrebiad ag achwynwyr.

Cafodd y rhai a gwynodd eu gwasanaethu’n wael gan y Blaid, a chafodd y rheiny a oedd yn ymateb i’r cwynion eu trin yn aml yn annheg. Er enghraifft, cafodd y mewnflwch cwynion ei adael yn bennaf heb ei fonitro dros nifer o flynyddoedd ac ni weithredwyd ar y rhan fwyaf o gwynion a anfonwyd ymlaen iddo. O’r 70 o ffeiliau a adolygwyd roedd cofnodion ar goll mewn 62 ohonynt, a bu rhaid i’r CCHD geisio am wybodaeth bellach.

Cydnabu’r adroddiad y gwelliannau diweddar gan y Blaid i’r gweithdrefnau cwynion a disgyblu. Fodd bynnag, nid oes digon o adnoddau yn y system ac nid yw’r rheiny sydd yn gyfrifol amdano wedi cael hyfforddiant i’r safon angenrheidiol.

Mae’r methiant i ddarparu hyfforddiant digonol i’r rheiny sydd yn trin cwynion gwrthsemitiaeth yn cyfrannu at y diffyg yn y system trin cwynion. Dyfarnwn fod y methiant hwn wedi gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn aelodau Iddewig y Blaid Lafur i fyny hyd at fis Awst 2020. Mae’r Blaid Lafur bellach wedi ymrwymo i roi hyfforddiant priodol i’r rheiny sydd yn trin cwynion gwrthsemitiaeth ac argymhellwn y dylai fod yn orfodol ac wedi’i roi ar waith yn llwyr cyn pen y chwe mis nesaf.

Aflonyddu anghyfreithiol

Cafodd dau unigolyn eu henwi, y mae’r Blaid Lafur yn gyfrifol am eu hymddygiad gwrthsemitiaeth, ac o ganlyniad dyfarnwyd achos o aflonyddu anghyfreithlon. Roedd eu hymddygiad yn cynnwys defnyddio trosiadau gwrthsemitiaeth ac awgrymiadau bod cwynion gwrthsemitiaeth yn rhai ffug neu daflu baw. Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud gan Ken Livingstone, cyn Maer Llundain a chyn aelod Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur, a phostion cyfryngau cymdeithasol a wnaed gan Pam Bromley, cynghorydd awdurdod lleol y Blaid Lafur yn Rossendale. Gan fod y bobl hyn yn gweithredu fel asiantau’r Blaid Lafur, roedd y Blaid Lafur yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eu hymddygiad.

Ymhob un o’r achosion, ystyriodd y CCHD ganfyddiad y rheiny a effeithiwyd gan yr ymddygiad, a dywedodd aelodau’r Blaid Lafur wrth y CCHD fod y sylwadau wedi cyfrannu at amgylchedd gelyniaethus i aelodau Iddewig ac aelodau eraill.

Dim ond prin crafu’r wyneb mae’r achosion hyn. Daethom o hyd i 18 o achosion ‘ffiniol’ lle nad oedd tystiolaeth ddigonol i ddod i’r casgliad bod y Blaid Lafur yn gyfrifol yn ôl y gyfraith dros ymddygiad yr unigolyn. Pobl oedd y rhain megis cynghorwyr lleol, ymgeiswyr etholiad leol a deiliaid swyddfa Etholaeth y Blaid Lafur. Roedd llawer mwy o ffeiliau yn cynnwys tystiolaeth o ymddygiad gwrthsemitiaeth gan aelod ‘cyffredin’ y Blaid Lafur, nad oedd yn dal unrhyw swydd neu rôl ac ni ellir dal y Blaid Lafur yn uniongyrchol gyfrifol amdano o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Argymhellion

Amlinella’r adroddiad terfynol nifer o argymhellion i’r Blaid i’w cynnwys yn ei chynllun gweithredu sydd yn rhwym i’r gyfraith. Maent yn cynnwys:

  • Comisiynu proses annibynnol i drin a phennu cwynion gwrthsemitiaeth, cyn gynted â bod newidiadau rheoli’n caniatáu. Dylai hyn barhau nes i ymddiriedaeth a hyder yn y broses gael eu hadfer yn llwyr.
  • Cydnabod yr effaith mae ymyrraeth wleidyddol wedi’i chael wrth drin cwynion gwrthsemitiaeth.
  • Rhoi rheolau a chanllaw clir ar waith sydd yn gwahardd a chosbi unrhyw ymyrraeth amhriodol yn y broses cwyno.
  • Rhoi trefniadau hirdymor ar waith ar gyfer goruchwyliaeth annibynnol o’r broses trin cwynion, i sicrhau bod safonau’n cael eu monitro a’u gorfodi, a bod adnoddau digonol ar waith.
  • Archwilio’i phroses trin cwynion i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau parhaus.
  • Mesur hyder y staff a rhanddeiliaid yn y broses trin cwynion.
  • Cyhoeddi gweithdrefn a pholisi cynhwysfawr, gan amlinellu sut bydd cwynion gwrthsemitiaeth yn cael eu trin a phenderfyniadau’n cael eu pennu. Dylai hyn gynnwys meini prawf sydd wedi’u cyhoeddi ar ba ymddygiad a fydd yn destun ymchwiliad a gwaharddiad, a beth a ystyrir yn gosb briodol am fathau gwahanol o ymddygiadau gwrthsemitiaeth a brofwyd.
  • Adolygu a diweddaru ei ‘Chod Ymddygiad: Polisi Cyfryngau Cymdeithasol’ i’w wneud yn eglur y gellir archwilio aelodau a’u bod yn ddarostyngedig i gamau disgyblu os byddant yn rhannu neu hoffi unrhyw gynnwys cyfryngau cymdeithasol gwrthsemitiaeth.
  • Comisiynu a darparu addysg a hyfforddiant ymarferol i bob unigolyn sydd yn ymwneud â’r broses cwynion gwrthsemitiaeth. Dylai hyn gael ei roi ar waith yn llawn cyn pen chwe mis ers cyhoeddi’r adroddiad hwn ac, o’r dyddiad hwnnw, ddylai fod yn orfodol cyn y gellir caniatau unrhyw unigolyn ymwneud ag unrhyw gam y broses cwynion gwrthsemitiaeth.
  • Sicrhau bod pob aelod sydd wedi’i ganfod o fod wedi ymgysylltu ag ymddygiad gwrthsemitiaeth yn ymgymryd â chwrs addysgol ar nodi a thaclo gwrthsemitiaeth, waeth beth lefel y gosb a gymhwyswyd.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid Iddewig i ddatblygu a rhoi ar waith egwyddorion ac arferion clir, hygyrch a chadarn i daclo gwrthsemitiaeth ac i drwytho hyder yn y dyfodol.

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)