Cyhoeddwyd: 05 Jun 2020
Caiff ymchwiliad statudol i nodi camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol a amlygwyd gan y pandemig coronafeirws ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae’r pandemig coronafeirws wedi taflu golau ar anghydraddoldeb hil ffurfiannol, hir dymor ym Mhrydain, ac wedi codi materion difrifol sydd eto i’w ateb yn llwyr.
Bydd ymchwiliad yn helpu datblygu argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithredu ar frys i daclo anghydraddoldebau hiliol sydd wedi hen galedu yng Nghymru. Camau cyntaf y broses fydd i gyfarfod ag arweinwyr cydraddoldeb hil i drafod ein cynigion am ymchwiliad ac i ffocysu’r cwmpas.
Adeilada penderfyniad y CCHD i ddefnyddio’i bwerau cyfreithiol i gynnal ymchwiliad ar ein cyhoeddiad blaenorol Map Ffordd i Gydraddoldeb Hiliol a alwodd am strategaeth llywodraeth-eang i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol hir sefydlog ym mhob maes bywyd, gan ganolbwyntio ar addysg, cyflogaeth, iechyd, tai a chyfiawnder troseddol. Dim ond y cam cyntaf yw’r cyhoeddiad hwn.
Gwyddom ers tro byd fod pobl o ystod o leiafrifoedd ethnig yn cael eu trin yn llai teg ar draws pob maes bywyd. Caiff hyn effaith arwyddocaol sydd yn croesi’r cenedlaethau ar eu cyfleoedd i lwyddo, ffynnu a bod yn llewyrchus.
Dengys gwaith sydd yn mynd rhagddo gan y CCHD fod nifer anghymesur o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn llety dan y safon, ac mae angen i wella mynediad i ofal iechyd, cyflogaeth, deilliannau addysgol a’r system mewnfudo.
Materion sydd wedi hen wreiddio yw’r anghydraddoldebau isorweddol hyn a nodom yn ein hadroddiad Uno Prydain Ranedig, ac mae’r pandemig coronafeirws wedi taflu goleuni arnynt ac wedi’u gwaethygu. Gwnawn ganolbwyntio ar faes penodol i amlygu effeithiau cronnol ar bobl o leiafrifoedd ethnig gwahanol ac argymhellwn y camau ar frys sydd angen eu cymryd. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod yr anghydraddoldebau hyn yn cael eu taclo unwaith ac am byth, fel na all yr effaith anghymesur a welom ddigwydd fyth eto.
Meddai Faith Walker, aelod Pwyllgor Cymru’r CCHD:
“Dyma’r amser i ni gymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hil sydd wedi hen galedu yng Nghymru. Mae’r Comisiwn yn bwriadu defnyddio’i bwerau statudol i fynd i’r afael â cholled bywydau a bywoliaeth pobl o leiafrifoedd ethnig gwahanol.
Mae angen i ni weithio ar y cyd ac uno i newid tirlun Cymru. Mae angen i ni fod yn ddiwyd, creadigol, dewr, gwrol a strategol wrth i ni weithio’n galed i ddileu anghydraddoldeb hil.
Dim ond trwy gymryd camau sydd wedi’u ffocysu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb sydd wedi hen wreiddio ledled Cymru byddwn yn meithrin gwlad fwy cyfartal a thecach y gall pob unigolyn ynddi gyflawni’u potensial llawn a ffynnu.”
Rhan o’n hymagwedd strategol hirdymor yw’r ymchwiliad hwn i daclo’r anghydraddoldeb ffurfiannol a ddatgelodd y pandemig coronafeirws.”
Un o nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd yw’r ymchwiliad fel rhan o raglen waith ehangach i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hil systemig. Mae hyn yn cynnwys adolygu a chryfhau’n galwadau presennol ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth cydraddoldeb hil cynhwysfawr ar waith yn ogystal â chynllun gweithredu. Buom hefyd yn weithredol ynglŷn â materion pandemig penodol sydd yn effeithio ar rai leiafrifoedd ethnig, gan gynnwys graddio rhagfynegol ym myd addysg a pholisiau dychwelyd i’r gwaith.
Yn ogystal, gwnaethom gyfres gadarn o argymhellion polisi i Brif Weinidog Cymru, a thrwy grŵp llywio Covid-19 BAME Llywodraeth Cymru.
Caiff cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn amlinellu’r manylion ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod.
Am ymholiadau’r wasg cysylltwch â Hannah Wharf 07863562511