Ystyriaethau hawliau dynol a chydraddoldeb wrth ymateb i’r pandemig coronafirws

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 19 Mar 2020

Ysgrifennodd y Cadeirydd, David Isaac, at y Prif Weinidog, Boris Johnson, am yr ystyriaethau hawliau dynol a chydraddoldeb wrth ymateb i’r pandemig coronafirws.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cydnabod ac yn cefnogi rôl sylfaenol y llywodraeth yn y cyd-destun presennol: i gadw pobl yn ddiogel a diogelu dyfodol ein cenedl. Rhaid bod hyn yn gysylltiedig â phenderfyniadau anodd a chyfaddawdau, yn bell y tu hwnt i gwmpas arferol llywodraethu pob dydd. Fodd bynnag, bydd gweithrediadau o’r fath yn fwyaf effeithiol pan gaiff diogelwch cyhoeddus a buddiannau economaidd eu cydbwyso â’n gwerthoedd hirsefydlog o ryddid a pharch.

Ni fydd COVID-19 yn gwahaniaethu, ond effeithia ar bobl yn wahanol. Mae’r flaenoriaeth yn parhau i’r sawl sydd yn uniongyrchol yn cael ei effeithio’n fwyaf difrifol, yn fwy tebygol yn bobl hŷn a’r rheini â chyflyrau iechyd sylfaenol, a’r bobl sydd yn gofalu amdanynt - boed a’u hanwyliaid ydynt neu ein gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig. 

Cafodd y cyfyngiadau a ymestynnwyd heddiw gan ddeddfwriaeth coronafirws brys eu llunio i ddiogelu’r rheini mewn sefyllfaoedd bregus ac i ddiogelu’n dyfodol. Mae ganddynt oblygiadau sylweddol i bawb ohonom, ac wrth iddynt ddod i rym bydd yn bwysig ystyried yn ofalus yr effeithiau penodol y gallent gael ar grwpiau sydd eisoes o dan anfantais mewn ffyrdd eraill. Rhaid i ni sicrhau na chânt eu gadael yn bellach ar ei hôl hi. 

Darpara hawliau dynol fframwaith clir ac ymarferol i helpu’n arweinyddion bennu’r hyn yw cyfyngiadau rhesymol a’r hyn nad ydynt, gan sicrhau y gallant lywio’r cydbwysedd gofalus rhwng diogelu’n iechyd a diogelu’n rhyddid a’n hanghenion unigol.

Bydd amddiffynfeydd sydd yn cyfannu neu gynyddu’n hawliau anodd eu hennill yn manteisio i’r eithaf ar ganiatâd a chydymffurfiaeth, ac yn y pen draw yn diogelu iechyd cyhoeddus orau. Dylai newidiadau mor fawr fod yn gymesur a phwyllog, a gwyddoniaeth a’r gyfraith wrth wraidd eu gweithredu. Rhaid bod pwyntiau adolygu a darfod clir ganddynt, yn hyblyg i anghenion penodol ac yn barhaus yn agored i her.

Mae elfennau o’r ddeddfwriaeth sydd â dimensiynau cydraddoldeb a hawliau dynol arbennig yn cynnwys y canlynol:

  • Wrth gadw pobl sydd wedi’u drwgdybio o gario coronafirws, a llaesu diogelwch hanfodol ar gadw pobl yn y ddalfa fel y’u hamlinellir yn y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn sicrhau bod esgusodiadau dim ond yn ymestyn cyn belled ag sydd yn hollol angenrheidiol, o ran amser a chwmpas, ac y byddant yn cael eu monitro a’u haddasu’n rheolaidd.
  • Dangosodd ymchwiliad gan y Comisiwn yn ddiweddar i’r system cyfiawnder troseddol y gall pobl sydd ag anabledd dysgu neu’n dioddef salwch iechyd ei chael hi’n anodd cyfranogi’n llawn yn yr achosion sydd bellach yn defnyddio’r dolenni fideo a sain yn y llys. Rhaid rhoi addasiadau priodol ar waith i gynnal eu gallu i gael treial teg.
  • Gwyddom fod cam-drin domestig (trosedd sydd yn effeithio gan fwyaf ar fenywod a merched) yn tueddu cynyddu mewn cyfnodau cyfyngiad, ac y bydd y lleoliadau gofal iechyd ac addysgol sydd yn cynnig modd o nodi’r broblem hon o dan bwysau digyffelyb.  
  • Bydd adleoli gweithwyr proffesiynol gofal eraill i ymateb i’r coronafirws yn helpu arbed bywydau. Ond hefyd bydd mewn perygl o adael pobl hŷn sydd eisoes yn fregus a’r rheini sydd yn byw gyda chyflyrau iechyd meddwl yn agored i niwed.  
  • Bydd y nifer llai o blant sydd o hyd yn gallu mynd i’r ysgol dim ond yn ffurfio cyfran fach o’r holl blant ag anghenion addysg arbennig, a bydd y weinyddiaeth i’r cynghorau ostwng cymorth i’r disgyblion hyn yn effeithio’n ddwfn ar deuluoedd. Ni ddylid cymryd penderfyniadau o’r fath ond pan fo’n gwbl angenrheidiol ac am y cyfnod byrraf posib, fel y’i gosodwyd yn y ddeddfwriaeth.
  • Mae’r gweithle wedi newid ers argyfwng economaidd 2008. Bydd mesurau i liniaru cyni ariannol yn hanfodol i weithwyr economi gig – sydd o hyd ag ychydig iawn o amddiffynfeydd ym maes cyfraith cyflogaeth, ac maent yn fwy tebygol o fod yn ifancach, o leiafrifoedd ethnig, neu ag ymrwymiadau gofalu – os bydd rhaid iddynt hunan ynysu.  
  • Gan fwyaf, menywod o hyd sydd yn gofalu dros blant a pherthnasau hŷn fel ei gilydd. Gydag ysgolion ac ysgolion meithrin bellach yn cau, dim ond cynyddu bydd yr angen ar gyfer y gwaith di-dâl hwn yn yr wythnosau i ddod. Ni ddylai menywod, gan gynnwys y rhai sydd yn feichiog ac ar absenoldeb mamolaeth gael eu rhoi dan anfantais yn eu gyfraoedd drwy ddilyn cyngor y llywodraeth i aros gartref. 

Ymysg yr heriau hyn, calonogol yw gweld pobl mewn cymunedau ledled y wlad hon yn weithredol yn helpu’r bobl o’u cwmpas sydd ei angen fwyaf. Dyma’r eiliad y gallwn ni fel gwlad ddechrau rhoi’r gwahaniaethau yn ddiweddar y tu ôl i ni a dangos i’r byd ein gallu ar gyfer tosturi ac undod.

Bydd hyblygrwydd a chyfaddawd yn hanfodol wrth ymateb yn effeithiol i’r argyfwng hwn, a phrin yw’r atebion hawdd. I lawer o bobl bydd y cyfyngiadau i fywyd pob dydd yn hynod o drwblus, ond yn y pen draw yn bosib. I eraill er hynny, gall y goblygiadau fod yn affwysol. Credwn ei fod yn bosibl i amddiffyn hawliau wrth arbed bywydau. Mae’r Comisiwn yn barod i gynghori llywodraeth a’r Senedd yn unol â’n dyletswyddau statudol.