Gwahaniaethu ym myd addysg yn cael ei daclo mewn cynllun cyfreithiol newydd

Cyhoeddwyd: 13 Sep 2017

Dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y caiff oddeutu £500,000 ei rhoi ar gael i ymladd gwahaniaethu ym myd addysg ar gyfer pobl nad ydyn nhw, efallai, yn gallu cymryd camau cyfreithiol.

Nod y Prosiect Cymorth Cyfreithiol newydd yw cynyddu mynediad i gyfiawnder i ddioddefwyr gwahaniaethu yn yr ysgol, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach neu gyrff cymwysterau cyffredinol.

Gellir defnyddio’r arian ar gyfer cyngor llinell flaen, gwaith paratoi neu gynrychioliad ac mae diddordeb gan y Comisiwn yn arbennig mewn cwynion lle mae achosion cyfreithiol eisoes wedi’u dechrau neu dan ystyriaeth.

Meddai Cadeirydd y Comisiwn, David Isaac:

“Bydd y cynllun hwn yn cynnig cymorth ar lawr gwlad i’r sawl na fyddai, fel arall, yn gallu cymryd camau cyfreithiol ac rydym yn edrych ymlaen at glywed gan gyfreithwyr a chynghorwyr ar sut y gallem weithio gyda’n gilydd.

“Mae mynediad i gyfiawnder yn fater allweddol i ni. Nid yw cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cryf yn golygu dim os caiff pobl eu prisio allan o gyfiawnder.

“Gwyddom o’n cynllun blaenorol y byddwn yn cael gwybodaeth werthfawr am wahaniaethu yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion a gwnawn ei defnyddio i lywio’n gwaith ehangach yn y sector hwn.”

Mae taclo bwlio ar sail hunaniaeth a gwahaniaethu ym myd addysg yn brosiect blaenoriaeth i’r Comisiwn eleni.

Gall enghreifftiau o’r gwahaniaethu hwn gynnwys myfyrwyr anabl na gynigwyd cyrsiau rhan amser iddyn nhw fel addasiad rhesymol neu nifer anghymesur o ddisgyblion hil neilltuol yn cael eu gwahardd.

Mae’r Comisiwn fel arfer yn cynorthwyo achosion strategol sydd yn profi’r gyfraith, sydd â goblygiadau i nifer fawr o bobl, neu’n cyfannu meysydd gwaith sydd eisoes yn bodoli. Tra bydd y gwaith strategol hwnnw’n parhau, golyga’r cynllun hwn y gallwn gynnig cymorth cyfreithiol i ystod o achosion newydd.

Mae’r cyfle hwn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni a ganolbwyntiodd ar wahaniaethu ar sail anabledd ym maes cyflogaeth, addysg, tai a darpariaeth gwasanaethau, ac yn ei sgil cafodd gwerth £190,000 o gynhorthwy cyfreithiol ei gynnig ar draws 94 o achosion.

Rhaid i’r hawliadau fod yn gysylltiedig â Rhan 6 Deddf Cydraddoldeb 2010 sydd yn amlinellu dyletswyddau sydd yn gymwys i ysgolion, darparwyr addysg bellach ac uwch, a chyrff cymwysterau cyffredinol. Gallai hawliadau gynnwys gwahaniaethu ar sail unrhyw nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010. 

Canfydder rhagor am y Prosiect Cymorth Cyfreithiol: gwahaniaethu ym myd addysg.

I gysylltu â ni i drafod y cynllun neu i wneud cais am gynhorthwy, gallwch anfon e-bost i’n tîm cyfreithiol neu ffonio 0161 829 8140. 

 

Manylion cyswllt i’r wasg

Am fwy o wybodaeth ar gyfer y wasg cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar:

0161 829 8102

07767 272 818 (y tu hwnt i oriau swyddfa)