Cyhoeddwyd: 20 Nov 2020
Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu hawliau plant a gwneud mwy i’w diogelu rhag effaith ddeifiol y pandemig, dywed corff hawliau dynol wrth y CU.
Yn ei adroddiad diweddaraf i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn (UN CRC), wedi’i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant 2020, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) wedi mynegi pryderon sylweddol am sut mae’r pandemig yn gwaethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli, ac yn cael effaith ddeifiol ar hawliau plant, eu lles a’u dyfodol. Mae pryderon allweddol yn cynnwys mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi, gan ledaenu anghydraddoldebau addysgol a gwaethygu iechyd meddwl.
Tlodi yw un o’r prif rwystrau rhag mwynhau hawliau plant yn llawn - gall byw mewn tlodi cael effaith negyddol ar iechyd, lles, addysg a datblygiad plant. Hyd yn oed cyn y coronafeirws roedd nifer y plant yn byw mewn tlodi ym Mhrydain yn cynyddu. Fodd bynnag, mae’r CCHD wedi rhybuddio bod mwy o deuluoedd bellach mewn risg o gael eu gwthio i dlodi yn sgil y pandemig, ac mae’r grwpiau a oedd eisoes yn wynebu tlodi yn debygol o weld eu hincwm yn gostwng ymhellach. Mae teuluoedd â phlant ymysg y rheiny sydd wedi’u taro’n galetaf.
Mae cau ysgolion ac anghydraddoldebau mewn amgylcheddau dysgu-gartref hefyd mewn risg o waethygu bylchau cyrhaeddiad sydd yn agor i rai grwpiau, gan gynnwys disgyblion anabl, rhai lleiafrifoedd ethnig, a’r rheiny sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Rhybuddia’r CCHD fod y symud i ddysgu ar-lein mewn perygl o danseilio’r hawl i addysg a gallai gael effaith hirdymor ar gyrhaeddiad. Mae’n sôn hefyd am yr heriau sydd yn effeithio ar ddarpariaeth ADY yn yr ysgol, gyda diffyg staff, rheolau cadw pellter cymdeithasol a’r angen i ganolbwyntio adnoddau ar yr argyfwng iechyd gan godi gofid am ddarpariaeth ADY.
Er na ddeallir effaith y pandemig ar iechyd meddwl plant yn llawn, mae’r CCHD wedi rhybuddio y gallai effaith gyfunol gallu cyfyngedig o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl a phlant yn cael eu torri i ffwrdd o gymorth yn yr ysgol, fod yn llym a pharhau’n hir.
Meddai Ruth Coombs, Pennaeth Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
Mae effaith y pandemig wedi bod yn arbennig o lym i blant a phobl ifanc, gan effeithio ar bob agwedd eu bywydau bob dydd o’u hiechyd meddwl ac addysg, i fywyd gartref a mwy. Rhaid i ni sicrhau bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn awr yn ystyried yr effaith hir-barhaus ar ddyfodol ein plant. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn cadw at ei rhwymedigaethau a rhoi hawliau plant yn ganolog wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru. Rhaid i ni sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru y gallu i ffynnu a chyrraedd ei botensial llawn a bod yr heriau a’r rhwystrau a achoswyd gan 2020 ddim yn sefyll yn eu ffordd.
Mae cyflwyniad y CCHD yn cynnwys set eang o argymhellion i Lywodraeth Cymru i gryfhau a diogelu hawliau plant, gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru:
- gynnal dadansoddiad pwysig o effaith byrdymor a hirdymor y pandemig ar blant, gan roi ystyriaeth i effeithiau negyddol, sydd yn dwysáu, y pandemig a’r effaith anghymesur ar rai grwpiau.
- amlinelli yn ei chanllaw statudol ar gyfer y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol anghydraddoldebau arbennig deilliannau a ddioddefir gan blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi, anghydraddoldebau y dylai’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddefnyddio’r ddyletswydd i fynd i’r afael â nhw.
- cyhoeddi strategaeth gostwng tlodi trawslywodraeth gyda thargedau a dangosyddion perfformiad.
- Ymrwymo yn yr hirdymor i gynyddu cyllid ystod o ymyraethau a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl, yn ystod ac ar ôl y pandemig
Mae meysydd eraill o bryderon a godwyd yn yr adroddiad yn cynnwys risg cynyddol camdriniaeth yn ystod y pandemig, tueddiadau gofidus megis lefelau trais uchel a ddioddefir gan blant yn y system cyfiawnder troseddol a chadw plant ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu yn gaeth.
Cyhoeddwyd adroddiad y CCHD cyn chweched adolygiad cyfnodol y DU gan y CU o hanes Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar hawliau plant. Bu’r adolygiad diwethaf yn 2016.